Datganiad: Gorsafoedd radio DAB+ newydd arfaethedig y BBC a newidiadau arfaethedig i Radio 5 Sports Extra

Cyhoeddwyd: 10 Ebrill 2025
Ymgynghori yn cau: 14 Mai 2025
Statws: Ar gau (yn aros datganiad)
Diweddarwyd diwethaf: 2 Gorffennaf 2025

Datganiad wedi'i gyhoeddi 2 Gorffennaf 2025

Mae’r BBC yn wynebu her barhaus o ddarparu cynnwys diddorol a pherthnasol i bob cynulleidfa, ar adeg o fwy o ddewis a chystadleuaeth gan ddarparwyr eraill. Nod cynigion y BBC yw gwneud mwy ar gyfer cynulleidfaoedd iau a C2DE sy’n cael llai o werth gan y BBC ar hyn o bryd, a diwallu hwyliau ac anghenion cynulleidfaoedd modern yn well.

Mae gan y BBC ddyletswydd i wasanaethu pob cynulleidfa ar draws y DU gyda chynnwys unigryw o ansawdd uchel o’r DU. Rydym yn croesawu nod y BBC o gysylltu â chynulleidfaoedd y mae angen iddo wneud mwy i’w cyrraedd, ac rydym yn cefnogi ei ymdrechion i arloesi.

Lansio pedair gorsaf radio DAB+ newydd

Rydym wedi dod i’r casgliad y caiff y BBC fwrw ymlaen i lansio tri o’r gwasanaethau hyn fel gorsafoedd DAB+: Radio 1 Dance, Radio 1 Anthems a Radio 3 Unwind. Daethom i’r casgliad y byddai’r gwasanaethau’n cynnig rhywfaint o werth cyhoeddus, ac roeddem o’r farn bod hyn yn ddigon i gyfiawnhau’r effaith gyfyngedig ar gystadleuaeth deg ac effeithiol.

Bydd y gwasanaethau hyn yn dod o dan amodau presennol y drwydded weithredu; rydym wedi penderfynu peidio â chyflwyno amodau newydd ar gyfer y gwasanaethau hyn ar hyn o bryd.

Rydym wedi dod i’r casgliad na chaiff y BBC fwrw ymlaen â’i fwriad arfaethedig i lansio estyniad ar gyfer Radio 2. Roeddem o’r farn y byddai’r cynnig yn darparu rhywfaint o werth cyhoeddus, ond nad oedd hyn yn ddigon i gyfiawnhau’r effaith sylweddol ar gystadleuaeth deg ac effeithiol, sy’n cynnwys y potensial i leihau cymhellion buddsoddi ar gyfer gweithredwyr radio masnachol.

Yr estyniad arfaethedig i oriau Radio 5 Sports Extra

Rydym wedi dod i’r casgliad dros dro na chaiff y BBC fwrw ymlaen â’r newid hwn. Daethom i’r casgliad y byddai’r estyniad arfaethedig yn darparu rhywfaint o werth cyhoeddus, er enghraifft drwy ehangu faint o chwaraeon sydd ar radio llinol. Fodd bynnag, nid oeddem yn credu bod hyn yn ddigon i gyfiawnhau’r effaith sylweddol ar gystadleuaeth deg ac effeithiol, yn enwedig ar rwydwaith talkSPORT a darpariaeth fasnachol gwasanaethau radio chwaraeon.

Ymatebion

Yn ôl i'r brig