HERO - Ofcom ignites liftoff for smartphone space race

Ofcom yn tanio ras ofod ffônau clyfar

Cyhoeddwyd: 9 Rhagfyr 2025

Datganiad 9 Rhagfyr 2025

  • Ffonau clyfar safonol i dderbyn signal o'r gofod
  • Ofcom yn galluogi galwadau lloeren, negeseuon testun a data i helpu i gael gwared ar fannau lle nad oes darpariaeth sylw symudol
  • Y DU fydd y wlad gyntaf yng Ngorllewin Ewrop lle mae gweithredwyr symudol yn ymuno â chwmnïau lloeren i ddefnyddio gwasanaethau newydd o'r gofod

Mae'r ras i ddod â galwadau a negeseuon testun i ffonau clyfar o loeren wedi dechrau, ar ôl i Ofcom gyhoeddi heddiw ei benderfyniadau terfynol ynghylch sut y gellir cyflwyno'r dechnoleg.

    Mae gweithredwyr ffonau symudol bellach yn ymuno â chwmnïau lloeren i ddarparu 'gwasanaethau uniongyrchol i'r ddyfais' i ffonau clyfar bob dydd ar draws y DU.

    Mae hyn yn cynnwys lloerennau cannoedd o filltiroedd uwchben y Ddaear yn pelydru signalau i ffonau clyfar, fel y gallant wneud galwadau, anfon negeseuon testun a defnyddio data mewn 'not-spots' lle nad oes darpariaeth sylw symudol. 

    Hyd yn hyn, dim ond gyda phecyn arbenigol y mae hyn wedi bod yn bosibl, a ddefnyddir fel arfer gan sefydliadau fel y llynges a thimau achub mynydd [1].

    Mae'r dechnoleg, a fydd o fudd i gymunedau gwledig a rhai sydd anodd eu cyrraedd sydd â sylw anghyson neu ardaloedd sy'n dioddef toriadau, ond wedi’i chyflwyno'n eang mewn un wlad Ewropeaidd arall hyd yn hyn - Wcráin, lle mae'n cynnig sylw a gwytnwch ychwanegol, gan gynnwys fel copi wrth gefn  yng nghanol difrod rhyfel i'w rhwydweithiau symudol. 

    Yn y DU, dros amser bydd yn dod â diwedd ar rwystredigaethau dyddiol mewn ardaloedd anghysbell fel galwadau wedi'u colli, negeseuon heb eu hanfon a methu diweddaru apiau. Ac nid oes angen i bobl sy’n caru natur boeni mwyach am fynd heb signal yn yr awyr agored.

    Mae Ofcom wedi penderfynu caniatáu i gwmnïau ffonau symudol a gweithredwyr lloeren ymuno a defnyddio tonnau awyr a elwir yn sbectrwm symudol, yn amodol ar amodau technegol penodol.
    ¬¬Mae O2 - mewn partneriaeth â Starlink - wedi cyhoeddi y bydd yn dechrau cyflwyno cysylltedd lloeren erbyn dechrau 2026, tra bod Vodafone wedi llofnodi cytundeb gyda AST i ddod â'r gwasanaethau hyn i'w gwsmeriaid [2]

    Yn barod i'w lansio

    Bydd angen i unrhyw weithredwr rhwydwaith symudol sy'n bwriadu darparu gwasanaethau uniongyrchol-i-ddyfais ofyn am newid i'w drwydded Ofcom. 

    Gan y bydd y dechnoleg hon yn defnyddio amleddau sydd eisoes yn cael eu defnyddio gan y sector symudol, mae yna reolau y bydd angen i gwmnïau eu dilyn i osgoi ymyrraeth, y mae Ofcom hefyd wedi 'u cwblhau rheolau hyn heddiw. Mae'r rhain yn cynnwys amddiffyniadau i osgoi tarfu ar orsafoedd rheoli traffig awyr a rhwydweithiau symudol mewn gwledydd cyfagos.

    Mae Ofcom hefyd wedi cadarnhau na fydd angen trwydded ar ddefnyddwyr ffôn clyfar i gael signal o'r gofod.  

    Dywedodd David Willis, Cyfarwyddwr Grŵp Sbectrwm Ofcom: “Yn y dyfodol, gyda thechnoleg lloeren, gallech anfon lluniau o Scafell Pike, llif byw o Lyn Windermere, neu bori bargeinion o Ben Nevis.
    "Mae gweithredwyr symudol eisoes yn bwrw ymlaen i wneud y DU y genedl gyntaf yng Ngorllewin Ewrop i gael mynediad eang i'r dechnoleg hon, a fydd yn gweld ardaloedd anghysbell a gwledig yn cael eu cysylltu'n well nag erioed o'r blaen, gan ddatgloi cyfleoedd i gymunedau, busnesau a thwf economaidd.


    DIWEDD
    Nodiadau i olygyddion:
    1.   Gyda rhai o'r ffonau diweddaraf Apple, gall defnyddwyr gysylltu eu dyfais â lloeren i anfon neges destun i'r gwasanaethau brys, gofyn am gymorth ar ochr y ffordd a rhannu eu lleoliad.  
    2.   Mae gwybodaeth am gynlluniau O2 yma ac mae Vodafone yma.
    3.   Sut mae technoleg lloeren uniongyrchol-i-ddyfais yn gweithio:Ofcom ignites liftoff for smartphone space race CY