Adolygiad Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus

Cyhoeddwyd: 21 Gorffennaf 2025

Mae tirwedd cyfryngau'r DU yn trawsnewid yn gyflym. Mae darlledwyr traddodiadol mewn brwydr ffyrnig am sylw'r gynulleidfa, tra bod cewri technoleg byd-eang yn gorlifo'r farchnad gydag ystod gynyddol o gynnwys.  

Mae gwasanaethau fel Netflix a YouTube yn cynnig profiadau personol iawn sy'n hynod boblogaidd gyda gwylwyr a hysbysebwyr. Yn yr amgylchedd hwn, mae'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn ei chael hi'n llawer anoddach ariannu cynhyrchu a dosbarthu cynnwys o ansawdd uchel yn y DU i bob cynulleidfa.  

Mae gan y Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus (PSM) draddodiad hir a balch yn y DU. Y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus – y BBC, ITV, STV, Channel 4, Channel 5 ac S4C – yw prif ddarparwyr PSM. Maent ar gael yn eang ac yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr am newyddion dibynadwy a chywir a straeon addysgiadol a difyr o'r DU sy'n adlewyrchu amrywiaeth y DU gyfan. Mae'r cynnwys hanfodol hwn yn cefnogi cyfranogiad mewn cymdeithas ddemocrataidd trwy ddwyn llywodraethau a sefydliadau i gyfrif a chadw cynulleidfaoedd yn wybodus am ddigwyddiadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus hefyd yn darparu rhaglenni chwaraeon a diwylliannol sy'n dod â'r wlad ynghyd ac yn hyrwyddo ymdeimlad o werthoedd a rennir. Mae cynulleidfaoedd yn mwynhau cynnwys PSM ar wasanaethau darlledu eraill, gwasanaethau fideo ar alw tanysgrifio (SVoD) a llwyfannau rhannu fideo (VSPs).

  O leiaf bob pum mlynedd, mae'n ofynnol i Ofcom adolygu i ba raddau y mae'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, gyda'i gilydd, wedi cyflawni dibenion darlledu teledu gwasanaeth cyhoeddus drwy ddarparu'r sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Cyhoeddwyd ein hasesiad diweddaraf ar gyfer 2019 – 2023 ym mis Rhagfyr 2024 lle daethom i'r casgliad bod y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, gyda'i gilydd, wedi cyflawni dibenion darlledu gwasanaeth cyhoeddus.

Mae'r ddogfen hon yn ystyried y dulliau posibl o ddatrys problemau darlledu gwasanaeth cyhoeddus i fynd i'r afael â'r heriau hyn a sut y gellir cryfhau a chynnal darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y dyfodol. Rydym yn nodi'r opsiynau eang y mae ystod eang o randdeiliaid wedi'u codi gyda ni ac yn trafod eu manteision a'u goblygiadau posibl ar gyfer eu gweithredu.

Rydym wedi nodi chwe argymhelliad ar gyfer gweithredu, gan ganolbwyntio ar:

  • amlygrwydd a chanfyddadwyedd cynnwys PSM ar YouTube ac o bosibl llwyfannau trydydd parti eraill;
  • cyllid sefydlog a digonol i gynnal ystod eang o gynnwys PSM;
  • eglurder brys ynghylch dyfodol dosbarthu teledu;
  • partneriaethau uchelgeisiol ymhlith y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus;
  • buddsoddi mewn ymwybyddiaeth o’r cyfryngau i gefnogi cynulleidfaoedd; a
  • rheoleiddio symlach sy'n tynnu unrhyw gyfyngiadau diangen sydd wedi dyddio, yn amddiffyn cynulleidfaoedd rhag niwed lle bynnag y bônt ac yn annog twf ac arloesedd.

Mae'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus wedi cyflawni eu dibenion a'u hamcanion ar y cyd ar draws y cyfnod adolygu hwn, fodd bynnag, mae cyrraedd pawb bellach yn ddiamau yn fwy cymhleth nag yr oedd o'r blaen. Mae aflonyddwch technolegol parhaus a chystadleuaeth ffyrnig am gynulleidfaoedd gan ffrydwyr byd-eang yn dwysáu'r pwysau cynyddol ar gynaliadwyedd cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus i’r dyfodol. Mae ein hadolygiad yn nodi'r cyfleoedd a'r heriau i’r dyfodol i gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus.

Dogfennau

Mae'r ddogfen hon yn nodi'r cylch gorchwyl ar gyfer ein hadolygiad nesaf o gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus. Bydd cam cyntaf yr adolygiad yn egluro sut mae'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus wedi cyflawni ar gyfer cynulleidfaoedd y DU dros y pum mlynedd diwethaf ac yn archwilio'r heriau i'w ddarpariaeth dros y degawd nesaf a thu hwnt. Bydd yr ail gam yn ystyried cyfleoedd i gefnogi cynaliadwyedd cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus i’r  dyfodol ac argaeledd newyddion o ansawdd uchel a chywir y gall cynulleidfaoedd ddibynnu ynddynt.

Dogfennau

I gael y profiad gorau, ehangwch i sgrin lawn (cliciwch ar y botwm yn y gornel dde ar y gwaelod).