Mae'r adran hon yn ymwneud â darlledu radio yn unig ac ei nod sicrhau tryloywder cyfathrebiadau masnachol fel ffordd o ddiogelu defnyddwyr.
(Mae deddfwriaeth berthnasol yn cynnwys, yn benodol, adrannau 319(2)(f), (i) a (j), 319(4)(e) ac (f) a 321y Ddeddf Cyfathrebiadau 2003, rheoliad 3(4)(d) Reoliadau Diogelu Defnyddiwr rhag Masnachu Annheg 2008, adran 21(1) Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000, Erthygl 10 o Gonfensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol), a Siarter a Chytundeb y BBC.
Mae Cymal 49 o Gytundeb y BBC yn darparu ar gyfer ariannu gwasanaethau'r BBC a ariennir gan ffi’r drwydded yn rhannol gan rai dulliau ariannu amgen. Gan fod yr adran hon yn berthnasol i wasanaethau darlledu’r BBC yn y DU a ariennir gan ffi’r drwydded a gwasanaethau rhaglenni ar-alw y BBC (“BBC ODPS”), rhaid i gynnwys o’r fath gydymffurfio â’r rheolau yn yr Adran hon.
Mae adran hon o’r Cod yn berthnasol i radio yn unig (gan gynnwys rhaglenni sain yn unig ar wasanaeth rhaglenni ar-alw (ODPS) y BBC.
Mae Adran Naw y Cod (Cyfeiriadau Masnachol mewn Rhaglenni Teledu) yn berthnasol i deledu yn unig.[1]
Mae radio a theledu yn destun i ofynion deddfwriaethol gwahanol ac felly mae’r derminoleg yn benodol i’r radio yn yr adran hon o’r Cod.
Egwyddor
I sicrhau tryloywder cyfathrebiadau masnachol fel modd o sicrhau diogelwch defnyddwyr.
Rheolau
Rheolau Cyffredinol
10.1 Rhaid i raglenni sy’n ddarostyngedig i, neu’n gysylltiedig â threfniant masnachol cael signal sy’n briodol, er mwyn sicrhau bod y trefniant masnachol yn amlwg i’r gwrandawyr.
10.2 Rhaid gwahanu hysbysebion sbot yn glir oddi wrth rhaglenni.
10.3 Ni chaniateir unrhyw gyfeiriad masnachol, na deunydd sy’n awgrymu trefniant masnachol, mewn neu o amgylch bwletinau newyddion na chyflwyniadau desg newyddion.
Nid yw’r rheol hon yn berthnasol i:
- cyfeiriad at gyflenwr newyddion at ddiben nodi’r cyflenwr hwnnw fel ffynhonnell newyddion;
- llinynnau ffeithiol arbenigol nad ydynt yn fwletinau newyddion nac yn gyflwyniadau desg newyddion, ond a all fod yn rhan o neu o amgylch rhaglenni o’r fath;
- defnyddio gwasanaethau cyfradd premiwm (e.e. ar gyfer arolygon darlledwyr/gorsafoedd); a
- chyfeiriadau sy’n hyrwyddo cynhyrchion a/neu wasanaethau’r darlledwr a/neu’r orsaf ei hun (e.e. gwefan y rhaglen/darlledwr/gorsaf neu ddigwyddiad gan y darlledwr/gorsaf).
10.4 Ni chaniateir unrhyw gyfeiriad masnachol na deunydd sy’n awgrymu trefniant masnachol, ar wasanaethau radio sydd wedi’u hanelu’n bennaf at blant neu mewn rhaglenni plant sydd wedi’u cynnwys mewn unrhyw wasanaeth.
Nid yw’r rheol hon yn berthnasol i:
- gredydau ar gyfer cysylltiad trydydd parti â rhaglennu neu roi gwobrau cystadleuaeth;
- ddefnyddio gwasanaethau cyfradd premiwm (e.e. ar gyfer mynediad i gystadleuaeth darlledu);
- chyfeiriadau sy’n hyrwyddo cynhyrchion a/neu wasanaethau’r orsaf/darlledwr ei hun (e.e. gwefan y rhaglen/darlledwr/gorsaf neu ddigwyddiad darlledwr/gorsaf).
10.5 Ni chaiff unrhyw drefniant masnachol sy’n cynnwys taliad, neu ddarpariaeth ryw ystyriaeth werthfawr arall, i’r darlledwr ddylanwadu ar ddewis neu gylchdroi cerddoriaeth i'w darlledu.
10.6 Ni chaniateir i unrhyw raglennu fod yn destun trefniant masnachol gyda thrydydd parti sydd wedi’i wahardd rhag hysbysebu ar y radio. Nid yw'r rheol hon yn berthnasol i sigaréts electronig a chynwysyddion ail-lenwi sy'n destun i Reol 10.6(a).
10.6 (a) Gwaherddir rhaglennu noddedig gyda’r nod neu'r effaith uniongyrchol neu anuniongyrchol o hyrwyddo sigaréts electronig a/neu gynwysyddion ail-lenwi.
10.7 Rhaid i gyfeiriadau masnachol mewn rhaglennu gydymffurfio â’r rheolau cynnwys hysbysebu ac amserlennu sy’n berthnasol i ddarlledu radio.
10.8 Rhaid clirio cyfeiriadau masnachol sydd angen cadarnhad neu dystiolaeth cyn eu darlledu i’w darlledu yn yr un modd â hysbysebion.
Rhaglennu: Mae rhaglennu'n cynnwys yr holl ddeunydd a ddarlledir ar wahân i hysbysebion sbot.
Hysbysebion sbot: Hysbysebion sbot yw’r hysbysebion a ddarlledir yn ystod egwyliau masnachol.
Trefniant masnachol: Contract, neu unrhyw ddealltwriaeth ffurfiol arall, rhwng darlledwr (neu unrhyw asiant neu gyflogai i’r darlledwr), a thrydydd parti (neu drydydd partïon) yw trefniaint masnachol.
Mae enghreifftiau o drefniant masnachol yn cynnwys nawdd rhaglenni, rhoi gwobrau cystadleuaeth a darparu gwasanaeth cyfradd premiwm. Felly, bydd rhaglenni sy’n destun trefniant masnachol yn cynnwys taliad a/neu ryw gydnabyddiaeth brisiadwy arall yn gyfnewid am gyfeiriad masnachol (pa un a yw’n hyrwyddol neu beidio).
Cyfeiriad masnachol: At ddibenion adran hon y Cod, cyfeiriad mewn rhaglen at frand, nod masnach, gynnyrch a/neu wasanaeth sy’n:
- destun trefniant masnachol; neu’n
- hyrwyddo cynhyrchion neu wasanaethau’r darlledwr/gorsaf ei hun.
Ystyr “noddwr” (gweler Rheol 10.6(a))
Mae “noddwr” yn golygu unrhyw fenter gyhoeddus neu breifat neu unigolyn (ac eithrio darlledwr neu gynhyrchydd rhaglenni) sy’n cyfrannu at y costau rhaglennu gyda’r bwriad o hyrwyddo enw, delwedd, cynhyrchion, gwasanaethau, nodau masnach neu weithgareddau'r fenter neu’r unigolyn hwnnw.
Ystyr “rhaglennu a noddir” (gweler Rheol 10.6(a))
Ystyr “rhaglennu a noddir” yw rhaglennu (a all gynnwys rhaglen, sianel, darn o raglen neu floc o raglenni) y mae peth o’r costau, neu’r holl gostau, wedi’u talu gan noddwr. Mae’n cynnwys rhaglenni a ariannir gan hysbysebwyr.
Ystyr “sigarét electronig” (gweler Rheolau 10.6 a 10.6(a))
Cynnyrch y gellir (i) ei ddefnyddio er mwyn cymryd anwedd sy'n cynnwys nicotin i mewn drwy ddarn ceg, neu unrhyw ran o’r cynnyrch hwnnw, gan gynnwys cetrisen, tanc a’r ddyfais heb getrisen na thanc (p’un ai a yw’n gynnyrch sy'n cael ei waredu, ei ail-lenwi drwy ddefnyddio cynhwysydd ail-lenwi a thanc, neu ei ail-wefru gyda chetris untro ), ond (ii) nad yw’n gynnyrch meddygol o fewn ystyr rheoliad 2 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 nac yn ddyfais feddygol o fewn ystyr rheoliad 2 o Reoliadau Dyfeisiau Meddygol 2002.
Ystyr “cynhwysydd ail-lenwi” (gweler Rheolau 10.6 a 10.6(a))
Cynhwysydd y gellir (i) ei ddefnyddio i ail-lenwi sigarét electronig; ond (ii) nad yw’n gynnyrch meddyginiaethol o fewn ystyr rheoliad 2 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 nac yn ddyfais feddygol o fewn ystyr rheoliad 2 o Reoliadau Dyfeisiau Meddygol 2002.
Tryloywder: Dylai’r gwrandawyr wybod pryd mae deunydd yn cael ei ddarlledu yn gyfnewid am dâl neu gydnabyddiaeth werthfawr arall. Er mwyn sicrhau tryloywder, rhoddir hysbysiad bod hyn yn digwydd.
Dylid cyflawni tryloywder trefniant masnachol trwy ddwyn sylw mewn modd priodol at frand, nod masnach, gynnyrch a/neu wasanaeth trydydd parti (neu drydydd partïon) sydd wedi talu i gael sylw mewn darllediad – drwy, er enghraifft: gynnwys credyd am nawdd; cyfeiriad at roddwr gwobr; hyrwyddo rhif cyfradd premiwm ar gyfer cael gwrandawyr i gyfrannu at raglennu.
Hysbysiadau: Mae’n ofynnol i ddarlledwyr roi, ar adegau priodol, wybodaeth glir mewn rhaglennu i hysbysu'r gwrandawyr am unrhyw drefniant masnachol sy'n effeithio ar y rhaglennu honno.
Gan hynny, mae hysbysiadau priodol yn hanfodol wrth gydymffurfio â Rheol 10.1. Mae pedair agwedd i'w hystyried wrth asesu pa fath o hysbysiadau sy'n briodol, er mwyn sicrhau cydymffurfiad:
- Geiriad – rhaid i’r geiriad fod yn glir i sicrhau tryloywder uniongyrchol y trefniant masnachol yn syth;
- Lleoli – er mwyn i’r trefniant masnachol fod yn dryloyw, rhaid rhoi hysbysiad amdano ar ddechrau pob enghraifft o ddeunydd a ddarlledir sy'n destun iddo;
- Amlder – mae'n bosib y bydd angen darparu hysbysiadau ar adegau priodol yn achos allbwn hirach sy'n destun trefniant masnachol;
- Adnabod (y trydydd parti) - er mwyn i’r trefniant masnachol fod yn dryloyw mae'n rhaid nodi teitl perthnasol y trydydd parti ar yr awyr.
Dylai darlledwyr sicrhau bod deunydd a ddarlledir sy’n ymddangos naill ai fel ymgyrch gan orsaf neu’n darparu asesiad annibynnol o gynhyrchion/gwasanaethau yn wirioneddol annibynnol a heb fod yn destun trefniant masnachol. Felly wrth hysbysu am gyfeiriadau masnachol mewn, er enghraifft, rhaglennu materion defnyddwyr/cyngor, mae’n rhaid bod yn ofalus iawn, gan ei bod yn hanfodol na rhagdybir bod darlledu hyrwyddiadau y telir amdanynt o nwyddau a gwasanaethau yn sylw/datganiad annibynnol.
Llinynnau ffeithiol arbenigol: Gallai llinynnau ffeithiol arbenigol mewn bwletinau newyddion neu gyflwyniadau desg gynnwys, er enghraifft, teithio, chwaraeon, cyllid a’r tywydd.
Rhaglennu ffeithiol, gan gynnwys materion gwleidyddol neu ddiwydiannol sy’n bwnc llosg a materion sy’n ymwneud â pholisi cyhoeddus cyfredol: Dylai darlledwyr gofio bod yn rhaid i bob rhaglen gydymffurfio ag Adran Pump o’r Cod. Mae cyfeiriadau masnachol a ddarlledir o dan drefniant o’r fath hefyd yn rhwym wrth Adran 7 Cod Hysbysebu mewn Darlledu’r DU y Pwyllgor Darlledu ar Arferion Hysbysebu. At hynny, atgoffir darlledwyr bod Rheol 2.2 yn berthnasol i bob rhaglen ffeithiol (h.y. mae'n rhaid i eitemau ffeithiol beidio â chamarwain y gynulleidfa'n sylweddol).
Cyfeiriadau masnachol y mae’n rhaid eu cadarnhau neu eu cyfiawnhau: Mae enghreifftiau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: hawliadau ffeithiol cymhleth (gan gynnwys y y rhai y mae modd eu cadarnhau’n wrthrychol); hawliadau am arwain y farchnad; prisiau cynigion arbennig; cymariaethau â chystadleuwyr; hawliadau am ragoriaeth; hawliadau a chynigion sy’n cynnwys cyfyngiadau ac eithriadau sylweddol; hawliadau “am ddim”; tystebau; ardystiadau; a hawliadau a all fod o ddiddordeb penodol i blant.
Gwasanaethau Cyfradd Premiwm Rheoledig a gwasanaethau tebyg
Noder: Mae Gwasanaethau Cyfradd Premiwm Rheoledig yn is-set o Wasanaethau Cyfradd Premiwm, a reoleiddir gan Ofcom – gweler ein Canllaw Cyflym i wasanaethau cyfradd premiwm.
Dylai trwyddedai gyfeirio at ganllawiau Adran Deg am fwy o fanylion am y termau a ddefnyddir yn yr adran hon.
10.9: Rhaid i unrhyw ddefnydd o Wasanaethau Cyfradd Premiwm Rheoledig mewn rhaglenni gydymffurfio â 'r gofynion statudol ar ddarparwyr gwasanaethau cyfradd premiwm – gweler Gweithredu gwasanaeth cyfradd premiwm.
10.10: Rhaid egluro’r gost i wrandawyr am ddefnyddio Gwasanaethau Cyfradd Premiwm Rheoledig, neu wasanaethau cyfathrebu eraill y mae'r refeniw a gynhyrchir yn cael ei rannu rhwng partïon perthnasol, yn glir iddynt a'i ddarlledu fel y bo'n briodol.
Noder: Dylai trwyddedai gyfeirio at ganllawiau am fwy o fanylion ar gymhwyso'r rheol hon, yn ogystal â chanllawiau i reolau cysylltiedig perthnasol (gweler yn benodol, y canllawiau i Reolau 2.13 i 2.16).
Apeliadau elusennol
10.11: Caniateir darlledu gweithgarwch codi arian ar ran elusen (neu apêl argyfwng) dim ond os:
- caiff ei ddarlledu yn rhad ac am ddim;
- nid yw’n cynnwys unrhyw gyfeiriad masnachol sy’n destun trefniant masnachol â’r elusen berthnasol (neu apêl argyfwng); ac
- os yw'r darlledwr wedi cymryd camau rhesymol i fodloni’i hun:
- y gall y sefydliad dan sylw ddangos tystiolaeth foddhaol o statws elusennol neu, yn achos apêl argyfwng, fod cronfa gyhoeddus gyfrifol wedi’i sefydlu i ddelio ag ef; ac
- nad yw’r sefydliad dan sylw wedi’i wahardd rhag hysbysebu ar y radio.
Apeliadau am arian ar gyfer rhaglennu neu wasanaethau
10.12 Caiff darlledwyr ddarlledu apeliadau am roddion i wneud rhaglennu neu ariannu eu gwasanaeth. Rhaid dweud wrth wrandawyr beth yw pwrpas yr apêl a faint y bydd yn ei godi. Rhaid rhoi cyfrif ar wahân o’r holl roddion a’u defnyddio i’r diben y’u rhoddwyd ar ei gyfer.
Hyrwyddiadau ariannol ac argymhellion buddsoddi
10.13 Wrth ddarlledu hyrwyddiadau ariannol ac argymhellion buddsoddi, rhaid i ddarlledwyr gydymffurfio â’r darpariaethau perthnasol yn Atodiad 1 i’r Cod hwn.
Hyrwyddiad ariannol: Gwahoddiad neu gymhelliant i gymryd rhan mewn gweithgarwch buddsoddi (yn unol ag adran 21(1) Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (Cyfyngiadau ar hyrwyddo ariannol)).
Argymhelliad buddsoddi: Mae argymhelliad buddsoddi yn digwydd pan fydd rhywun yn argymell penderfyniad buddsoddi penodol yn uniongyrchol, er enghraifft, prynu neu werthu cyfranddaliadau penodol neu danysgrifio cynnig cyfranddaliadau penodol.