
Araith gan yr Arglwydd Grade, Cadeirydd Ofcom, Grŵp Strand Coleg King's
15 Gorffenaf 2025
Noswaith dda a diolch i chi i gyd am ddod.
Hoffwn ddechrau drwy fynd â chi'n ôl i ddechrau'r nawdegau. Bryd hynny, dylid dweud fy mod braidd yn amheus o reoleiddwyr. Roedd y wlad wedi cael cryn dipyn ohonyn nhw: roedd economeg y farchnad rydd yn ffasiynol ac roedd angen cadw llygad ar y sectorau wedi'u preifateiddio. Ond o’m profiad i yn gweithio yn y byd creadigol, roedd rhain yn bobl roedd rhywun yn aml yn cynnal dadleuon bach a diflas gyda nhw.
Rydw i’n cofio un cyfarfod yn yr Awdurdod Darlledu Annibynnol lle’r oeddent yn mynnu bod ITV yn canslo ein rhaglen fwyaf poblogaidd, yr opera sebon 'Crossroads'. Eu hesboniad oedd, ac rwy’n dyfynnu’r cadeirydd y Fonesig Bridget Plowden: 'Mae'r Awdurdod yn ei ystyried yn ofidus o boblogaidd.' Rydw i’n dweud y gwir!
Roedd yr angen am reoleiddio yn y cyfnod modern yn gwbl amlwg i mi pan roeddwn yn Brif Weithredwr Channel 4. Cefais alwad ffôn gan Syr Peter Hall, y cyfarwyddwr theatr, opera a ffilm talentog. Roedd arno eisiau gwneud addasiad i deledu o Sacred Hunger, nofel Barry Unsworth sy’n disgrifio creulondeb ac arswyd llongau caethweision trawsatlantig yn ystod y deunawfed ganrif. Mae'r llyfr yn wirioneddol eithriadol, ond roedd y pwnc wedi cael ei drin a'i drafod yn drylwyr dros y blynyddoedd mewn rhaglenni dogfen a dramâu. Felly, gofynnais i Syr Peter sut byddai'r stori hon yn siarad â chynulleidfa a phryderon y dydd. Fe atebodd “Michael, rhaid i chi ddeall. Mewn marchnad rydd, heb reoleiddio, yn y pen draw rydych chi'n masnachu bodau dynol fel nwyddau."
Nid wyf erioed wedi anghofio ei eiriau. Heb reoleiddio da, mae perygl i farchnadoedd redeg yn wyllt. Ac mae rheoleiddio da yn golygu bod yn addas i’r oes.
Rwyf yn addo i chi bod yr Ofcom y gwnes i ymuno ag ef fel Cadeirydd, ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, filltiroedd i ffwrdd o'r dyddiau tywyll hynny o reoleiddio a oedd fel petaent yn mynnu, fel nani, “beth bynnag rydych chi'n ei wneud, rhowch y gorau iddi.”
Byddwn i'n dweud bod Ofcom yn rheoleiddiwr modern iawn. Ond beth mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd heddiw?
Dyna gwestiwn y dylai pob rheoleiddiwr fod yn barod i'w ateb. Gyda'r wlad yn mynnu twf, a chyllid cyhoeddus dan bwysau cyson, rhaid i bob corff cyhoeddus brofi ei werth. Rhaid i Ofcom allu cyfleu'r gwahaniaeth rydym yn ei wneud a rhinweddau ein dull gweithredu.
Beth ddylai rheoleiddiwr ei wneud?
Rwyf yn credu y dylai rheoleiddiwr modern wneud tri pheth. Rhaid iddo alluogi. Rhaid iddo ymgysylltu. A rhaid iddo esblygu.
Gadewch i mi esbonio'r rhain yn eu tro.
Rheoleiddiwr sy'n galluogi
I ddechrau, mae arnom angen rheoleiddwyr sy'n chwarae rhan weithredol, gan weithio er budd ehangach a dangos arweiniad lle bynnag y bo modd. Mae rhywbeth o hyd yn y rôl draddodiadol o orfodi set o reolau. Ond nid yw gorfodi'n ddigon mwyach: mae angen galluogi hefyd.
Dyna pam y dylai rheoleiddwyr alluogi twf economaidd a chystadleuaeth.
Yn Ofcom, rydym yn gwneud hynny drwy ein gwaith telegyfathrebiadau.
- Rydym wedi creu hinsawdd fuddsoddi sy'n cefnogi'r gwaith o gyflwyno band eang ffeibr llawn yn gyflymach nag unrhyw wlad yn Ewrop.
- Rydym yn gwneud hyn drwy ddyrannu tonnau awyr i wasanaethau arloesol, o fonitro'r hinsawdd i roi signal o'r gofod i'ch ffôn clyfar.
- Ac rydym yn gwneud hyn ym maes darlledu. Yr wythnos nesaf, byddwn yn cyhoeddi ein hadolygiad o gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus - y rhan hanfodol honno yn ein heconomi greadigol hynod lwyddiannus, y mae ei doniau, ei photensial allforio a'i phŵer meddal yn destun cenfigen ar draws y byd. Byddaf yn sôn rhagor am hyn yn y man.
Rydym hefyd yn cefnogi twf drwy ddadreoleiddio lle bynnag y gallwn wneud hynny. Dros amser, rydym wedi dileu hen reolau am flychau ffôn a ffacsys. Rydym wedi caniatáu i lwybryddion Wi-Fi gwell ddod i'r farchnad yn gyflym, heb fod angen trwyddedau newydd. Ac rydym wedi rhoi mwy o le i radio masnachol ddarlledu rhaglenni sy'n apelio at eu cynulleidfaoedd heddiw, yn hytrach na chadw at ymrwymiadau a oedd wedi cael eu hetifeddu o’r oes analog.
Mae galluogi yn gweithio mewn ffyrdd eraill hefyd. Gallai olygu gweithio gyda chwmnïau i ganfod beth sy'n gweithio ac yna creu'r canllawiau sy'n cyfleu'r gorau o'r hyn y mae diwydiant yn ei wneud. Mae angen hynny fwyfwy; oherwydd os yw'r rheolau a'r cyfreithiau sy'n rhoi pwerau i reoleiddwyr yn rhy ragnodol, mae perygl iddynt fynd yn rhy hen ffasiwn yn gyflym.
Ystyriwch ein cenhadaeth i wneud gwefannau ac apiau'n fwy diogel o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein. Mae'r Ddeddf yn rhoi dyletswyddau eang ar gwmnïau technoleg ac yn sefydlu fframwaith ar gyfer mynd i'r afael â niwed penodol. Bydd Ofcom wedyn yn datblygu'r codau a'r canllawiau sy'n caniatáu i gwmnïau gydymffurfio. Ond nid yw'r rhain yn orfodol, oherwydd roedd y senedd yn cydnabod bod y byd ar-lein yn esblygu'n gyflym. Felly, gall cwmnïau gydymffurfio mewn gwahanol ffyrdd, ond mae ein codau'n rhoi llwybr clir i osgoi cosbau.
Wrth gwrs, os bydd cwmnïau'n methu cyrraedd y nod, byddwn yn gorfodi. Ond yn ein holl waith, rhaid i ni alluogi.
Rheoleiddiwr sy'n ymgysylltu
Yn ail, mae angen i reoleiddiwr modern ymgysylltu ac wynebu am allan. Rhaid iddynt fod yn bresennol, yn atebol, yn dryloyw ac yn gwbl gyfarwydd â'r Senedd, y cyhoedd, cymdeithas sifil a busnes - nid dim ond yn y DU, ond dramor y dyddiau hyn hefyd.
Mae Ofcom bob amser wedi ymgynghori am ei benderfyniadau, ond heddiw mae ein cynulleidfa'n fwy nag erioed o'r blaen. Rydym yn gwbl dryloyw yn ein penderfyniadau, gan egluro ein penderfyniadau'n fanwl. Rydym yn sicrhau bod ein data ar gael i gwmnïau ac academyddion ei ddefnyddio a'i archwilio.
Mae ymgysylltu hefyd yn golygu bod yn atebol. Mae ein hannibyniaeth ar y Llywodraeth yn gysegredig, yn enwedig gan fod yn rhaid i ni ddyfarnu ar faterion sy'n wleidyddol sensitif. Ond rydym yn atebol i'r Seneddau a'r Cynulliadau, lle na fu erioed fwy o ddiddordeb yn ein gwaith. Yr haf hwn yn unig, rydym wedi rhoi tystiolaeth i saith pwyllgor dethol ar draws gwledydd y DU. Credwn fod hynny'n gyfrifoldeb hanfodol. Rydym hefyd yn croesawu craffu gan y llysoedd, sy'n archwilio ein penderfyniadau'n rheolaidd drwy apêl.
Ac mae sectorau Ofcom, fel cynifer o rai eraill, yn rhai byd-eang. Ac mae’n rhaid i’n hymgysylltu ni fod felly hefyd. Ers tro byd, rydym wedi arwain y drafodaeth ymysg cymheiriaid Ewropeaidd am y ffordd orau o reoleiddio marchnad fel telegyfathrebiadau. Rydym yn cydlynu sut mae tonnau awyr yn cael eu defnyddio mewn confensiynau rhyngwladol. Rydym yn delio â chewri technoleg a chynnwys yr Unol Daleithiau. Nawr rydym yn aelod a sefydlodd rhwydwaith byd-eang o reoleiddwyr diogelwch ar-lein, gyda'r nod o sicrhau cytgord a chysondeb yn y rheolau sy'n berthnasol i wasanaethau ar draws y byd.
Rheoleiddiwr sy'n esblygu
Yn drydydd, ac efallai'n bwysicaf oll, rhaid i reoleiddwyr modern esblygu. Mae pethau’n newid mor gyflym, mae anghenion modern pobl mor amrywiol, mae’r marchnadoedd dan sylw mor cymhleth–bod angen i gyrff arbenigol fod yn hynod ffit, ystwyth ac addasol, dim ond er mwyn dal i fyny.
Dyna pam mae Ofcom yn buddsoddi mewn offer data, digidol a deallusrwydd artiffisial sy’n ein galluogi i barhau i fod yn effeithlon ac yn effeithiol dros y blynyddoedd nesaf. Rydym yn treialu dros ddwsin o dechnegau i wella ein cynhyrchiant a'n heffeithlonrwydd – o ddadansoddi setiau data mawr yn ein hymgyngoriadau, i reoli tonnau awyr y DU yn y ffordd orau bosibl. Mae ein tîm polisi yn neilltuo llawer o amser i sganio'r gorwel am dueddiadau yn y dyfodol ac mae'r gorwel hwnnw'n eithaf agos!
Rydyn ni'n dysgu hefyd. Drwy gynnal a chomisiynu ymchwil – ar bopeth o ymddygiad defnyddwyr i dechnoleg newydd – ein nod yw arwain y drafodaeth a chael gwybodaeth i fod yn sail i’n penderfyniadau.
Mae effeithlonrwydd yn hollbwysig. Daw ein cyllid gan y cwmnïau rydym yn eu rheoleiddio, llawer ohonynt yn gweithredu mewn amgylcheddau heriol. Felly, rhaid inni drin pob ceiniog â pharch. Dros y degawd diwethaf, ac eithrio pan ofynnwyd i ni ysgwyddo dyletswyddau newydd, mae ein cyllidebau a'n ffioedd wedi aros yn sefydlog i raddau helaeth. Mae cost ein gwaith rheoleiddio i'r diwydiant wedi gostwng yn sylweddol mewn termau real. Ac oherwydd y ffioedd a'r cosbau rydym yn eu casglu, mae Ofcom yn gyfrannwr net i'r pwrs cyhoeddus.
Dim ond rhai enghreifftiau yw'r rhain o sut rydym yn ceisio galluogi, ymgysylltu ac esblygu. Rwyf yn siŵr bod y rheidrwydd olaf hwnnw'n gyfarwydd i bawb yma. Ar adegau, gallai deimlo fel ein bod yn wynebu corwynt o newid technolegol a chymdeithasol. Mae perygl y bydd unrhyw un sy'n ceisio sefyll yn llonydd yn cael ei chwythu am yn ôl.
Ac mae pethau’n newid yn gyflymach yn y byd ar-lein nag yn unrhyw le arall.
Bywyd mwy diogel ar-lein
Yma, ddeng mlynedd ar hugain ar ôl rhybudd Peter Hall, gwelwn eto ganlyniadau marchnad sy'n cael datblygu heb reoleiddio. Yn y brys i greu seibersffêr o rwydweithiau ac offer a oedd yn addo trawsnewid ein bywydau, o chwilio i gyfryngau cymdeithasol, roedd sylfaenwyr y byd newydd hwn yn rhoi’r pwys uchaf ar dyfu refeniw. Ond fe wnaethon nhw fethu â rhoi digon o sylw i ddiogelwch.
Roedd cymdeithas yn araf yn dal i fyny. A'r canlyniad yw gofod rhithwir lle mae dieithriaid yn cysylltu â phlant fel mater o drefn. Lle maent yn dod i gysylltiad â chynnwys sy'n eu hannog i hunan-niweidio a dod â'u bywydau eu hunain i ben. Lle maent yn ddim ond clic oddi wrth bornograffi, sy’n aml yn fwy treisgar neu eithafol nag unrhyw beth y gallai cenedlaethau blaenorol fod wedi dod ar ei draws.
Ni ddylai neb, yn enwedig yr holl sector technoleg, synnu bod sefyllfa fel hon wedi arwain at ymateb cymdeithasol, gwleidyddol, rheoleiddiol a byd-eang. Ond mae wedi. Ac nawr, mae pethau’n newid.
Wythnos nesaf, bydd amrywiaeth o fesurau gan Ofcom sydd wedi'u dylunio i amddiffyn plant ar-lein yn dod i rym. Rydym wedi nodi dros 40 o gamau ymarferol y dylai cwmnïau technoleg eu cymryd.
Ar hyn o bryd, prif lwybr plant at niwed yw'r cynnwys sydd ar gael iddynt ar ffrydiau cymdeithasol. Felly, bydd angen i gwmnïau newid eu halgorithmau fel nad ydynt yn hyrwyddo deunydd niweidiol. Rhaid iddynt fod â'r timau a'r adnoddau iawn mewn lle i weithredu'n gyflym pan fydd cynnwys peryglus yn cael ei bostio. A rhaid iddynt ddefnyddio archwiliadau oedran cryf ac effeithiol i sicrhau nad yw plant dan oed yn dod ar draws deunydd sy'n anaddas iddynt. Mae hynny'n cynnwys safleoedd pornograffi. Os na fydd cwmnïau'n cydymffurfio erbyn dydd Gwener nesaf, byddwn yn barod i gymryd camau gorfodi.
Yn gynharach eleni, daeth dyletswyddau i rym i ddiogelu pob defnyddiwr ar-lein rhag niwed anghyfreithlon. Mae angen i wasanaethau technoleg nawr gynnal asesiadau risg priodol. Dylent fod yn cymryd camau i ddileu cynnwys troseddol yn gyflym a lleihau'r risg y bydd yn ymddangos yn y lle cyntaf. Mae arnaf ofn ein bod eisoes wedi canfod rhai cwmnïau nad ydynt wedi cael trefn ar bethau. Felly, rydym eisoes wedi lansio tua dwsin o ymchwiliadau, a gallai'r rhain arwain at ddirwyon. Mewn achosion difrifol iawn, gallwn wneud cais i'r llys i atal gwasanaeth rhag bod ar gael yn y DU, fel y mae'r Ddeddf yn ei ganiatáu.
Ar yr adeg honno, efallai y bydd rhai yn gofyn, ydy hyn oll braidd yn Orwelaidd? Beth ddigwyddodd i ryddid mynegiant?
Pan basiodd y Bil Diogelwch Ar-lein drwy'r Senedd, cafwyd trafodaeth fywiog ynghylch pa mor bell y dylai rheoleiddio fynd. Yn y pen draw, cafodd cynlluniau i amddiffyn oedolion rhag cynnwys a oedd yn 'gyfreithiol ond yn niweidiol' eu dileu. Felly heddiw, fel y rheoleiddiwr diogelwch ar-lein, mae Ofcom yn gwneud dau beth yn benodol. Rydym yn mynd i'r afael â deunydd troseddol, fel cynnwys terfysgol neu gam-drin plant yn rhywiol. Ac rydym yn mynnu bod cwmnïau technoleg yn diogelu plant rhag cynnwys anghyfreithlon a chynnwys sy'n peri risgiau difrifol o niwed i'w hiechyd corfforol neu emosiynol.
Nawr, os oes unrhyw un yn credu bod y naill nod neu'r llall yn annoeth, nid wyf yn cytuno o gwbl. Nid yw'r naill na'r llall, yn fy marn i, yn mynd yn groes i ryddid mynegiant. Oherwydd fel y dywedodd yr hanesydd Fara Dabhoiwalat, rhyddid mynegiant yw “mynegiant heb ymyrraeth anghyfiawn. Nid mynegiant heb reolau”. Nid ydyw chwaith, yn fy marn i, yn fynegiant heb ystyried cyfraith gwlad.
Er hynny, mae’n bwysicach nag erioed. Rhyddid mynegiant yw anadl einioes ein democratiaeth o hyd, ac mae wrth galon gwaith rheoleiddio Ofcom. I ddangos y pwynt, edrychwch ar ein gwaith ym maes teledu a radio, lle'r oeddem y llynedd wedi asesu bron i ddeg mil darn o gynnwys. Bob tro - fel sy'n ofynnol dan y gyfraith - fe wnaethom ystyried rhyddid mynegiant yn llawn. Roeddem wedi adlewyrchu disgresiwn golygyddol darlledwyr. Ac roeddem wedi dilyn hawliau gwylwyr a gwrandawyr i gael amrywiaeth o wybodaeth a syniadau. Yn y dadansoddiad terfynol, dim ond 33 o achosion a dorrodd ein rheolau.
Wnaethon ni hefyd ystyried yr hawl i beidio â chael ein tramgwyddo? A dweud y gwir, naddo, oherwydd does dim hawl o'r fath yn bodoli! Mae arnaf ofn bod tramgwyddo yn risg a ddaw gyda’r rhyddid i ddweud ein dweud.
Felly, mae dyddiau rheoleiddio darlledu gormesol ymhell y tu ôl i ni. Efallai y byddai pobl ifanc sy'n mynd i'r theatr heddiw yn synnu o glywed, yn ystod fy oes i, fod pensil sensoriaeth yr Arglwydd Chamberlain yn dal i hongian, fel dagr, dros bob sgript CYN y gellid ei chynhyrchu yn y West End. Rydym wedi dod yn bell.
Am yr holl resymau hyn, credaf y gall rheoleiddwyr cyfoes fod yn rymoedd pwerus er daioni ym marchnadoedd yfory. Er mwyn cyflawni hynny, rhaid inni barhau i alluogi, i ymgysylltu ac i esblygu.
Cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus
Nawr, hoffwn orffen yn fyr lle y dechreuais: gyda darlledu, y diwydiant gwych ymunais ag ef hanner canrif yn ôl.
Nes ymlaen wythnos yma, bydd Ofcom yn adrodd ar ddyfodol cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus. Dyma'r darlledwyr sy'n gonglfaen i'n diwydiannau creadigol. Maent yn cynrychioli un o lwyddiannau mawr Prydain dros y 50 mlynedd diwethaf.
Mae hon yn stori am ddychymyg, talent a dawn ddi-ben-draw. Mae’n llawn awduron, dylunwyr, effeithiau arbennig, colur, cyfarwyddwyr ac actorion y mae galw amdanynt ym mhedwar ban byd. Diolch i'w gwaith, mae gwylwyr a gwrandawyr ym Mhrydain yn mwynhau deiet cyfoethog ac amrywiol o raglenni sydd wedi cael eu gwneud ym Mhrydain.
Mae darlledu ym Mhrydain bob amser wedi bod yn gymysgedd hapus o ddiwylliant a masnach. Ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r olaf wedi gweld newid enfawr. Mae'r maes masnachol hwn bellach yn faes brwydr i gewri byd-eang, sydd â'r pŵer ariannol a thechnolegol i drechu chwaraewyr domestig llai
Mae adloniant cystadleuol ym mhob man: o TikTok ar eich ffôn, i’r ffrydwyr yn eich ystafell fyw. Mae YouTube wedi dweud mai ef yw’r teledu newydd. Sut gall sefydliadau fel y BBC, ITV neu Channel 4 gystadlu? Dysgais yn ddiweddar fod gan 80% o gartrefi deledu clyfar.
Wel, mae rheoleiddio’n gallu helpu. Rydym eisoes yn gwneud newidiadau o dan y Ddeddf Cyfryngau i wneud pethau’n fwy teg. Bydd y rhain yn golygu bod ffrydwyr yn rhwym wrth safonau Ofcom yn yr un ffordd â sianeli traddodiadol, a bydd hi'n dal yn hawdd dod o hyd i'r sianeli hynny.
Ond mae rhai pethau na all rheoleiddio, ni waeth pa mor fodern, eu gwneud.
Ni all wneud i bobl wylio’r hyn nad ydynt eisiau ei wylio.
Mae'r dewis anhygoel rydym yn ei fwynhau heddiw yma i aros. Os rhywbeth, byddwn yn cael hyd yn oed rhagor o ddewis. Bydd dysgu peirianyddol a modelau iaith mawr yn caniatáu i gyfryngau ddod hyd yn oed yn fwy personol, ymatebol a rhyngweithiol. Bydd llwyfannau cymdeithasol a modelau cynnwys newydd yn dod i'r amlwg. Bydd fideo a sain ar gael ar draws ystod ehangach fyth o ddyfeisiau personol a dyfeisiau'r cartref. Bydd llawer o gwmnïau mwyaf y byd yn cystadlu hyd yn oed yn galetach am eu cyfran nhw o'n hamser.
Felly, bydd yn rhaid i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus frwydro'n galetach byth i aros yn berthnasol a chael eu gwerthfawrogi.
Sut mae gwneud hyn? Drwy wneud yr hyn na all neb arall ei wneud.
Gallant wneud hyn drwy harneisio eu treftadaeth ddihafal, i greu eiliadau o wylio cenedlaethol, hanfodol ar y cyd.
Gallant wneud hyn drwy ddefnyddio eu rhwydweithiau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol i gyrraedd pobl o bob cefndir, ym mhob rhan o'r DU.
Gallant wneud hyn drwy roi gwybodaeth i'n cymdeithas, drwy raglenni dogfen a newyddion o'r radd flaenaf sy'n adrodd ac yn myfyrio ar ein bywydau. Wrth iddynt wneud hynny, bydd y safonau mae Ofcom yn glynu wrthynt yn parhau i ennyn lefel o ymddiriedaeth ymysg gwylwyr nad yw llwyfannau ar-lein a thramor erioed wedi'i chyrraedd.
Yn y pen draw, dim ond gwneud pethau mae pobl eisiau eu gwylio y gall darlledwyr ei wneud, ni waeth beth sydd ar gael mewn mannau eraill.
Beth os byddant yn methu? Beth os na fydd cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn cyrraedd unrhyw un bron, yn colli eu pwrpas neu'n gwywo ar y tonfeddi? Mae arnaf ofn wedyn y byddem yn colli’r manteision economaidd a’r pŵer unigryw i wella cymdeithas. Yr hyn a fyddai’n weddill fyddai – ie – marchnad nwyddau arall heb ei rheoleiddio. Y tro hwn, yr hyn y byddem yn ei golli fyddai rhaglenni newyddion, drama, trafod a dadlau o Brydai y mae pobl yn ymddiried ynddynt – AMRYWIAETH unigryw o raglenni wedi'u gwneud gan gynhyrchwyr Prydeinig gyda dim nod ar wahân i blesio'r gynulleidfa ddomestig.
Dydw i ddim yn credu y bydd senario Dydd y Farn yn digwydd; ond ni allwn orffwys ar ein rhwyfau. Ac i bwysleisio pam bod hyn yn bwysig, ni allaf ragori ar eiriau Edward R Murrow i orffen, y newyddiadurwr darlledu digymar o America a fu'n gohebu ar yr Ail Ryfel Byd o Lundain ac yna'n serennu'n wythnosol ar CBS.
Dywedodd Murrow am deledu: “Gall yr offeryn hwn addysgu, gall daflu goleuni; gall, a gall hyd yn oed ysbrydoli. Ond bydd ond yn gallu gwneud hynny i’r graddau y mae pobl yn benderfynol o'i ddefnyddio i’r perwyl hwnnw. Felly arall, fydd yn ddim byd ond gwifrau a golau mewn blwch.
“Mae brwydr fawr ac efallai tyngedfennol i’w hymladd yn erbyn anwybodaeth, anoddefgarwch a difaterwch. Gallai’r teledu fod yn arf defnyddiol i wneud hynny.”
Diolch yn fawr iawn.