Sut mae’r wybodaeth am ddarpariaeth yn cael ei chreu a sut ydych chi’n gwneud yn siŵr ei bod yn gywir?
Casglu Data:
Mae’r map darpariaeth symudol yn seiliedig ar ragfynegiadau o’r ddarpariaeth gan y cwmnïau rhwydwaith symudol. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei chreu drwy ddefnyddio rhaglenni cyfrifiadurol sy’n ysgogi’r ffordd mae signalau symudol yn teithio o’r mastiau symudol a sut maen nhw’n cael eu rhwystro gan unrhyw bethau fel bryniau, coed ac adeiladau.
Mae’r rhagfynegiadau hyn ar gyfer y ddarpariaeth yn cael eu prosesu mewn matrics grid 50 metr x 50 metr sy’n cwmpasu holl fas tir y DU. Mae’r data hwn wedyn yn cael ei lwytho i fyny i Fap Darpariaeth Ofcom.
Dadansoddi a Dilysu Data:
I ddilysu’r data, mae Ofcom yn cynnal nifer o brofion yn y byd go iawn gan ddefnyddio caledwedd mesur pwrpasol ar draws set sampl o wahanol leoliadau yn y DU. Mae’r profion hyn wedi dangos bod y rhagfynegiadau o fodelau cyfrifiadurol yn ddibynadwy ar y cyfan, ond ni allant warantu bod darpariaeth mewn ardal benodol oherwydd ffactorau lleol iawn.