
Heddiw, mae Ofcom wedi sefydlu ei Bwyllgor Cynghori ar Wybodaeth Ar-lein newydd ac wedi penodi ei aelodau.
Bydd y Pwyllgor, sy’n ofynnol o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein y DU, yn rhoi cyngor i Ofcom ar feysydd penodol o’n gwaith sy’n ymwneud â chamwybodaeth a thwyllwybodaeth. Bydd ei gyfarfod cyntaf yn cael ei gynnal ar 16 Mai 2025.
Gwaith Ofcom o dan y Ddeddf yw sicrhau bod llwyfannau sydd o fewn y cwmpas yn cymryd camau effeithiol i fynd i’r afael â chynnwys anghyfreithlon a deunydd arall sy’n niweidiol i blant drwy roi systemau a phrosesau priodol ar waith. Ni fydd ein rôl yn golygu ein bod yn gwneud penderfyniadau am bostiadau neu gyfrifon unigol, nac yn mynnu bod darnau penodol o gynnwys yn cael eu tynnu i lawr.
Ym mis Tachwedd, fe wnaethom gyhoeddi y bydd y Pwyllgor hwn yn cael ei gadeirio gan yr Arglwydd Allan o Hallam, aelod anweithredol o Fwrdd Ofcom. Heddiw, rydym wedi penodi pum aelod newydd. Bydd pob un yn gwasanaethu am dair blynedd gan ddechrau ar 1 Mai 2025.
Elisabeth Costa yw’r Pennaeth Arloesedd a Phartneriaethau yn y Tîm Deall Ymddygiad, sef ymgynghoriaeth ymchwil ac arloesedd fyd-eang. Mae hefyd yn Uwch Gymrawd Gwadd yn Ysgol Economeg Llundain.
Mae Jeffrey Howard yn Athro Athroniaeth Wleidyddol a Pholisi Cyhoeddus yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL) ac ef yw cyfarwyddwr Labordy Lleferydd Digidol y Brifysgol. Mae hefyd yn Uwch Gydymaith Ymchwil yn y Sefydliad Moeseg Deallusrwydd Artiffisial ym Mhrifysgol Rhydychen.
Will Moy yw Prif Weithredwr y Campbell Collaboration, sef rhwydwaith ymchwil gwyddorau cymdeithasol rhyngwladol, ac mae’n uwch gymrawd ymchwil gwadd yn y Sefydliad Polisi yng Ngholeg King’s, Llundain. Arferai arwain yr elusen Full Fact yn y DU.
Mae Mark Scott yn uwch gymrawd preswyl ym Menter Democratiaeth a Thechnoleg y Labordy Ymchwil Fforensig Digidol o fewn Rhaglenni Technoleg Cyngor yr Iwerydd. Mae hefyd wedi gweithio fel gohebydd i Politco a’r New York Times.
Mae Devika Shanker-Grandpierre yn Aelod Thematig o'r Panel ar gyfer Hyb Gwybodaeth yr UE ar Atal Radicaleiddio, ac yn awdur sy'n cyfrannu at y Rhwydwaith Byd-eang ar Eithafiaeth a Thechnoleg.
Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor a’i aelodau ar gael yma.