Mae'n rhaid i ddarparwyr cyfathrebu sy'n cynnig gwasanaethau i bobl, busnesau bach (hyd at 10 o weithwyr) a sefydliadau nid-er-elw (sydd â hyd at 10 unigolyn, heb gynnwys gwirfoddolwyr, yn gweithio iddynt) fod yn aelodau o gynllun Datrys Anghydfod Amgen (ADR).
Ar hyn o bryd mae Ofcom yn cymeradwyo dau gynllun ADR: Communication & Internet Services Adjudication Scheme (CISAS) a Communications Ombudsman. (Newidiodd Ombudsman Services ei enw i Communications Ombudsman ym mis Gorffennaf 2023. Os ydych eisoes wedi codi cwyn gyda Ombudsman Services, nid oes angen i chi ei chyflwyno eto.)
Mae cynlluniau ADR yn gyrff annibynnol sy'n cynnal asesiad diduedd ar gwynion rhwng cwsmer a darparwr, ac yn dod i benderfyniad yn seiliedig ar yr wybodaeth a gyflwynir gan y ddau barti. Mae cynlluniau ADR yn rhad ac am ddim i'w defnyddio.
Gallwch fynd â'ch cwyn i gynllun ADR os:
- ydych eisoes wedi ei godi gyda'ch darparwr cyfathrebu ac mae'n dal heb ei ddatrys; ac
- os yw o leiaf wyth wythnos wedi mynd heibio ers i chi gyflwyno'r gŵyn gychwynnol i'ch darparwr neu na fu modd i chi ddod i gytundeb â nhw a'ch bod wedi derbyn llythyr anghydfod llwyr.
I ba gynllun mae fy narparwr i'n perthyn?
Defnyddiwch ein teclyn gwirio ADR i weld pa ddarparwr sy'n perthyn i ba gynllun ADR. Os nad yw eich darparwr ar y rhestr hon, gallwch wirio gyda'r cynlluniau ADR i ddarganfod pa gynllun mae eich darparwr yn perthyn iddo: Ombwdsmon Cyfathrebu a CISAS:
| Enw'r cwmni | Cynllun ADR |
|---|---|
| BT | Ombwdsmon Cyfathrebu |
| EE | Ombwdsmon Cyfathrebu |
| GiffGaff | Ombwdsmon Cyfathrebu |
| iD Mobile | Ombwdsmon Cyfathrebu |
| Lebara | Ombwdsmon Cyfathrebu |
| Lyca Mobile | CISAS |
| NOW | CISAS |
| O2 | Ombwdsmon Cyfathrebu |
| Plusnet | Ombwdsmon Cyfathrebu |
| Sky | CISAS |
| SMARTY | Ombwdsmon Cyfathrebu |
| TalkTalk | CISAS |
| Tesco Mobile | Ombwdsmon Cyfathrebu |
| Three | Ombwdsmon Cyfathrebu |
| Utility Warehouse | Ombwdsmon Cyfathrebu |
| Virgin Media | Ombwdsmon Cyfathrebu |
| Vodafone | CISAS |
| VOXI | CISAS |