Diwygio eich trwydded radio

Cyhoeddwyd: 4 Mehefin 2010
Diweddarwyd diwethaf: 16 Ebrill 2025

Caiff gwasanaethau radio cymunedol a masnachol wneud cais am welliannau i ddarpariaeth bresennol o fewn yr ardal ddarlledu drwyddedig bresennol neu, mewn amgylchiadau penodol, am estyniad i ardal ddarlledu’r drwydded.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar gyfer gwasanaeth radio cymunedol a gwasanaethau radio masnachol, gan gynnwys sut i wneud cais.

Gall deiliad trwydded amlblecs radio lleol neu genedlaethol wneud cais i Ofcom ddiwygio ei drwydded fel y mae’n berthnasol i’r gwasanaethau rhaglenni sain digidol sy’n cael eu darparu ar yr amlblecs. Gall hyn fod yn gais i newid disgrifiad Fformat gwasanaeth (neu wasanaethau) presennol, cais i ychwanegu neu dynnu gwasanaeth, neu gais i newid y paramedrau technegol ar gyfer darlledu gwasanaeth (ee o stereo i fono).

Notes of guidance for radio multiplex licensees wishing to make a change to their licence (PDF, 161.5 KB)

Ceisiadau am amrywiadau amlblecs

Mae ceisiadau hŷn am newidiadau ar gael drwy'r Archifau Gwladol

Mae gennym ddyletswydd statudol i ymchwilio i unrhyw “newidiadau mewn rheolaeth” i’n gorsafoedd trwyddedig, gan gynnwys y rheini sy’n cael eu hachosi gan gaffaeliadau neu uno.

Change of control Notification Form (RTF, 947.7 KB)

Adolygiadau newid rheolaeth

Mae deunydd hŷn ar gael drwy'r Archifau Gwladol.