Mae rhwymedigaethau cwota cynhyrchu yn cynorthwyo ac yn diogelu darpariaeth cynnwys newydd ar gyfer gwasanaeth cyhoeddus yn y DU. Mae gan bob darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus ('PSBs') gwotâu ar gyfer cynhyrchu cynhyrchiad gwreiddiol, rhanbarthol ac annibynnol.
Mae Deddf y Cyfryngau yn diweddaru'r fframwaith cwota a gynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer oes teledu linol. Am y tro cyntaf, mae gan ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yr hyblygrwydd i ddefnyddio eu gwasanaethau ar-alw i gwrdd â’u cwota. Mae ein cynigion yn ymwneud â Channel 3, 4 a 5, S4C, a lle bo'n berthnasol, y BBC. Rydym yn nodi'r manylion hyn ac yn adlewyrchu'r fframweithiau rheoleiddio penodol sydd ar waith.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn nodi ein dull o weithredu'r newidiadau i'r fframwaith rheoleiddio ar gyfer:
- Trosi cyfran y cwotâu i oriau absoliwt a gwariant er mwyn sicrhau eu bod yn glir ac yn hawdd eu cymhwyso i wasanaethau ar-alw;
- Lefelau'r cwota cynhyrchu gwreiddiol a chynhyrchu rhanbarthol; a
- Gweithredu'r lefelau cwota diwygiedig ar gyfer cynyrchiadau annibynnol, a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth yn ddiweddar.
Mae'r newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf y Cyfryngau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ni gyhoeddi canllawiau ar ba raglenni gall gyfrif tuag at y cwota cynyrchiadau gwreiddiol, ac i ddiwygio ein canllawiau ar gynyrchiadau rhanbarthol.
Rydym yn gwahodd sylwadau gan randdeiliaid ar ein cynigion erbyn 10 Gorffennaf 2025.
Ymateb i'r ymgynghoriad hwn
Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad erbyn 5pm ar 10 Gorffennaf 2025.
Sut i ymateb
Tîm Polisi Cynnwys
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA