Old Films HERO (1336 × 560px)

Dull gweithredu Ofcom ar gyfer hen ffilmiau a rhaglenni ar y teledu

Cyhoeddwyd: 13 Mai 2025

Mae trafodaeth wedi codi yn ddiweddar am hen ffilmiau a rhaglenni teledu sy’n cael eu darlledu ar deledu yn y DU. 

Yn benodol, mae cwestiynau wedi cael eu gofyn ynghylch sut mae cynulleidfaoedd yn teimlo am rywfaint o’r cynnwys yn y ffilmiau a’r rhaglenni hyn – ac mae rhai pobl hefyd wedi cwestiynu agwedd Ofcom atynt, fel rheoleiddiwr darlledu’r DU.

Mae rhai o’r ffilmiau a’r rhaglenni teledu hyn yn cael eu hystyried yn glasuron, ac mae llawer o wylwyr yn eu caru ac yn eu mwynhau. Fodd bynnag, mae’n anochel y bydd deunydd gafodd ei ysgrifennu am y tro cyntaf ddegawdau yn ôl weithiau’n cynnwys iaith neu farn a oedd yn dderbyniol bryd hynny, ond a allai deimlo’n hen ffasiwn neu’n wahaniaethol i gynulleidfaoedd heddiw.

Dull gweithredu Ofcom yn y maes hwn

Nid sensor yw Ofcom. Mae rhyddid mynegiant wrth galon ein rheolau darlledu – ac nid yw’r rheolau hyn yn atal darlledu cynnwys a all fod yn dramgwyddus neu’n ddadleuol i rai cynulleidfaoedd. 

Mae gan bob darlledwr ryddid golygyddol i benderfynu ar y math o raglenni neu ffilmiau y mae’n eu darlledu. Nid yw’r Cod Darlledu’n gwahardd unrhyw fath o iaith, er bod rheolau llym ynghylch yr hyn mae modd ei ddangos ar y teledu cyn y trothwy 9pm er mwyn diogelu plant rhag cynnwys a allai fod yn anaddas iddynt.

Os byddwn yn cael cwynion gan wylwyr am gynnwys a allai fod yn dramgwyddus, byddwn yn asesu a oes cyfiawnhad dros ymchwiliad. Yn ogystal â rhoi ystyriaeth ofalus i’r hawl i ryddid mynegiant, rydyn ni’n asesu’r cynnwys yn llawn ac yn ystyried y ffactorau cyd-destunol ym mhob achos, fel natur y cynnwys, y sianel, yr amser y cafodd rhaglen ei darlledu, a’r disgwyliadau yr oedd gwylwyr yn debygol o fod wedi’u cael ar gyfer rhaglen o’r math hwnnw ar y gwasanaeth hwnnw.

Rydyn ni bob amser yn edrych ar achos ar sail ei ffeithiau ac felly mae pob penderfyniad rydyn ni’n ei wneud yn unigryw i’r cynnwys, ac i’r amgylchiadau penodol y cafodd ei ddarlledu ynddynt.

Ein gwaith i ddeall sut mae cynulleidfaoedd yn teimlo

Rydyn ni’n rheoleiddiwr ar sail tystiolaeth. Mae agweddau cynulleidfaoedd yn datblygu dros amser ac yn adlewyrchu newidiadau cymdeithasol ehangach. Felly, mae’n hanfodol bod ein dull rheoleiddio hefyd yn datblygu i adlewyrchu pryderon y cyhoedd fel y maen nhw’n newid. Er mwyn cynyddu ein dealltwriaeth, rydyn ni’n cynnal ymchwil cynulleidfaoedd yn rheolaidd ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys trais a chynnwys rhywiol, ac iaith dramgwyddus. Mae hyn yn ei dro yn helpu darlledwyr i wneud penderfyniadau am y rhaglenni a’r ffilmiau maen nhw’n eu darlledu – gan gynnwys y rhai a wnaed gryn amser yn ôl.

Mae ein hymchwil yn dangos bod cynulleidfaoedd yn cydnabod bod iaith sy’n gallu bod yn dramgwyddus yn gallu chwarae rôl bwysig ar y teledu a’r radio. Ond maen nhw hefyd eisiau i ddarlledwyr fod yn ofalus yn hyn o beth, yn enwedig er mwyn diogelu plant a phan fydd iaith wahaniaethol yn cael ei defnyddio.

Mae’r ymchwil hefyd yn dangos bod gwylwyr yn gwerthfawrogi cael eu rhybuddio am gynnwys sydd wedi dyddio ac a allai fod yn wahaniaethol ar y teledu cyn penderfynu ei wylio, gan barhau i gael y cyfle i wylio a mwynhau’r math hwn o gynnwys.

 

Yn ôl i'r brig