Ein hymagwedd
Ym mis Mai 2024, derbyniodd Deddf y Cyfryngau Gydsyniad Brenhinol a daeth yn gyfraith. Y ddeddfwriaeth hon yw’r newid mwyaf i’r fframwaith cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus ers dau ddegawd. Mae’n gwneud newidiadau i gyfrifoldebau presennol Ofcom fel rheoleiddiwr cyfryngau darlledu’r DU, – gan gynnwys:
- Diweddaru'r fframwaith rheoleiddio ar gyfer radio masnachol i sicrhau cynnwys lleol pwysig.
- Sicrhau y gall darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus y DU (‘PSB’) gyflawni rhwymedigaethau, megis cwotâu, lle bynnag y mae cynulleidfaoedd yn eu disgwyl ac nid ar deledu llinol yn unig.
- Cyflwyno dyletswyddau newydd i sicrhau amlygrwydd i gynnwys darlledu gwasanaeth cyhoeddus a hygyrchedd radio’r DU drwy gynorthwywyr llais.
Ers cyhoeddi ein map ffordd, rydym wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â diwydiant a’r llywodraeth i baratoi ar gyfer ein dyletswyddau newydd. Bydd yr adran hon o’n gwefan yn darparu diweddariadau rheolaidd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid wrth i ni symud ymlaen â’n gwaith a gweithredu fel cartref i’r ymgynghoriadau a chyhoeddiadau eraill y byddwn yn eu cyhoeddi yn y misoedd nesaf.
Isod fe welwch y llinellau amser rydym yn gweithio tuag atynt ar hyn o bryd ar draws gwahanol rannau’r Ddeddf. Lle mae'n bosibl gwneud hynny, byddwn yn ceisio cyflymu ein hamserlen a diweddaru'r dudalen we hon yn unol â hynny.
Diweddariad diweddaraf - 22 Gorffennaf 2025
Heddiw rydym wedi cyhoeddi pedair dogfen arall fel rhan o'n gwaith i weithredu Deddf y Cyfryngau 2024.
Ein gwaith
Datganiad: Polisi Comisiynu ar gyfer Cynyrchiadau Channel 4
Cyhoeddwyd: 20 Mehefin 2025
Diweddarwyd diwethaf: 27 Tachwedd 2025
Mae’r dudalen hon yn nodi ein Canllawiau arfaethedig ar gyfer C4C i gwblhau ei Datganiad o Bolisi Comisiynu.
Consultation: Digital radio multiplex information requirements
Cyhoeddwyd: 10 Medi 2025
Diweddarwyd diwethaf: 25 Tachwedd 2025
Ofcom is consulting on proposals that multiplex operators must publish up to date ‘rate cards’ about the payments to be made by radio stations seeking carriage on the multiplex.
Ymgynghoriad: Adnewyddu trwyddedau radio masnachol lleol
Cyhoeddwyd: 11 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd diwethaf: 14 Tachwedd 2025
Rydym yn croesawu safbwyntiau gan randdeiliaid ar ein cynigion ac unrhyw ffactorau eraill sy’n werth eu hystyried wrth benderfynu a yw amlblecs yn addas ar gyfer anghenion trwyddedai o dan y Llwybr Adnewyddu Newydd a nodir yn ein hymgynghoriad.
Ymgynghoriad: Newyddion a gwybodaeth leol ar radio masnachol analog
Cyhoeddwyd: 1 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd diwethaf: 31 Hydref 2025
Mae'r ymgynghoriad hwn yn nodi sut rydym yn bwriadu gweithredu'r fframwaith statudol newydd sy'n ymwneud â darparu newyddion a gwybodaeth leol ar orsafoedd radio masnachol analog lleol.
Consultation: Designation of Radio Selection Services - draft report to the Secretary of State
Cyhoeddwyd: 16 Hydref 2025
Before deciding which services to designate, the Secretary of State must first receive a report from Ofcom setting out our recommendations. In this consultation document, we explain which RSS we propose to recommend for designation and why.
Datganiad: Cynigion i ddiweddaru cwotâu darlledu gwasanaeth cyhoeddus
Cyhoeddwyd: 15 Mai 2025
Diweddarwyd diwethaf: 16 Hydref 2025
Mae rhwymedigaethau cwota cynhyrchu yn cynorthwyo ac yn diogelu darpariaeth cynnwys newydd ar gyfer gwasanaeth cyhoeddus yn y DU. Mae gan bob darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus ('PSBs') gwotâu ar gyfer cynhyrchu cynhyrchiad gwreiddiol, rhanbarthol ac annibynnol.
Diweddariad ar weithredu’r Ddeddf Cyfryngau - 22 Gorffennaf 2025
Cyhoeddwyd: 16 Mai 2025
Diweddarwyd diwethaf: 22 Gorffennaf 2025
Heddiw rydym wedi cyhoeddi pedair dogfen arall fel rhan o'n gwaith i weithredu Deddf y Cyfryngau 2024.
Ymgynghoriad: adroddiad drafft i'r Ysgrifennydd Gwladol ar ddynodi gwasanaethau dethol teledu
Cyhoeddwyd: 22 Gorffennaf 2025
O dan y drefn argaeledd ac amlygrwydd ar-lein newydd a gyflwynwyd gan Ddeddf y Cyfryngau, bydd yn ofynnol i lwyfannau teledu cysylltiedig (y cyfeirir atynt fel 'gwasanaethau dethol teledu') a ddynodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol sicrhau bod chwaraewyr teledu BBC iPlayer a darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus a ddynodwyd gan Ofcom, yn ogystal â'u cynnwys gwasanaeth cyhoeddus, ar gael, yn amlwg, ac yn hawdd eu cyrraedd.
Canllawiau ar y Datganiad Polisi Rhaglenni a’r Datganiad Polisi Cynnwys Cyfryngau
Cyhoeddwyd: 11 Chwefror 2025
Diweddarwyd diwethaf: 22 Gorffennaf 2025
Mae gan ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus (‘PSBs’) le unigryw yng nghymdeithas y DU. Mae eu rôl yn cynnwys darparu amrywiaeth eang o raglenni difyr a llawn gwybodaeth sy’n adlewyrchu amrywiaeth gwledydd a rhanbarthau’r DU ac sydd ar gael am ddim i bawb.
Datganiad: Canllawiau diwygiedig ar gyfer Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus ar Godau Ymarfer Comisiynu
Cyhoeddwyd: 27 Ionawr 2025
Diweddarwyd diwethaf: 22 Gorffennaf 2025
Mewn ymateb i fesur tryloywder newydd y Ddeddf Cyfryngau, rydym yn cynnig gwneud darpariaeth yn ein Canllawiau i sicrhau bod cynhyrchwyr annibynnol yn ymwybodol o God y darlledwr gwasanaeth cyhoeddus cyn negodi contract comisiynu gyda’r darlledwr hwnnw.