Yn dilyn y cyhoeddiad gan yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (“DCMS”) am y cynnydd sylweddol i’r Gronfa Radio Cymunedol (“Y Gronfa”) ym mlwyddyn ariannol 2025/26, mae’r datganiad hwn yn nodi dull gweithredu arfaethedig Ofcom i weinyddu’r Gronfa ar gyfer y cyfnod hwn.
Bydd y cynnydd o £900,000 ar gael i ddarparu grantiau i orsafoedd radio cymunedol trwyddedig Ofcom. Mae’r cynnydd mewn cyllid yn hwb calonogol i’r sector radio cymunedol gan fod y Gronfa wedi gweld cynnydd cyson yn y galw, gyda’r galw wedi bod yn uwch na’r hyn a oedd ar gael yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Bydd hyn yn golygu bod modd dyfarnu cyllid hanfodol i helpu i wella sefydlogrwydd ariannol a chynaliadwyedd gwasanaethau radio cymunedol ar draws y wlad yn y dyfodol.
Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r DCMS am sicrhau’r cynnydd hwn. Dywedodd Mark Jones, Cadeirydd Panel y Gronfa Radio Cymunedol:
“Gyda’r gronfa wedi mwy na dyblu ar gyfer eleni, byddwn yn gallu creu swyddi mewn mwy fyth o orsafoedd i helpu i ddatblygu radio cymunedol cynaliadwy”
Oherwydd y cynnydd sylweddol, mae Ofcom wedi cytuno â’r DCMS y bydd yn gweinyddu un rownd o gyllid yn hytrach na’r ddwy rownd arferol. Gwneir hyn er mwyn rhoi mwy o amser i ymgeiswyr baratoi eu ceisiadau a galluogi Ofcom i ddefnyddio ei adnoddau’n effeithlon, gan ganiatáu digon o amser i weinyddu ceisiadau a dyfarniadau. Disgwylir i’r cyfnod ymgeisio ar gyfer cylch 2025-26 agor ddechrau mis Medi. Mae Ofcom yn cyhoeddi’r datganiad hwn nawr i sicrhau bod unrhyw Drwyddedeion sy’n dymuno gwneud cais am gyllid yn gallu dechrau paratoi ar gyfer eu cais yn gynnar.
Ni fydd cwmpas y Gronfa yn newid sy’n golygu y bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i gefnogi cynaliadwyedd gorsafoedd radio cymunedol trwyddedig Ofcom, fel y nodir yn y nodiadau cyfarwyddyd.
Gan ystyried y cynnydd ac mai un rownd fydd, mae gorsafoedd sy’n ystyried gwneud cais yn cael eu hatgoffa i weithredu ar unrhyw adborth penodol a gafwyd mewn rowndiau cyllido blaenorol, yn ogystal â sicrhau eu bod wedi darllen a chymryd camau gweithredu yng nghyswllt ‘Mater o bwys’ diweddaraf y panel, sy’n rhoi adborth i bob ymgeisydd. Bydd mân newidiadau’n cael eu gwneud i’r nodiadau cyfarwyddyd a’r ffurflen gais, a fydd yn cael eu cyhoeddi pan fydd y cylch cyllido ar agor ddechrau mis Medi. Fodd bynnag, dylai gwasanaethau nodi mai mân newidiadau fydd y rhain oherwydd ni fydd diben y Gronfa na’r mathau o gyllid y bydd y Panel yn eu hystyried yn newid ar gyfer y rownd gyllido hon.
I gael y cyhoeddiadau diweddaraf am y Gronfa Radio Cymunedol, cofrestrwch i gael diweddariadau e-bost ar gyfer Teledu, Radio ac Ar-alw. Bydd cyhoeddiadau ar gael ar ein tudalen we hefyd.