Mae Adran 152 o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 (y ‘Ddeddf’) yn ei gwneud yn ofynnol i Ofcom sefydlu a chynnal Pwyllgor cynghori. Bydd y Pwyllgor yn cynnwys cadeirydd a benodir gan Ofcom, a pha bynnag nifer o aelodau eraill a benodir gan Fwrdd Ofcom y mae Ofcom yn eu hystyried yn briodol.
Swyddogaeth y Pwyllgor yw rhoi cyngor i Ofcom ar y materion hynny a nodir yn adran 152(4) o’r Ddeddf.
Dydd Gwener 16 Mai 2025.
Nid yw'r Pwyllgor wedi cyfarfod eto.
Yr Arglwydd Allan o Hallam (Cadeirydd)
Aelod anweithredol o Fwrdd Ofcom.
Mae gan Richard bron i 30 mlynedd o brofiad yn y maes datblygu polisi mewn cyfathrebu a thechnoleg. Ers 2010 mae wedi bod yn Aelod o Dŷ’r Arglwyddi, ar ôl iddo gael ei benodi fel y Barwn Allan o Hallam, o Ecclesall yn Ne Swydd Efrog. Mae wedi bod yn aelod annibynnol ers 2 Hydref 2024 a chyn hynny roedd yn aelod o’r Democratiaid Rhyddfrydol.
Dechreuodd ei yrfa broffesiynol gyda'r GIG, fel Datblygwr Systemau, gan adeiladu rhwydweithiau cyfrifiadurol a systemau gwybodaeth ar gyfer Avon FHSA. Rhwng 1997-2005 roedd yn Aelod Seneddol dros Sheffield Hallam, ac yn Gadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Wybodaeth tan 2001. Ymunodd â Cisco Systems yn 2005, fel Cyfarwyddwr Polisi Cyhoeddus tan 2009, lle arweiniodd waith y cwmni ar holl faterion polisi telathrebu gyda gwleidyddion a rheoleiddwyr. Yna rhwng 2009-2019 bu'n gweithio yn Facebook (Meta bellach) fel Dirprwy Lywydd Polisi Cyhoeddus; arwain tîm o 70+ o arbenigwyr polisi ledled EMEA, gan weithredu fel uwch swyddog penderfyniadau ar gwestiynau polisi sensitif.
Ar hyn o bryd mae’n aelod Bwrdd Anweithredol gyda Chwmnïau Buddiant Cymunedol, New Automotive a’r Ganolfan Data Cyhoeddus. Mae e hefyd yn Aelod o Fwrdd yn Arsyllfa Cyfryngau Digidol Ewropeaidd, yn Gadeirydd Tasglu Pŵer Cyfryngau ac yn Aelod o Fwrdd Ymddiriedolaeth Dinas Sheffield.
Elisabeth Costa
Elisabeth Costa yw Pennaeth Arloesedd a Phartneriaethau yn y Tîm Mewnwelediadau Ymddygiadol (BIT), ymgynghoriaeth ymchwil ac arloesi byd-eang. Mae hi'n arwain partneriaethau byd-eang BIT ac yn datblygu meysydd arbenigedd sy'n dod i'r amlwg - yn enwedig sut rydyn ni'n gwneud penderfyniadau mewn amgylcheddau ar-lein a chroesdoriad AI ac ymddygiad dynol.
Fel aelod o’r Pwyllgor, mae gan Elisabaeth brofiad amlddisgyblaeth mewn gwyddor ymddygiad, rheoleiddio, gwerthuso a datblygu polisi i’r Pwyllgor. Ers ymuno â BIT yn 2015, mae hi wedi arwain ymchwil arloesol ar gymhwyso gwyddoniaeth ymddygiadol reoleiddio, gan gyd-ysgrifennu papurau sylfaenol ar benderfyniadau defnyddwyr ac ymddygiad sy’n sail niwed ar-lein. Mae Elisabeth wedi gweithio gyda rheoleiddwyr a phartneriaid ledled y byd i wella diogelwch ar-lein, deall y ffactorau seicolegol sy’n effeithio ar dueddiad i ystod eang o niwed ar-lein, a chynyddu gwytnwch i Dwyllwybodaeth a Chamwybodaeth.
Cyn derbyn ei rôl bresennol, bu Elisabeth yn Reolwr Gyfarwyddwr y Tîm Mewnwelediadau Ymddygiadol yn y Deyrnas Unedig ac roedd hi’n uwch swyddog yn Nhrysorlys Awstralia.
Mae Elisabeth yn Uwch Gymrawd Gwadd yn Ysgol Economeg Llundain a chwblhaodd ei hastudiaethau ôl-raddedig yn Ysgol y Gyfraith Harvard.
Ymunodd Elisabeth â’r Pwyllgor ar 1 Mai 2025 ac mae ei phenodiad yn parhau tan 30 Ebrill 2028.
Jeffrey Howard
Mae Jeffrey Howard yn Athro Athroniaeth Wleidyddol a Pholisi Cyhoeddus yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL). Ef yw cyfarwyddwr Labordy Lleferydd Digidol UCL, sy'n cynnal prosiectau ymchwil ar lywodraethiant cyfathrebu ar-lein priodol. Mae hefyd yn Uwch Gydymaith Ymchwil yn y Sefydliad Moeseg mewn Deallusrwydd Artiffisial ym Mhrifysgol Rhydychen. Mae wedi cyhoeddi nifer o weithiau ar ryddid mynegiant, cyfryngau cymdeithasol, a democratiaeth, ymhlith pynciau eraill.
Mae Jeffrey yn Gymrawd Arweinwyr y Dyfodol UKRI, Meddyliwr Cenhedlaeth Newydd BBC/AHRC, Rising Star yr Academi Brydeinig, ac wedi derbyn Gwobr Goffa Berger gan y Gymdeithas Athronyddol America. Ar y gweill ganddo ar hyn o bryd mae ei lyfr ar leferydd rhydd yn yr oes ddigidol gyda Gwasg Prifysgol Princeton. Enillodd ei DPhil o Brifysgol Rhydychen a'i AB o Brifysgol Harvard.
Ymunodd Jeffrey â'r Pwyllgor ar 1 Mai 2025 ac mae ei benodiad yn parhau tan 30 Ebrill 2028.
Will Moy
Will Moy yw Prif Weithredwr Cydweithrediad Campbell, rhwydwaith ymchwil gwyddorau cymdeithasol rhyngwladol sy'n defnyddio dulliau gwyddonol i grynhoi’r holl dystiolaeth sydd yna ar faterion polisi pwysig. Mae'n anelu at wneud defnyddio tystiolaeth gwyddorau cymdeithasol o'r radd flaenaf mor naturiol â chwilio am air yn y geiriadur.
Cyn ymuno â Chydweithrediad Campbell, fe oedd arweinydd elusen Full Fact yn y DU, gan hyrwyddo defnydd tystiolaeth ddibynadwy mewn bywyd cyhoeddus, rhwng 2010 i 2023. Defnyddiwyd gwiriwr ffeithiau a gwaith arall Full Fact gan ddegau o filiynau o bobl gan gynnwys llunwyr polisi, y cyfryngau, a phrif gwmnïau rhyngrwyd. Gan weithio gyda phartneriaid rhyngwladol, fe wnaethant adeiladu offer Deallusrwydd Artiffisial sydd wedi mynd ymlaen i gael eu defnyddio mewn mwy na deugain o wledydd ledled y byd.
Mae'n uwch gymrawd ymchwil gwadd yn y Sefydliad Polisi yng Ngholeg y Brenin Llundain ac yn gymrawd ymchwil gwadd Gwilym Gibbon yng Ngholeg Nuffield, Rhydychen.
Ymunodd Will â'r Pwyllgor ar 1 Mai 2025 ac mae ei benodiad yn parhau tan 30 Ebrill 2028.
Mark Scott
Mae Mark Scott yn uwch gymrawd preswyl ym Menter Democratiaeth + Technoleg y Labordy Ymchwil Fforensig Digidol (DFRLab) o fewn Rhaglenni Technoleg Cyngor yr Iwerydd. Mae’n gyfrifol am ehangu gwaith parhaus y Fenter o amgylch polisi digidol cymharol, rheoleiddio a llywodraethu. Ar hyn o bryd mae'n eistedd ar fwrdd cynghori rhyngwladol RegulAite, prosiect ym Mhrifysgol Amsterdam sy'n ymroddedig i lunio polisïau deallusrwydd artiffisial. Mae hefyd yn gymrawd ymchwil yng Nghanolfan Llywodraethu Digidol yn Ysgol Hertie ym Merlin. Cyn ymuno â Chyngor yr Iwerydd, Scott oedd prif ohebydd technoleg Politico. A chyn hynny treuliodd Scott bron i ddegawd fel gohebydd i'r New York Times.
Ymunodd Mark â'r Pwyllgor ar 1 Mai 2025 ac mae ei benodiad yn parhau tan 30 Ebrill 2028.
Devika Shanker-Grandpierre
Mae Devika Shanker-Grandpierre yn gynghorydd strategol sy'n arbenigo mewn helpu sefydliadau byd-eang i lywio strategaeth dechnoleg, rheoli risgiau, a chreu gwerth. Mae hi wedi gweithredu fel uwch swyddog yn y sector technoleg, lle arweiniodd sefydliadau byd-eang oedd yn canolbwyntio ar reoli risg a gwirio platfform. Yn ystod ei gyrfa mae hi wedi datblygu strategaethau hirdymor i fynd i'r afael â niwed ar-lein,gan weithio ar draws marchnadoedd rhyngwladol, i gryfhau tryloywder ac atebolrwydd sefydliadau mewn amgylcheddau digidol cymhleth.
Mae gan Devika brofiad o weithio yn y sector gwasanaethau ariannol hefyd, lle bu’n arloesi yn y maes canfod twyll a lliniaru risg. Mae hi'n Aelod o'r Panel Thematig ar gyfer Hwb Gwybodaeth yr UE ar Atal Radicaliaeth, sy'n canolbwyntio ar gryfhau ymdrechion yr UE yn erbyn radicaiaeth all arwain at eithafiaeth dreisgar a therfysgaeth.
Mae Devika hefyd yn awdur cyfrannol i'r Rhwydwaith Byd-eang ar Eithafiaeth a Thechnoleg (GNET), lle mae’n gwneud cysylltiadau rhwng safbwyntiau hanesyddol, datblygiadau technolegol cyfoes, a'r strategaethau llywodraethiant angenrheidiol sy’n gallu lleihau niwed cymdeithasol. Ar hyn o bryd mae hi'n gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Anweithredol i gwmni Ballet Ieuenctid Cenedlaethol Iwerddon. Mae gan Devika MBA o Brifysgol Ryngwladol Symbiosis.
Ymunodd Devika â'r Pwyllgor ar 1 Mai 2025 ac mae ei phenodiad yn parhau tan 30 Ebrill 2028.
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London
SE1 9HA
T: 020 7981 3000