Cais wedi'i gymeradwyo: Twrnamaint Rowndiau Terfynol Pencampwriaeth Pêl-droed Merched Ewrop UEFA 2025

Cyhoeddwyd: 23 Mehefin 2025

Mae Ofcom wedi rhoi ei ganiatâd i'r BBC ac ITV ddarlledu darllediad byw unigryw o Rowndiau Terfynol Pencampwriaeth Pêl-droed Merched Ewrop UEFA yn 2025.

Fe wnaethom gynnal ymgynghoriad rhwng 12 Mai a 9 Mehefin 2025 ynghylch cais y BBC ac ITV am ganiatâd i ddarlledu darllediad byw unigryw o Rowndiau Terfynol Pencampwriaeth Pêl-droed Merched Ewrop UEFA 2025 (“y Twrnamaint”). Mae'r Twrnamaint i fod i gael ei gynnal yn y Swistir o ddydd Mercher 2 Gorffennaf tan ddydd Sul 27 Gorffennaf.

Mae Twrnamaint Rowndiau Terfynol Pencampwriaeth Pêl-droed Merched Ewrop UEFA wedi’i ddynodi’n ddigwyddiad rhestredig Grŵp A at ddibenion Deddf Darlledu 1996. O dan y Ddeddf, rhaid cael caniatâd Ofcom er mwyn dangos digwyddiadau rhestredig yn fyw ac yn egsgliwsif.

Mae'r BBC ac ITV yn bwriadu rhannu darllediadau o'r Twrnamaint, gyda phob un yn bwriadu darlledu 15 gêm yn gyfan gwbl, a'r ddau ddarlledwr yn dangos y rownd derfynol. Mae'r BBC yn bwriadu darlledu'n fyw o'i gemau yn bennaf ar BBC One neu BBC Two, ond efallai y bydd hefyd yn dangos gemau ar BBC Three lle mae gwrthdaro amserlennu. Mae’r BBC hefyd wedi cael yr hawliau i ddarlledu darllediadau radio byw o’r Twrnamaint.

Mae ITV yn bwriadu darlledu’n fyw o’r rhan fwyaf o’i gemau ar ITV1, gyda hyn hefyd yn cael ei ddangos ar STV yng ngogledd a chanolbarth yr Alban. Mae hefyd yn bwriadu darlledu nifer fach o gemau ar ITV4 lle mae gwrthdaro amserlennu.

Roedd ein hymgynghoriad yn esbonio ein bod yn bwriadu rhoi caniatâd i’r BBC ac ITV ar gyfer y Twrnamaint, ac yn nodi mai ein barn dros dro yw bod darlledwyr gwasanaethau “cymwys” a rhai “nad ydynt yn gymwys” (at ddibenion y Ddeddf) wedi cael cyfle i gaffael yr hawliau i ddarlledu’r Twrnamaint yn fyw ar delerau teg a rhesymol.

Ni chawsom unrhyw ymatebion i'n hymgynghoriad.

Rydym wedi penderfynu rhoi caniatâd i gais y BBC ac ITV i ddarlledu darlleniad byw unigryw o’r Twrnamaint, gan nodi bod y cynlluniau darlledu yn sicrhau bod darllediad byw o’r Twrnamaint ar gael yn ddi-dâl i gynulleidfaoedd ar draws y DU[1].


[1] Gwnaeth ITV gais ar ran trwyddedeion Channel 3 a’r trwyddedeion ar gyfer ITV2, ITV3 ac ITV4 am ganiatâd i ddangos darllediadau ar y sianeli hyn. Deiliaid trwydded Channel 3 yw ITV Broadcasting Limited, ITV Breakfast Broadcasting Limited, UTV Limited, STV Central Limited a STV North Limited. Deilydd y drwydded ar gyfer ITV2 ac ITV4 yw ITV2 Limited. Deilydd y drwydded ar gyfer ITV3 yw ITV Digital Channels Limited.

Yn ôl i'r brig