Mae'r adran hon yn ymwneud ag annibyniaeth olygyddol darlledwyr a'u rheolaeth dros raglennu gyda gwahaniaeth rhwng cynnwys golygyddol a hysbysebu.
Mae ein canllawiau ar Adran Naw yn cael eu diweddaru ar hyn o bryd. Mae fersiwn wedi'i harchifo o'r canllawiau ar gael (trwy'r Archifau Cenedlaethol), ond nodwch nad yw hyn yn adlewyrchu'r rheolau cyfredol.
(Mae deddfwriaeth berthnasol yn cynnwys, yn benodol, adrannau 319(2)(fa), (i) a (j) a 319(4) (a), (c), (e) ac (f ), adran 321(1) a (4) ac adran 324(3) o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003; adran 202 o Ddeddf Darlledu 1990 (paragraff 3 yn Rhan 1 Atodlen 2); Erthyglau 11, 13, 15, 17, 18 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Deledu Trawsffiniol (ar gyfer Gwasanaethau ECTT yn unig); rheoliad 3(4)(d) Rheoliadau Diogelu Defnyddiwr Rhag Masnachu Annheg 2008, adran 21(1) Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000; Erthygl 10 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol); a Siarter a Chytundeb y BBC.)
Mae Cymal 49, Cytundeb y BBC yn gwneud darpariaeth ar gyfer ariannu gwasanaethau'r BBC a ariennir gan ffi drwydded yn rhannol gan rai dulliau ariannu amgen. Gan fod yr adran hon yn berthnasol i wasanaethau darlledu’r BBC yn y DU a ariennir gan y ffi drwydded a gwasanaethau rhaglenni ar-alw y BBC ("BBC ODPS"), rhaid i gynnwys o’r fath gydymffurfio â’r rheolau yn yr Adran hon.
Mae'r adran hon o'r Cod yn cwmpasu’r holl raglennu teledu a rhaglennu clyweled ar wasanaethau rhaglenni ar-alw (ODPS) y BBC.
Mae Adran Deg o’r Cod yn ymwneud â radio yn unig[1]. Mae gofynion deddfwriaethol amrywiol ar y cyfryngau. Felly, pan ddefnyddir terminoleg debyg yn Adrannau Naw a Deg o’r Cod, nid oes ganddi’r un ystyr o reidrwydd. Dylai darlledwyr gyfeirio at yr ystyron penodol a ddarperir ym mhob adran.
Noder: Mae’r adran hon o’r Cod yn cynnwys set o egwyddorion a rheolau cyffredinol, trosfwaol sy’n berthnasol i'r holl gyfeiriadau masnachol mewn rhaglennu teledu. Mae hefyd yn cynnwys rheolau penodol ar gyfer gwahanol fathau o weithgarwch masnachol (e.e. gosod cynnyrch, deunydd cysylltiedig â rhaglenni, nawdd), p’un a yw’n cael ei gynnal gan endidau masnachol neu anfasnachol, neu ar eu rhan. Mae’r rheolau’n sicrhau bod yr egwyddorion canlynol yn cael eu cynnal: annibyniaeth olygyddol; gwahaniaeth rhwng hysbysebu a chynnwys golygyddol; tryloywder trefniadau masnachol; a diogelu defnyddwyr.
Ystyr "rhaglennu"
Yr holl gynnwys darlledu ac eithrio hysbysebu ar y pryd a thelesiopa. Mae rhaglenni, rhagflasau, traws-hyrwyddiadau a chredydau nawdd i gyd yn fathau o raglennu.
Ystyr “cyfeiriad masnachol”
Unrhyw gyfeiriad gweledol neu sain o fewn rhaglennu at gynnyrch, gwasanaeth neu nod masnach (boed yn gysylltiedig ag endid masnachol neu anfasnachol)
Ystyr "nod masnach”
Mewn perthynas â busnes, mae'n cynnwys unrhyw ddelwedd (megis logo) neu sain sy'n gysylltiedig fel arfer â'r busnes hwnnw neu ei gynhyrchion neu wasanaethau.
Egwyddorion
Sicrhau bod darlledwyr yn cynnal annibyniaeth a rheolaeth olygyddol dros raglennu (annibyniaeth olygyddol).
Sicrhau bod gwahaniaeth rhwng cynnwys golygyddol a hysbysebu (gwahaniaeth).
Diogelu cynulleidfaoedd rhag hysbysebu llechwraidd (tryloywder).
Sicrhau bod cynulleidfaoedd yn cael eu diogelu rhag y risg o niwed ariannol (diogelu defnyddwyr).
Sicrhau bod nawdd anaddas yn cael ei atal (nawdd anaddas).
Rheolau
Rheolau cyffredinol
Noder: Mae Rheolau 9.1 i 9.5 yn berthnasol i bob cyfeiriad masnachol ar raglennu teledu. Maent yn adlewyrchu'r ffaith bod cynnwys cyfeiriadau masnachol mewn rhaglennu teledu’n creu risg benodol i’r egwyddorion allweddol gael eu tanseilio, neu ymddangos felly.
9.1 Rhaid i ddarlledwyr gynnal rheolaeth olygyddol annibynnol dros raglennu.
Noder: Mae Rheol 9.1(a) yn berthnasol i Wasanaethau ECTT.
9.1(a) Rhaid i ddarlledwyr sicrhau nad yw unrhyw hysbysebwr yn cael dylanwad golygyddol dros gynnwys rhaglenni.
9.2 Rhaid i ddarlledwyr sicrhau bod y cynnwys golygyddol yn wahanol i hysbysebu.
Noder: Am y diffiniad o “hysbysebu”, gweler Cod Ofcom ar gyfer amserlennu hysbysebion teledu (“COSTA (PDF, 257.6 KB)”).
9.2 Gwaherddir hysbysebu llechwraidd.
Ystyr “hysbysebu llechwraidd”
Mae hysbysebu llechwraidd yn ymwneud â chyfeiriad at gynnyrch, gwasanaeth neu nod masnach o fewn rhaglen nad yw'r darlledwyr yn bwriadu i'r fath gyfeiriad fod yn hysbyseb ond nid yw hyn yn cael ei egluro i'r gynulleidfa. Mae'n debygol yr ystyrir bod y fath hysbysebu'n fwriadol os bydd yn digwydd yn gyfnewid am daliad neu ystyriaeth werthfawr arall i'r darlledwr neu’r cynhyrchydd.
9.4 Ni ddylid hyrwyddo cynhyrchion, gwasanaethau na nodau masnach mewn rhaglennu.
Noder: Am eithriadau penodol i’r rheol hon, gweler y rheolau ar wasanaethau cyfradd premiwm (Rheolau 9.26 i 9.30) a’r rheolau ar ddeunydd cysylltiedig â rhaglenni (Rheolau 9.31 a 9.32).
9.5 Ni cheir rhoi amlygrwydd gormodol mewn unrhyw raglen i gynnyrch, gwasanaeth neu nod masnach. Gall amlygrwydd gormodol ddeillio o’r canlynol:
- Presenoldeb, neu gyfeiriad at, gynnyrch, gwasanaeth neu nod masnach mewn rhaglennu, lle nad oes cyfiawnhad golygyddol;
- y ffordd y mae cynnyrch, gwasanaeth neu nod masnach yn ymddangos neu’r ffordd y cyfeirir atynt mewn rhaglennu.
Gosod cynnyrch (a gosod propiau)
Dylai darlledwyr nodi bod yr ystyron a nodir isod yn ddiffiniadau statudol a geir yn neddfwriaeth y DU (oni nodir yn wahanol, Deddf Cyfathrebu 2003, fel y’i diwygiwyd).
Ystyr "gosod cynnyrch"
Cynnwys cyfeiriad at gynnyrch, gwasanaeth neu nod masnach mewn rhaglen pan fydd eu cynnwys at ddiben masnachol, ac yn gyfnewid am wneud unrhyw daliad, neu roi unrhyw ystyriaeth werthfawr arall, i unrhyw ddarparwr perthnasol neu unrhyw berson sy’n gysylltiedig â darparwr perthnasol, ac nad yw’n osod propiau.
Ystyr "gosod propiau"
Cynnwys cyfeiriad at gynnyrch, gwasanaeth neu nod masnach mewn rhaglen pan nad oes gan ddarparu’r cynnyrch, gwasanaeth neu nod masnach unrhyw werth arwyddocaol, ac nad yw unrhyw ddarparwr perthnasol, neu berson sy’n gysylltiedig â darparwr perthnasol, wedi derbyn unrhyw daliad neu ystyriaeth werthfawr arall mewn perthynas â’i gynnwys, neu’r cyfeiriad ato, yn y rhaglen, gan ddiystyru’r costau a arbedir trwy gynnwys y cynnyrch, gwasanaeth neu nod masnach, neu gyfeiriad ato, yn y rhaglen
Bydd gosod propiau sy’n ymwneud â chyflenwi cynhyrchion neu wasanaethau sydd o “werth arwyddocaol” yn cael eu trin fel gosod cynnyrch ac mae’n rhaid iddynt gydymffurfio â Rheolau 9.6 i 9.14.
Ystyr “gwerth arwyddocaol"
Gwerth gweddilliol sy’n fwy na dibwys.
Ystyr “gwerth gweddilliol"
Unrhyw werth ariannol neu werth economaidd arall sydd yn nwylo’r darparwr perthnasol ar wahân i arbedion cost sy’n deillio o gynnwys y cynnyrch, gwasanaeth neu nod masnach, neu gyfeiriad ato, mewn rhaglen.
Ystyr “darparwr perthnasol”
Darparwr y gwasanaeth rhaglenni teledu y mae’r rhaglen wedi’i cynnwys ynddo neu gynhyrchydd y rhaglen.
Ystyr “person cysylltiedig”
Mae gan berson cysylltiedig yr un ystyr ag yn adran 202 Deddf Darlledu 1990 (paragraff 3 yn Rhan 1 Atodlen 2). Yn gryno, mae’r personau a ganlyn yn gysylltiedig â pherson penodol (mae ‘person’ yn cynnwys unigolyn yn ogystal â chorff corfforaethol ac endidau cyfreithiol corfforedig ac anghorfforedig eraill):
(a) person sy’n rheoli’r person hwnnw;
(b) person cyswllt i’r person hwnnw neu i’r person yn (a); a
(c) corff sydd wedi’i reoli gan y person hwnnw neu gan berson cyswllt i’r person hwnnw.
Mae gan reoli a pherson cyswllt yr ystyron a ddisgrifir ym mharagraff 1, Rhan 1, Atodlen 2 Deddf 1990.
Mae Rheolau 9.6 i 9.11 yn berthnasol i bob rhaglen
9.6 Gwaherddir gosod cynnyrch mewn:
a) rhaglenni newyddion;
b) rhaglenni plant.
Ystyr "rhaglen i blant"
Yn y cyd-destun hwn mae rhaglen i blant yn "rhaglen sy'n cael ei wneud ar gyfer gwasanaeth rhaglenni teledu neu wasanaeth rhaglenni ar-alw, ac i'w gwylio'n bennaf gan bersonau o dan un ar bymtheg oed".
Mae Rheol 9.7 yn berthnasol i raglenni, y dechreuodd y gwaith o’u cynhyrchu ar ôl 31 Hydref 2020.
9.7 Mae gosod cynnyrch wedi’i wahardd mewn:
a) rhaglenni crefyddol
b) rhaglenni materion defnyddwyr
c) rhaglenni materion cyfoes
Noder: Ar gyfer rhaglenni crefyddol, materion defnyddwyr a materion cyfoes a gynhyrchir o dan awdurdodaeth y DU, mae Rheol 9.12 yn berthnasol hefyd
Ystyr "rhaglen materion cyfoes"
Mae rhaglen materion cyfoes yn un sy’n cynnwys eglurhad a/neu ddadansoddiad o ddigwyddiadau a materion cyfoes, gan gynnwys deunydd sy’n ymdrin â materion gwleidyddol neu ddiwydiannol sy'n bwnc llosg neu â pholisi cyhoeddus cyfredol.
9.8 Ni ddylai gosod cynnyrch ddylanwadu ar gynnwys ac amserlennu rhaglen mewn ffordd sy’n amharu ar gyfrifoldeb ac annibyniaeth olygyddol y darlledwr:
9.9 Ni ddylai cyfeiriadau at gynhyrchion, gwasanaethau a nodau masnach a osodir gael eu hyrwyddo.
9.10 Ni ddylai cyfeiriadau at gynhyrchion, gwasanaethau a nodau masnach a osodir fod yn rhy amlwg.
Noder: Dylai darlledwyr gyfeirio at y cyfarwyddyd sy’n cyd-fynd ag Adran Naw y Cod am ragor o wybodaeth ynghylch sut i ddefnyddio Rheolau 9.9 a 9.10.
9.11 Gwaherddir gosod y cynhyrchion, gwasanaethau neu nodau masnach a ganlyn:
a) sigaréts neu gynnyrch tybaco arall;
b) gosod gan neu ar ran menter sy’n cynhyrchu neu’n gwerthu sigaréts neu gynnyrch tybaco arall fel prif weithgaredd;
c) meddyginiaeth sydd ar gael trwy bresgripsiwn yn unig;
d) sigaréts electronig neu gynwysyddion ail-lenwi; neu
e) osod gan neu ar ran menter sy’n cynhyrchu neu’n gwerthu sigaréts electronig neu gynwysyddion ail-lenwi fel prif weithgaredd, os dechreuodd y rhaglen y mae’r gosod yn digwydd ynddi gael ei chynhyrchu ar ôl 31 Hydref 2020.
Ystyr “sigarét electronig”
Mae sigarét electronig yn gynnyrch y gellir (i) ei ddefnyddio ar gyfer yfed anwedd sy’n cynnwys nicotin drwy ddarn ceg, neu unrhyw gydran o’r cynnyrch hwnnw, gan gynnwys cetris, tanc a’r ddyfais heb getris na thanc (p’un ai a yw’n gynnyrch sy'n cael ei waredu, ei ail-lenwi drwy ddefnyddio cynhwysydd ail-lenwi a thanc, neu ei ail-wefru gyda chetris untro), a (ii) nad yw’n gynnyrch meddygol o fewn ystyr rheoliad 2 Rheoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 nac yn ddyfais feddygol o fewn ystyr rheoliad 2 Rheoliadau Dyfeisiau Meddygol 2002.
Ystyr “cynhwysydd ail-lenwi”
Mae cynhwysydd ail-lenwi yn gynhwysydd sy’n (i) cynnwys hylif a nicotin y gellir ei ddefnyddio i ail-lenwi sigarét electronig; a (ii) nad yw'n gynnyrch meddyginiaethol o fewn ystyr rheoliad 2 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 nac yn ddyfais feddygol o fewn ystyr rheoliad 2 o Reoliadau Dyfeisiau Meddygol 2002.
Yn ogystal â Rheolau 9.6 i 9.11, mae Rheolau 9.12 i 9.13 hefyd yn berthnasol i osod cynnyrch sydd wedi’i gynnwys ym mhob rhaglen a gynhyrchir o dan awdurdodaeth y DU:
Yn ychwanegol at Reolau 9.6 i 9.11, mae Rheolau 9.12 i 9.13 hefyd yn berthnasol i osod cynnyrch yn yr holl raglenni a gynhyrchir o dan awdurdodaeth y DU:
Ystyr “rhaglenni a gynhyrchir o dan awdurdodaeth y DU”
Ystyr “rhaglenni a gynhyrchir o dan awdurdodaeth y DU” yw unrhyw raglen a gynhyrchir neu a gomisiynir gan naill ai:
a) darparwr y gwasanaeth rhaglenni teledu neu unrhyw berson sy'n gysylltiedig â’ darparwr hwnnw (ac eithrio yn achos ffilm a wnaed ar gyfer y sinema); neu
b) unrhyw berson arall gyda’r bwriad o’i dangos am y tro cyntaf fel rhan o wasanaeth rhaglenni teledu sydd o dan awdurdodaeth y Deyrnas Unedig.
9.12 Ni chaniateir gosod cynnyrch mewn rhaglenni a gynhyrchir o dan awdurdodaeth y DU os:
a) dechreuwyd ar gynhyrchu’r rhaglen cyn 1 Tachwedd 2020;
b) mae’r rhaglen yn: i) rhaglen grefyddol; ii) rhaglen cyngor i ddefnyddwyr; neu iii) rhaglen materion cyfoes.
Noder: Ar gyfer rhaglenni crefyddol, cyngor i ddefnyddwyr neu faterion cyfoes a gynhyrchir o dan unrhyw awdurdodaeth ar ôl 31 Hydref 2020, mae Rheol 9.7 yn berthnasol.
9.13 Ni chaniateir gosod y cynnyrch canlynol:
a) diodydd meddwol;
b) bwyd neu ddiod sy’n cynnwys lefelau uchel o fraster, halen neu siwgr (“HFSS”);
c) gamblo;
d) llaeth fformiwla (llaeth babanod), yn cynnwys llaeth fformiwla dilynol;
e) pob cynnyrch meddyginiaethol;
f) tanwyr sigaréts, papurau sigarét neu getyn y bwriedir ei ysmygu;
g) unrhyw gynnyrch, gwasanaeth neu nod masnach na chaniateir ei hysbysebu ar y teledu.
Noder: Diffinnir cynhyrchion bwyd a diod sy’n cynnwys lefelau uchel o fraster, halen neu siwgr gan y cynllun proffilio maethynnau a ddyfeisiwyd gan Asiantaeth Safonau Bwyd y DU i'w ddefnyddio gan Ofcom.
Mae Rheol 9.14 yn berthnasol i raglenni a gynhyrchir neu a gomisiynir gan ddarparwr gwasanaeth rhaglenni teledu neu unrhyw berson cysylltiedig â’r darparwr hwnnw:
9.14 Rhaid darparu hysbysiad clir o osod cynnyrch, ar ffurf logo niwtral cyffredinol, fel a ganlyn:
a) ar ddechrau’r rhaglen y mae’r gosod cynnyrch yn ymddangos;
b) pan fo’r rhaglen yn ailgychwyn ar ôl egwyl masnachol;
c) ar ddiwedd y rhaglen.
Noder: Diffinnir y logo niwtral cyffredinol gan y meini prawf a ddisgrifir yn Atodiad 1 i’r cyfarwyddyd sy’n cyd-fynd ag Adran Naw o’r Cod.
Rhaglenni a brynir a thynnu sylw: Pan fydd darlledwr yn caffael rhaglen sy’n cynnwys gosod cynnyrch (h.y. nid yw’r darlledwr wedi cynhyrchu na chomisiynu’r rhaglen ac nid yw’r rhaglen wedi’i chynhyrchu na’i chomisiynu gan berson cysylltiedig), nid oes angen darparu hysbysiad o hyn. Fodd bynnag, dylid nodi bod yn rhaid i bob rhaglen o’r fath gydymffurfio ag unrhyw reolau perthnasol eraill yn y Cod. Os bydd darlledwr yn caffael rhaglen gan drydydd parti ar yr amod bod y gosod cynnyrch yn y rhaglen yn cael ei ddarlledu (gan ddibynnu ar gydymffurfio â rheolau perthnasol), dylid nodi gofynion Rheol 9.3 (hysbysebu llechwraidd). O dan y fath amgylchiadau, mae Ofcom yn disgwyl i ddarlledwyr sicrhau yr hysbysir cynulleidfaoedd bod y rhaglen yn cynnwys gosod cynnyrch.
Nawdd
Ystyr “rhaglennu a noddir”
Ystyr rhaglennu a noddir (a all gynnwys rhaglen, sianel, darn o raglen neu floc o raglenni) yw rhaglennu y mae peth o’r costau, neu’r holl gostau, wedi’u talu gan noddwr. Mae’n cynnwys rhaglenni a gyllidir gan hysbysebwyr.
Ystyr “noddwr”
Unrhyw fenter gyhoeddus neu breifat neu unigolyn (ar wahân i ddarlledwr neu gynhyrchydd rhaglenni) sy’n cyllido’r rhaglennu gyda’r bwriad o hyrwyddo ei gynhyrchion, ei wasanaethau, ei nodau masnach a/neu ei weithgareddau.
Ystyr “costau”
Unrhyw ran o’r costau sy’n gysylltiedig â chynhyrchu neu ddarlledu’r rhaglennu
Noder:
1) Mae’r rheolau’n ceisio sicrhau bod annibyniaeth olygyddol yn cael ei gwarchod a bod gwahaniaeth yn cael ei gynnal rhwng golygyddol a hysbysebu. Maent hefyd yn ceisio gwarchod rhag nawdd anaddas a sicrhau bod trefniadau nawdd yn cadw at yr egwyddor o dryloywder.
2) Ac eithrio’r gydnabyddiaeth o nawdd, bydd unrhyw gyfeiriad at noddwr, ei gynnyrch, ei wasanaethau neu ei nodau masnach, mewn rhaglen a noddir o ganlyniad i drefniant masnachol gyda’r darlledwr, gwneuthurwr y rhaglen neu berson cysylltiedig yn cael ei drin fel gosod cynnyrch ac mae’n rhaid iddo gydymffurfio â Rheolau 9.6 i 9.14.
Cynnwys na cheir ei noddi
9.15 Mae’n rhaid peidio â noddi rhaglenni newyddion a materion cyfoes.
(Gweler ystyr "rhaglen materion cyfoes" o dan Reol 9.7 uchod.)
Noddwyr gwaharddedig a dan gyfyngiad
9.16 Ni chaiff unrhyw raglenni (yn cynnwys sianel) dderbyn nawdd gan unrhyw noddwr sydd wedi’i wahardd rhag hysbysebu ar y teledu. Nid yw'r rheol hon yn berthnasol i sigaréts electronig a chynwysyddion ail-lenwi sy'n ddarostyngedig i Reol 9.16(a).
a) Gwaherddir rhaglennu a noddir sydd â’r nod neu'r effaith uniongyrchol neu anuniongyrchol o hyrwyddo sigaréts electronig a/neu gynwysyddion ail-lenwi.
(Gweler ystyr “sigarét electronig” a “cynhwysydd ail-lenwi” o dan Reol 9.11 uchod.)
9.17 Rhaid i nawdd gydymffurfio â’r rheolau cynnwys ac amserlennu sy’n berthnasol i hysbysebu ar y teledu.
Cynnwys darllediadau a noddir
9.18 Mae’n rhaid i noddwr beidio â dylanwadu ar gynnwys a/neu amserlennu sianel neu raglennu mewn modd sy’n amharu ar gyfrifoldeb ac annibyniaeth olygyddol y darlledwr.
Noder:Dylid darllen y rheol hon ar y cyd â Rheolau 9.1 i 9.5.
Ni ddylai’r trefniadau nawdd arwain at greu nac aflunio cynnwys golygyddol fel yr aiff yn gyfrwng hyrwyddo’r noddwr neu ei fuddiannau.
Ceir amgylchiadau cyfyngedig lle gellir cyfeirio at noddwr (neu ei gynhyrchion, ei wasanaethau neu ei nodau masnach) yn ystod rhaglen y mae’n ei noddi o ganlyniad i drefniant masnachol gyda’r darlledwr neu wneuthurwr y rhaglen. Er enghraifft, yn achos trefniant gosod cynnyrch (gweler Rheolau 9.6 i 9.14) neu pan gaiff y trefniant nawdd ei ddatgan (gweler Rheolau 9.19 i 9.25).
Mae'n rhaid i gyfeiriad golygyddol at noddwr (neu ei gynhyrchion, ei wasanaethau neu ei nodau masnach) mewn rhaglen nad yw'n deillio o drefniant masnachol gyda’r darlledwr, gwneuthurwr y rhaglen neu berson cysylltiedig, gydymffurfio â Rheolau 9.1 i 9.5.
Cydnabyddiaeth o nawdd
9.19 Mae’n rhaid i nawdd gael ei ddatgan yn glir drwy gyfrwng cydnabyddiaeth o’r nawdd. Mae’n rhaid i’r gydnabyddiaeth ddatgan yn glir:
a) pwy yw’r noddwr drwy gyfeirio at ei enw neu ei nod masnach; a
b) y berthynas rhwng y noddwr a’r cynnwys a noddir.
9.20 Yn achos rhaglenni a noddir, rhaid darlledu’r gydnabyddiaeth ar ddechrau a/neu yn ystod ac/neu ar ddiwedd y rhaglen.
Noder: Hefyd gellir darlledu’r gydnabyddiaeth ar ddechrau neu ddiwedd egwyl fasnachol yn ystod y rhaglen a noddir.
Ar gyfer unrhyw gynnwys arall a noddir (e.e. sianeli), dylid darlledu'r gydnabyddiaeth o'r nawdd ar adegau priodol yn ystod yr amserlen, er mwyn sicrhau bod cynulleidfaoedd yn deall bod y cynnwys wedi’i noddi.
9.21 Mae’n rhaid i’r gydnabyddiaeth o nawdd fod yn wahanol i gynnwys golygyddol.
9.22 Mae’n rhaid i’r gydnabyddiaeth o nawdd fod yn wahanol i hysbysebu. Yn benodol:
a) Mae'n rhaid i gydnabyddiaeth o nawdd o amgylch rhaglenni a noddir beidio â chynnwys negeseuon hysbysebu neu alwadau i weithredu. Yn benodol, mae'n rhaid i gydnabyddiaeth beidio ag annog rhywun i brynu neu rentu cynhyrchion neu wasanaethau’r noddwr neu drydydd parti. Mae’n rhaid i ffocws y gydnabyddiaeth fod ar y trefniant nawdd ei hun. Gall cydnabyddiaeth o’r fath gynnwys cyfeiriad penodol at gynhyrchion, gwasanaethau neu nodau masnach y noddwr at ddibenion helpu i ddatgan pwy yw’r noddwr a/neu’r trefniant nawdd yn unig.
b) Mae'n rhaid i gydnabyddiaeth o nawdd a ddarlledir yn ystod rhaglenni beidio â bod yn rhy amlwg. Mae’n rhaid i'r fath gydnabyddiaeth gynnwys datganiad gweledol neu lafar cryno a niwtral sy'n nodi'r trefniant nawdd. Dim ond graffig o enw, logo neu symbol nodedig arall y noddwr y gellir ei gynnwys gyda hyn. Mae’n rhaid i gynnwys y graffig fod yn statig a rhai iddo bedio â chynnwys unrhyw negeseuon hysbysebu, galw i weithredu neu unrhyw wybodaeth arall am y noddwr, ei gynhyrchion, ei wasanaethau neu ei nodau masnach.
9.23 Os yw noddwr wedi’i wahardd rhag gosod cynnyrch yn y rhaglen y mae’n ei noddi, ni ellir dangos cydnabyddiaeth o’r nawdd yn ystod y rhaglen a noddir.
9.24 Os oes cydnabyddiaeth o nawdd wedi’i chynnwys mewn rhagflas o raglen, mae’n rhaid i’r gydnabyddiaeth fod yn fyr ac yn eilaidd.
9.25 Caniateir noddi deunydd gysylltiedig â rhaglenni a gellir cydnabod y noddwr pan ddangosir manylion y dull o sicrhau’r deunydd. Rhaid i unrhyw gydnabyddiaeth fod yn fyr ac yn eilaidd, a rhaid iddi fod ar wahân i unrhyw gydnabyddiaeth i noddwr y rhaglen.
Defnyddio Gwasanaethau Cyfradd Premiwm Rheoledig
Noder: Mae Gwasanaethau Cyfradd Premiwm Rheoledig yn is-set o Wasanaethau Cyfradd Premiwm, a reoleiddir gan Ofcom – gweler ein Canllaw Cyflym i wasanaethau cyfradd premiwm.
Dylai trwyddedai gyfeirio at ganllawiau Adran Naw am fwy o fanylion am y termau a ddefnyddir yn yr adran hon.
9.26: Pan fo darlledwr yn gwahodd gwylwyr i gymryd rhan neu ryngweithio â nhw yn ei raglenni, dim ond trwy wasanaethau ffôn cyfradd premiwm rheoledig neu wasanaethau teleffoni eraill y gall godi tâl am y cyfranogiad neu’r rhyngweithio hwnnw, ac mae'r refeniw a gynhyrchir ar eu cyfer yn cael ei rannu rhwng partïon perthnasol.
9.27: Fel arfer, ystyrir Gwasanaethau Cyfradd Premiwm Rheoledig yn gynhyrchion neu wasanaethau, ac felly ni ddylent ymddangos mewn rhaglenni, oni bai:
- a) eu bod yn galluogi gwylwyr i gymryd rhan yn uniongyrchol neu fel arall cyfrannu'n uniongyrchol at gynnwys golygyddol y rhaglen; neu
- b) eu bod yn dod o fewn ystyr deunydd sy'n gysylltiedig â rhaglenni.
Noder: Mae pob un o'r eithriadau uchod yn ddarostyngedig i'r rheol amlygrwydd gormodol.
9.28: Pan fydd Gwasanaeth Cyfradd Premiwm Rheoledig yn cael ei gynnwys mewn rhaglen, rhaid i brif bwrpas y rhaglen barhau i fod yn olygyddol yn glir. Rhaid i hyrwyddo'r gwasanaeth dan sylw fod yn amlwg yn atodol i'r prif bwrpas hwnnw.
9.29: Rhaid i unrhyw ddefnydd o Wasanaethau Cyfradd Premiwm Rheoledig gydymffurfio â'r gofynion statudol ar ddarparwyr gwasanaethau cyfradd premiwm – gweler Gweithredu gwasanaeth cyfradd premiwm.
Costau galwadau nad ydynt yn daearyddol
9.30: Rhaid egluro’r gost i wylwyr am ddefnyddio gwasanaethau teleffoni nad ydynt yn ddaearyddol yn glir a'i ddarlledu fel y bo'n briodol.
Noder: Gwasanaethau teleffoni nad ydynt yn ddaearyddol yw'r rhifau ffôn hynny nad ydynt yn gysylltiedig â lleoliad penodol. Dylai trwyddedai gyfeirio at y canllawiau am ragor o fanylion ar gymhwyso'r rheol hon, yn ogystal â chanllawiau i reolau cysylltiedig perthnasol (gweler yn benodol, y canllawiau i Reolau 2.13 i 2.16).
Deunydd cysylltiedig â rhaglenni
Ystyr “deunydd cysylltiedig â rhaglenni”
Mae deunydd sy’n gysylltiedig â rhaglenni’n cynnwys cynhyrchion neu wasanaethau sy’n deillio’n uniongyrchol o raglen ac sydd wedi’u bwriadu’n benodol i ganiatau i wylwyr elwa'n llawn o’r rhaglen honno neu ryngweithio â hi.
Nodiadau:
1) Gall darlledwyr gyfeirio at argaeledd deunydd sy’n gysylltiedig â rhaglenni heb i gyfeiriadau o’r fath gyfrif tuag at faint o hysbysebu y caniateir iddynt ei ddarlledu (fel y nodir yng Nghôd Ofcom ar amserlennu hysbysebu teledu (“COSTA”). Mae’r rheolau canlynol yn cefnogi egwyddor allweddol annibyniaeth olygyddol drwy sicrhau bod cyfeiriadau at ddeunydd sy’n gysylltiedig â rhaglenni yn cael eu gwneud yn bennaf am resymau golygyddol ac nid hysbysebu.
2) Caniateir noddi deunydd sy’n gysylltiedig â rhaglenni (gweler Rheol 9.25).
9.31 Dim ond yn ystod neu o amgylch y rhaglen y mae’n deillio’n uniongyrchol ohoni y caniateir hyrwyddo deunydd sy’n gysylltiedig â rhaglenni a dim ond lle mae cyfiawnhad golygyddol dros hynny.
Noder: Dylai darlledwyr gyfeirio at y diffiniad statudol o osod cynnyrch (gweler yr ystyron a’r rheolau sy’n dod cyn Rheol 9.6). Lle gallai cynnwys cyfeiriadau yn ystod rhaglenni at osod cynnyrch (PRM) fodloni’r diffiniad o osod cynnyrch, dylid cadw hyrwyddo deunydd o’r fath ar wahân i gynnwys golygyddol er mwyn osgoi codi materion o dan Reol 9.9.
Yn yr un modd, lle mae’r PRM yn cynnwys hyrwyddo argaeledd cynhyrchion neu wasanaethau i’r gynulleidfa yn gyfnewid am daliad, mae'n bosibl y gallai hyn fodloni’r diffiniad o hysbysebu teledu (gweler COSTA). Felly, dylid cadw hyrwyddiadau o’r fath ar wahân i gynnwys golygyddol (gweler Rheol 9.2).
9.32 Rhaid i’r darlledwr gadw cyfrifoldeb am sicrhau priodoldeb hyrwyddo deunydd gysylltiedig â rhaglenni.
Traws-hyrwyddiadau
Noder: Mae traws-hyrwyddo rhaglenni, sianeli a gwasanaethau eraill sy’n gysylltiedig â darlledu wedi’i gwmpasu gan reolau penodol sydd wedi'u cynnwys yn y Cod Traws-hyrwyddo.
Dylai darlledwyr nodi y dylai traws-hyrwyddiadau hefyd gydymffurfio â holl ofynion perthnasol yn y Cod Darlledu ac, yn benodol, Rheolau 9.1 i 9.5.
Apeliadau elusennol
Noder: Caniateir apeliadau elusennol mewn rhaglenni dim ond os cânt eu darlledu am ddim.
Mae’r rheolau canlynol yn cydnabod, er bod elusennau’n wahanol i endidau masnachol yn unig, fod risg bosibl o hyd y gallai’r gynulleidfa ddioddef niwed ariannol o ganlyniad i apeliadau o’r fath (diogelu defnyddwyr). Ymhellach, mae llawer o elusennau’n gweithredu mewn cystadleuaeth â’i gilydd ac felly mae’r rheolau’n anelu at sicrhau bod apeliadau elusennol o fudd i amrywiaeth o elusennau. Lle bo hynny'n briodol, rhaid i ddarlledwyr roi sylw arbennig hefyd i Adran Pump o’r Cod (Didueddrwydd Dyladwy).
9.33 Caniateir apeliadau elusennol sy’n cael eu darlledu am ddim mewn rhaglenni ar yr amod bod y darlledwr wedi cymryd camau rhesymol i’w fodloni ei hun:
a) y gall y sefydliad dan sylw gyflwyno tystiolaeth foddhaol o statws elusennol, neu, yn achos apêl argyfwng, fod cronfa gyhoeddus gyfrifol wedi’i sefydlu i ymdrin â'r mater;
b) nad yw’r sefydliad dan sylw wedi’i wahardd rhag hysbysebu ar y teledu;
c) ar gyfer gwasanaethau ECTT, os yw’r apêl yn hunan-hyrwyddo ar gyfer y darlledwr, ni chaif gynnwys, yn weledol nac ar lafar, bobl sy’n cyflwyno rhaglenni newyddion a materion cyfoes yn rheolaidd.
9.34 Lle bo modd, dylai darlledu apeliadau elusennol, naill ai’n unigol neu gyda’i gilydd dros amser, fod o fudd i ystod eang o elusennau.
Hyrwyddiadau ariannol ac argymhellion buddsoddi
Ystyr “hyrwyddiad ariannol”
Gwahoddiad neu gymhelliant i gymryd rhan mewn gweithgaredd buddsoddi yw hyrwyddiad ariannol (yn unol ag adran 21(1) Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (Cyfyngiadau ar hyrwyddo ariannol).
Ystyr “argymhelliad buddsoddi”:
Mae argymhelliad buddsoddi yn digwydd pan fydd rhywun yn argymell penderfyniad buddsoddi penodol yn uniongyrchol, er enghraifft, prynu neu werthu cyfranddaliad penodol neu danysgrifio cynnig cyfranddaliad penodol.
Noder: Mae’r rheolau sy’n berthnasol i hyrwyddiadau ac argymhellion o’r fath yn adlewyrchu’r risg benodol y gallai cyfeiriadau o’r fath arwain at niwed ariannol i’r gynulleidfa (diogelu defnyddwyr), a’r angen canlyniadol i gynnal a diogelu annibyniaeth a thryloywder golygyddol.
9.35 Wrth ddarlledu hyrwyddiadau ariannol ac argymhellion buddsoddi, rhaid i ddarlledwyr gydymffurfio â’r darpariaethau perthnasol yn Atodiad 1 y Cod hwn.
Apeliadau am gyllid ar gyfer rhaglennu neu wasanaethau
Noder: Yn ystod rhaglennu, gall darlledwyr ddarlledu apeliadau am roddion i wneud cynnwys golygyddol neu ariannu eu gwasanaeth.
Mae rheolau 9.36 i 9.39 yn adlewyrchu’r potensial am niwed ariannol pan fydd darlledwyr yn apelio am arian gan wylwyr (diogelu defnyddwyr) ac yn sicrhau bod y gwaith golygyddol yn cael ei wneud. Cynhelir annibyniaeth, tryloywder, a gwahaniaeth rhwng hysbysebu a chynnwys golygyddol.
9.36 Rhaid dweud wrth wylwyr beth yw pwrpas yr apêl a faint y mae’n ei godi.
9.37 Rhaid cyfrif am bob rhodd ar wahân a’u defnyddio at y diben y cawsant eu rhoi.
9.38 Ni ddylai darlledwyr gynnig unrhyw fuddio ychwanegol na chymhellion eraill i gyfranwyr.
9.39 Ni ddylid rhoi amlygrwydd gormodol i apeliadau am arian ar gyfer rhaglenni neu wasanaethau mewn perthynas ag allbwn cyffredinol y gwasanaeth.
Noder: Mae Gwasanaethau Cyfradd Premiwm Rheoledig yn is-set o Wasanaethau Cyfradd Premiwm sy’n cael eu rheoleiddio gan PhonePay Plus. Dylai trwyddedai gyfeirio at y canllawiau am fanylion pellach am y termau a ddefnyddir yn yr adran hon.
Troednodyn:
[1] Gan gynnwys cynnwys sain yn unig ar wasanaeth rhaglenni ar-alw (ODPS) y BBC.