Close up shot of a radio microphone in a radio studio

Ofcom yn gwahodd ceisiadau ar gyfer yr wythfed rownd o drwyddedau radio DAB ar raddfa fach

Cyhoeddwyd: 10 Medi 2025

Mae ceisiadau wedi agor ar gyfer yr sy'n cwmpasu 40 o ardaloedd ledled Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon, a’r Alban.

Mae pob amlblecs ar raddfa fach sydd wedi’i drwyddedu gan Ofcom yn caniatáu i wasanaethau cymunedol ar lawr gwlad, gorsafoedd cerddoriaeth arbenigol, a gwasanaethau wedi'u hanelu at grwpiau lleiafrifol a chynulleidfaoedd eraill sydd wedi'u tanwasanaethu i fanteisio ar thonnau awyr digidol.

Hyd yn hyn, mae 75 amlblecs wedi dechrau darlledu i wrandawyr ar draws pedair gwlad y DU. Yn gyfan gwbl, bydd y rhaglen DAB ar raddfa fach yn arwain at lansio dros 100 o amlblecs.

Cyn bo hir, bydd hyd yn oed mwy o wrandawyr yn gallu tiwnio i mewn i orsafoedd radio lleol digidol newydd, wrth i Ofcom heddiw wahodd ceisiadau amlblecs ar gyfer yr ardaloedd canlynol:

  • Aberystwyth
  • Andover
  • Armagh
  • Ballymena
  • Barnsley
  • Barnstaple a Bideford
  • Aberhonddu
  • Burton-on-Trent a Lichfield
  • Bury St Edmunds, Thetford a Mildenhall
  • Cheltenham a Tewkesbury
  • Chesterfield
  • Chippenham a Malmesbury
  • Coleraine
  • Cookstown a Dungannon
  • Dwyrain Cernyw
  • Dwyrain Caeredin ac Arfordir De Forth
  • Falmouth, Penzance a Redruth
  • Gairloch
  • Girvan a Cumnock
  • Grantham a Sleaford
  • Grimsby
  • Kilmarnock
  • Leamington Spa a Stratford-upon-Avon
  • Mansfield a Worksop
  • Mynwy
  • Newbury
  • Newquay, Sain Austell a Truro
  • Gogledd Powys
  • Omagh
  • Perth
  • Peterlee
  • Pitlochry ac Aberfeldy
  • Scunthorpe
  • Skye a Lochalsh
  • South Hams
  • De Powys
  • Stroud
  • Telford a'r Amwythig
  • Tiverton
  • Ullapool

Rydym hefyd yn ail-hysbysebu trwyddedau i wasanaethu'r ardaloedd canlynol: 

  • Swydd Berwick a Roxburgh
  • Caer
  • Derby
  • Dundee a Gogledd-ddwyrain Fife
  • Guildford a Woking
  • Lincoln
  • Kintyre, Islay a Jura
  • De-orllewin Fife
  • De-orllewin Sussex
  • Weymouth a Dorchester

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm ar 10 Rhagfyr 2025.

Heddiw hefyd, mae Ofcom  yn gwahodd ceisiadau gan ddarparwyr gwasanaethau rhaglenni a hoffai ddarlledu gwasanaeth Rhaglen Sain Ddigidol Gymunedol (C-DSP) ar wasanaeth amlblecs radio ar raddfa fach.