ON2025-web

O apiau i chwilio DA: sut mae'r DU yn mynd ar-lein yn 2025

Cyhoeddwyd: 10 Rhagfyr 2025

Mae ein hadroddiad Ein Gwlad Ar-lein diweddaraf yn archwilio sut mae oedolion a phlant yn y DU yn profi bywyd ar-lein. O'r safleoedd a'r apiau rydyn ni'n eu defnyddio bob dydd, i sut mae pobl yn teimlo am yr hyn maen nhw'n ei wneud a'r hyn maen nhw'n ei weld ar-lein.

Rydyn ni'n treulio mwy o amser ar-lein fel cenedl

Ar gyfartaledd, mae oedolion bellach yn treulio pedair awr a hanner ar-lein bob dydd – sef cynnydd o 10 munud ers ffigyrau y llynedd. Mae menywod yn treulio 26 munud y dydd yn hirach ar-lein na dynion, gyda chyfartaledd dyddiol o 4 awr, 43 munud.

Mae'r rhan fwyaf o'r amser ar-lein yn cael ei dreulio ar ffôn clyfar, lle mae oedolion yn defnyddio 41 ap y mis ar gyfartaledd. WhatsApp, Facebook a Google Maps yw'r tri ap a ddefnyddir amlaf gan oedolion.

Mae hanner yr holl amser ar-lein bellach yn cael ei dreulio ar wasanaethau sy'n eiddo i Alphabet a Meta

Mae dau gwmni technoleg mawr bellach yn cyfrif am fwy na hanner yr amser y mae pobl yn y DU yn ei dreulio ar-lein.

YouTube yw'r gwasanaeth sy'n eiddo i Alphabet a ddefnyddir fwyaf, ac mae 94% o oedolion yn ei ddefnyddio. Mae’r amser sy’n cael ei dreulio yn gwylio YouTube yn cynyddu, gan gyrraedd 51 munud y dydd ar gyfartaledd, heb gynnwys gwylio ar set deledu. Y cyfuniad o Facebook a Messenger (93% oedolion) yw'r gwasanaeth sy’n eiddo i Meta a ddefnyddir fwyaf, wedi’i ddilyn gan WhatsApp (90% oedolion).

Mae deallusrwydd artiffisial (AI)  yn trawsnewid chwilio ar-lein

Mae Google Search yn cael ei ddefnyddio gan bedwar o bob pump oedolyn (82%). Dyma'r gwasanaeth chwilio a ddefnyddir fwyaf yn y DU, gyda 3 biliwn o chwiliadau y mis.

Mae AI yn newid profiad chwilio y DU. Mae tua 30% o chwiliadau bellach yn dangos trosolwg deallusrwydd artiffisial, ac mae mwy na hanner (53%) o oedolion yn dweud eu bod yn gweld y crynodebau hyn yn aml. Yn y rhan fwyaf o achosion, nid ydynt yn chwilio am y rhain ond maent bellach wedi'u cynnwys gan eu gwasanaethau chwilio.

Mae gwasanaethau AI cynhyrchiol yn ennill tir, gyda mwy o bobl yn mynd ati i chwilio amdanynt. Cafodd ChatGPT 1.8 biliwn o ymweliadau yn y DU yn ystod wyth mis cyntaf 2025, i fyny o 368 miliwn yn yr un cyfnod yn 2024.

Mae oedolion yn llai cadarnhaol am effaith y rhyngrwyd

Eleni, dim ond traean o oedolion (33%) a ddywedodd eu bod yn teimlo bod y rhyngrwyd yn dda i gymdeithas –gostyngiad o 40% y llynedd. Ac er bod bron i ddwy ran o dair (65%) o oedolion yn credu bod manteision personol bod ar-lein yn gorbwyso'r risgiau, mae'r ffigur hwn wedi gostwng yn raddol o 71% ddwy flynedd yn ôl.

Eleni, mae llai o oedolion yn teimlo’n fwy rhydd i fod yn nhw eu hunain ar-lein, o gymharu ag all-lein (25% I lawr o 30% llynedd), a dim ond 35%, sy’n teimlo eu bod yn gallu rhannu barn yn haws ar-lein nag all-lein.

Beth mae plant y DU yn ei wneud ar-lein: cyfryngau cymdeithasol, gwaith ysgol a difaru gwario arian

Mae Gen Z iau a'r Gen Alphas hynaf yn ddefnyddwyr rhyngrwyd symudol-gyntaf, fideo-brodorol. Mae plant 8–14 oed yn treulio bron i 3 awr ar-lein bob dydd, gan godi i 4 awr ar gyfer plant 13–14 oed a thua dwy awr i blant 8–9 oed. Mae hyn yn cyfrif amser ar ffonau clyfar, tabledi, gliniaduron a chyfrifiaduron yn unig – nid gemau consol.

YouTube a Snapchat sy'n arwain y ffordd o ran amser sgrin. Yn y grŵp oedran 8–14, mae plant yn treulio tua 48 munud y dydd ar YouTube a 45 munud ar Snapchat – sydd, gyda'i gilydd, yn cyfrif tua hanner eu cyfanswm amser ar-lein. Mae bron bob un o blant 8–14 oed yn defnyddio YouTube (96%) a Google Search (95%). Mae defnydd o WhatsApp (63%) a TikTok (58%) hefyd yn uchel.

Mae sgrolio gyda’r hwyr yn gyffredin. Ar draws pedwar o'r prif wasanaethau a ddefnyddir gan blant – YouTube, Snapchat, TikTok a WhatsApp – mae 15–24% o'r amser a dreulir ar gyfer yr ystod oedran 8-14 oed gyfan yn digwydd rhwng 9pm a 5am. Mae 4–10% o'r defnydd yn digwydd ar ôl 11pm, yn dibynnu ar y platfform.  

Mae'r rhan fwyaf o blant yn hapus gyda'u bywydau ar-lein

Yn gyffredinol, mae naw o bob deg (91%) o blant 8–17 oed yn dweud eu bod yn hapus gyda'r pethau maen nhw'n eu gwneud ar-lein.

Mae pobl ifanc yn eu harddegau yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol ac apiau negeseuon i gadw mewn cysylltiad. Mae bron i dri chwarter (72%) o bobl 13–17 oed sy'n defnyddio'r llwyfannau hyn yn dweud eu bod yn eu helpu i deimlo'n agosach at ffrindiau. Mae merched 13–17 oed yn fwy tebygol na bechgyn o'r un oed o ystyried bod mynd ar-lein yn dda i helpu i feithrin a chynnal cyfeillgarwch (71% o gymharu â 60%).

Yn gyffredinol, mae saith o bob deg (69%) o bobl ifanc 13–17 oed yn mynd ar-lein i gefnogi eu lles, yn bennaf i ymlacio (45%) neu godi eu hwyliau (32%). Mae bron i wyth o bob deg (78%) yn dweud bod y rhyngrwyd yn helpu gyda gwaith ysgol, ac mae mwy na hanner (55%) yn ei ddefnyddio i ddysgu sgiliau newydd.

Ond maen nhw'n ymwybodol o doomscrolling – a 'phydredd-ymenydd’

Roedd rhai o'r plant y gwnaethom siarad â nhw yn myfyrio ar effeithiau negyddol treulio rhy hir yn sgrolio ar eu ffôn clyfar. Gwnaethant ddefnyddio'r term "pydredd ymennydd" i ddisgrifio'r math o gynnwys a'r teimlad y mae'n ei adael ar ôl. Mae'r cynnwys hwn yn gyflym, yn anhrefnus, ac yn aml yn nonsens a gall adael gwylwyr wedi'u gorysgogi a'u drysu.

Adennill eu gofod ar-lein – mae Gen Z yn fwy tebygol o weithredu ar gynnwys niweidiol

Er ein bod wedi canfod bod saith o bob deg o bobl ifanc 11–17 oed wedi gweld neu glywed cynnwys niweidiol ar-lein yn ystod y pedair wythnos diwethaf, gwelsom hefyd fod bron i ddwy ran o dair (64%) ohonynt wedi cymryd camau ar ôl dod ar draws cynnwys o'r fath.

Roedd y camau gweithredu yn cynnwys defnyddio offer platfform fel y botwm 'dim yn hoffi' (15%), adrodd cynnwys (11%), blocio'r person a bostiodd y cynnwys (10%), neu ddweud wrth oedolyn (10%).  

Yn bwysig, gwnaethom siarad â phlant am hyn cyn i'n Codau Ymarfer Diogelu Plant ddod i rym ym mis Gorffennaf 2025. O dan ein rheolau newydd, rhaid i wefannau ac apiau gymryd camau i atal plant rhag dod ar draws y cynnwys mwyaf niweidiol sy'n ymwneud â hunanladdiad, hunan-niweidio, anhwylderau bwyta a phornograffi. Mae'r camau hyn yn cynnwys gwiriadau oedran a sicrhau nad yw'r cynnwys hwn yn ymddangos mewn porthiant ‘i chi’ plant, ac mae'n rhaid iddynt hefyd gael gwell offer adrodd i blant eu defnyddio. Rhaid iddynt hefyd weithredu i ddiogelu plant rhag cynnwys misogynistaidd, treisgar, casineb neu gamdriniol, bwlio ar-lein a heriau peryglus.

Defnyddwyr iau yn difaru prynu ar-lein

Dywedodd bron i chwech o bob deg (58%) o blant 8–17 oed eu bod wedi gwario arian ar-lein yn ystod y mis diwethaf, boed ar wefannau cyfryngau cymdeithasol, llwyfannau rhannu fideo, neu wrth iddynt fod yn chwarae gemau.

Mae plant yn dweud wrthym eu bod wedi cael eu hannog i wario arian mewn gwahanol ffyrdd ar-lein, gan gynnwys addasu cymeriadau (30%), hysbysebion (27%), argymhellion gan ffrindiau neu deulu (23%) a chynnwys dylanwadwyr (22%).

Ond roedd traean o blant (32%) yn difaru'r pethau y gwnaethant eu prynu tra’n chwarae gêmau, ac roedd 43% yn difaru’r pethau y gwnaethant eu prynu ar gyfryngau cymdeithasol. Roedd 42% yn ansicr beth yn union yr oeddent yn ei brynu mewn gemau.

Online Nation 2025 CYM_Top 10 smartphone apps by age 1