Cymeradwyo cais: Pencampwriaeth Wimbledon 2025

Cyhoeddwyd: 23 Mehefin 2025

Mae Ofcom wedi cymeradwyo cais gan y BBC i ddarlledu gemau nad ydynt yn gemau rowndiau terfynol Pencampwriaeth Wimbledon 2025 (“y Bencampwriaeth”) yn fyw ac yn egsgliwsif.

Bydd gemau’r Bencampwriaeth nad ydynt yn gemau rownd terfynol yn cael eu darlledu gan y BBC ar BBC One a BBC Two, gyda darlleniadau ychwanegol ar gael drwy Fotwm Coch y BBC a BBC iPlayer. Mae’r BBC hefyd yn dal yr hawliau radio cenedlaethol ac mae’n bwriadu darlledu darllediadau byw ar BBC Radio 5 Live, ymhlith gorsafoedd eraill.

Yn ogystal, mae Warner Bros. Discovery (“WBD”) a Chlwb Tenis Lawn Prydain (Bencampwriaethau) Cyfyngedig (“AELTC”) wedi cadarnhau bod WBD wedi caffael hawliau i ddarlledu uchafbwyntiau gemau nad ydynt yn rowndiau terfynol. Cadarnhaodd WBD y byddai'r darllediad ar ei sianeli TNT Sports a thrwy Discovery+.


Mae’r gemau nad ydynt yn gemau rownd terfynol yn y Bencampwriaeth yn ddigwyddiad rhestredig Grŵp B at ddibenion Deddf Darlledu 1996. Felly mae'r BBC angen caniatâd Ofcom i ddarlledu gemau’r Bencampwriaeth nad ydynt yn gemau rownd terfynol yn fyw ac yn ecsgliwsif, yn unol ag adran 101 o’r Ddeddf. Fodd bynnag, pan fydd ail ddarlledwr, WBD yn yr achos hwn, yn darparu darllediad eilaidd o ddigwyddiad rhestredig Grŵp B, gall Ofcom roi caniatâd ‘awtomatig’ i ddarlledu heb ymgynghori.


Mae paragraffau 1.18 i 1.21 Cod Ofcom ar Chwaraeon a Digwyddiadau Rhestredig a Dynodedig Eraill yn nodi bod yn rhaid i’r gwasanaethau a ddarperir gan y darlledwyr fod mewn categorïau gwahanol ac yn cynnwys rhagor o wybodaeth am yr hyn mae digon o ddarlledu eilaidd yn ei olygu. Yn yr achos hwn, mae sianeli’r BBC yn ‘wasanaethau cymwys’ ac mae sianeli Chwaraeon TNT yn ‘wasanaethau nad ydynt yn gymwys’, ac mae WBD a'r AELTC wedi cadarnhau bod yr hawliau'n galluogi darparu darlleniad eilaidd digonol, fel y nodir yn y Cod.


Ar ôl ystyried yr wybodaeth a ddarparwyd gan y BBC, a’r wybodaeth atodol a ddarparwyd gan WBD a'r AELTC, mae Ofcom wedi penderfynu rhoi caniatâd awtomatig i gais y BBC.


Mae darllediad byw o rowndiau terfynol y Bencampwriaeth (a ddynodwyd fel digwyddiad rhestredig Grŵp A) i'w ddangos gan y BBC a WBD. Lle nad yw'r darllediad byw yn egsgliwsif, efallai na fydd angen caniatâd Ofcom – gweler yr eithriad yn adran 101(1) o'r Ddeddf. Yn yr achos hwn, mae Ofcom yn fodlon nad yw'r trefniadau'n gofyn am ein caniatâd.

Yn ôl i'r brig