Mae Pwyllgor Cynghori Cymru'n rhoi cyngor i Ofcom ynghylch buddiannau a safbwyntiau pobl yng Nghymru mewn perthynas â materion cyfathrebu.
Mae'r Pwyllgor fel arfer yn cwrdd pum gwaith y flwyddyn. Mae cofnodion y Pwyllgor yn cael eu darparu i Fwrdd Ofcom.
Cylch Gwaith y Pwyllgor Cynghori yw:
- ceisio nodi materion sy'n effeithio ar y sectorau cyfathrebiadau a phost yng Nghymru, fel Pwyllgor ar y cyd ac yn unigol fel Aelodau, yn enwedig yn y sectorau lle mae ganddynt wybodaeth benodol neu arbenigedd
- darparu cyngor i Ofcom am faterion cyffredinol a phenodol sy'n ymwneud â sectorau'r cyfathrebiadau a phost sy'n codi yng Nghymru
- darparu cyngor a sylwadaeth fel y bo angen am faterion a gyflwynir i'r Pwyllgor gan Ofcom
- cynnig sylwadaeth am ymgynghoriadau Ofcom
- ar gais y Bwrdd Cynnwys, darparu cyngor penodol i'r Bwrdd hwnnw ar faterion mewn perthynas â theledu, radio ac unrhyw gynnwys arall ar wasanaethau y mae Ofcom yn eu rheoleiddio
- ar gais Bwrdd Ofcom, darparu cyngor i'r Panel Defnyddwyr Cyfathrebiadau ar faterion yn y sector cyfathrebiadau sy'n effeithio ar ddefnyddwyr yng Nghymru
- cynhyrchu adroddiad blynyddol yn adlewyrchu materion o fewn y sectorau cyfathrebu a phost yng Nghymru.
27 Chwefror 2024
12 Mehefin 2024
2 Hydref 2024
26 Tachwedd 2024
2024
Cofnodion cyfarfod rhif 92 Pwyllgor Cynghori Cymru
2023
Cofnodion cyfarfod rhif 91 Pwyllgor Cynghori Cymru
Cofnodion cyfarfod rhif 90 Pwyllgor Cynghori Cymru (PDF, 194.6 KB)
Cofnodion cyfarfod rhif 89 Pwyllgor Cynghori Cymru (PDF, 200.9 KB)
Cofnodion cyfarfod rhif 88 Pwyllgor Cynghori Cymru (PDF, 178.5 KB)
2022
Cofnodion cyfarfod rhif 87 Pwyllgor Cynghori Cymru
Cofnodion cyfarfod rhif 86 Pwyllgor Cynghori Cymru - 13 Medi 2022 (PDF, 188.0 KB)
Cofnodion cyfarfod rhif 85 Pwyllgor Cynghori Cymru - 23 Mehefin 2022 (PDF, 227.1 KB)
Cofnodion cyfarfod rhif 84 Pwyllgor Cynghori Cymru – 22 Mawrth 2022 (PDF, 207.9 KB)
2021
Cofnodion cyfarfod rhif 83 Pwyllgor Cynghori Cymru - 22 Tachwedd 2021 (PDF, 223.9 KB)
Cofnodion cyfarfod rhif 82 Pwyllgor Cynghori Cymru – 22 Medi 2021 (PDF, 269.8 KB)
Cofnodion cyfarfod rhif 81 Pwyllgor Cynghori Cymru – 15 Mehefin 2021 (PDF, 218.4 KB)
Cofnodion cyfarfod rhif 80 Pwyllgor Cynghori Cymru – 9 Mawrth 2021 (PDF, 172.8 KB)
2020
Cofnodion Cyfarfod rhif 79 Pwyllgor Cynghori Cymru – 16 Rhagfyr 2020 (PDF, 187.1 KB)
Cofnodion Cyfarfod rhif 78 Pwyllgor Cynghori Cymru – 15 Medi 2020 (PDF, 182.6 KB)
Cofnodion Cyfarfod rhif 77 Pwyllgor Cynghori Cymru – 2 Mehefin 2020 (PDF, 197.8 KB)
Cofnodion Cyfarfod rhif 76 Pwyllgor Cynghori Cymru – 11 Mawrth 2020 (PDF, 178.5 KB)
Gallwch ddod o hyd i gofnodion hŷn ar wefan allanol Saesneg yr Archifau Cenedlaethol.
Dr Aled Eirug (Cadeirydd)
Mae Aled Eirug yn gynghorydd polisi strategol llawrydd ac yn Gadeirydd corff ariannu addysg uwch Coleg Cymraeg, (o fis Medi 2022). Roedd yn aelod o awdurdod llywodraethu ar gyfer gwasanaethau darlledu Cymraeg, S4C (2012 -2015), yn gadeirydd pwyllgor ymgynghorol y Cyngor Prydeinig ar gyfer Cymru (2012-2015) ac yn aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr y Cyngor Prydeinig (2013-2015).
Mae'n newyddiadurwr a darlledwr profiadol gyda dros 30 mlynedd o brofiad yn ITV a'r BBC. Bu’n Bennaeth Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru o 1992 i 2006 ac yn aelod o Fwrdd Rheoli BBC Cymru o 2000 i 2006. Mae ganddo brofiad helaeth o gynhyrchu radio, teledu ac ar-lein ar draws newyddion, materion cyfoes a gwneud rhaglenni dogfen.
Ymunodd Aled â Phwyllgor Cynghori Cymru ar 1 Rhagfyr 2021 a chafodd ei benodi'n Gadeirydd ar 1 Awst 2024. Mae ei benodiad yn para tan 31 Mai 2026.
Angharad Evans (aelod anweithredol)
Mae Angharad Evans yn gyfreithiwr ffilm a theledu ymgynghorol ac mae wedi cynghori busnesau o bob maint o fusnesau newydd i frandiau a gydnabyddir yn rhyngwladol am yr 20 mlynedd diwethaf. Cyn dod yn ymgynghorydd roedd hi'n Bennaeth Adran Materion Cyfreithiol a Busnes S4C a bu'n gweithio yn y tîm Ffilm a Chyfryngau arbenigol yn SJ Berwin, Llundain.
Mae'n cynghori amrywiaeth o gleientiaid o gwmnïau cynhyrchu bach i gwmnïau rhyngwladol mawr ar gyd-gynyrchiadau, dosbarthu, trefniadau ariannu aml-bleidiol, cytundebau hawliau, cytundebau opsiwn a chliriadau. Mae'n cael ei chydnabod fel Unigolyn Blaenllaw yng Nghyfraith y Cyfryngau yng Nghymru yn y ‘Legal 500’ a ‘Chambers and Partners.’
Ymunodd Angharad Evans â Phwyllgor Cynghori Cymru ar 1 Ionawr 2022. Mae ei phenodiad yn parhau tan 31 Rhagfyr 2026.
Amanda Rees (aelod anweithredol)
Mae Amanda yn arweinydd creadigol, ymgynghorydd cyfryngau, cadeirydd a chynrychiolydd Gweithredol gyda phrofiad helaeth fel cynhyrchydd gweithredol ac uwch gomisiynydd. Fel Cyfarwyddwr Cynnwys S4C ac yna Cyfarwyddwr Llwyfannau, roedd Amanda yn gweithredu ar lefel y bwrdd ac uwch arweinyddiaeth, gan arwain strategaeth gomisiynu greadigol a digidol y darlledwr. Cyn ymuno ag S4C yn 2016, roedd Amanda yn rhedeg ei chwmni cynhyrchu ei hun, TiFiNi Ltd a oedd yn arbenigo mewn gwneud rhaglenni dogfen mynediad arbennig, a enwebwyd am wobrau.
Amanda yw Cadeirydd Ffilm Cymru Wales. Is-gadeirydd Cwmpas ac ymddiriedolwr elusen yn Saving Saints Rescue UK. Mae ganddi radd Meistr mewn Seicoleg Sefydliadol a Busnes, Diploma CMI (L7) mewn Ymgynghori Proffesiynol.
Ymunodd Amanda â Phwyllgor Cynghori Cymru ar 29 Ebrill 2024. Mae ei phenodiad yn parhau tan 14 Ebrill 2027.
_____________________
Yn ogystal â'r Aelodau a benodir i'r Pwyllgorau Cynghori, gwahoddir yr Aelodau o'r Bwrdd Cynnwys a'r Aelodau o'r Panel Defnyddwyr Cyfathrebiadau ar gyfer y Gwledydd i fynychu Cyfarfodydd y Pwyllgor Cynghori perthnasol. Yng Nghymru yr aelodau hyn yw:
- Yr Athro Ruth McElroy, Aelod o'r Bwrdd Cynnwys ar gyfer Cymru
- Rachel Burr, Aelod o'r Panel Defnyddwyd Cyfathrebiadau