Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi adroddiad sy'n edrych ar sut gallai ymchwilwyr gael gwell mynediad at wybodaeth gan wasanaethau ar-lein sy'n cael eu rheoleiddio, er mwyn cefnogi gwaith ar faterion diogelwch ar-lein. Mae'r adroddiad yn amlinellu tri opsiwn polisi i'r llywodraeth eu hystyried fel rhan o unrhyw fframwaith mynediad yn y dyfodol.
Mae mynediad at wybodaeth o ansawdd uchel am yr ecosystem ddigidol yn hanfodol er mwyn grymuso pobl â rhagor o wybodaeth am faterion diogelwch ar-lein. Mae’r wybodaeth hon yn gallu rhoi cipolwg pwysig ar niwed ar-lein, galluogi defnyddwyr i wneud penderfyniadau gwybodus am eu harferion digidol, a chefnogi ymchwilwyr a llunwyr polisïau i asesu mesurau sy’n ceisio lliniaru'r niwed hwnnw.
Mae'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn mynnu bod Ofcom yn llunio adroddiad ar sut ac i ba raddau mae ymchwilwyr annibynnol yn cael gafael ar wybodaeth am faterion diogelwch ar-lein gan ddarparwyr gwasanaethau ar-lein sy'n cael eu rheoleiddio. Mae'r adroddiad hefyd yn archwilio'r cyfyngiadau presennol ar rannu gwybodaeth at ddibenion ymchwil ac mae’n asesu sut y gellid sicrhau mwy o fynediad.
Rydym wedi gofyn am farn amrywiaeth eang o randdeiliaid wrth baratoi'r adroddiad hwn, gan gynnwys cyrff rheoleiddio a chyrff llywodraethol eraill, Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI), academyddion, grwpiau cymdeithas sifil, a gwasanaethau a reoleiddir. Fe wnaethom hefyd ofyn am dystiolaeth o sut mae ymchwilwyr wedi goresgyn cyfyngiadau rhannu gwybodaeth mewn sectorau y tu hwnt i ddiogelwch ar-lein, lle gallai achosion o'r fath ddangos mecanweithiau effeithiol ar gyfer llywodraethu data neu rannu data.
Cyflwynwyd ein hadroddiad i'r Ysgrifennydd Gwladol, sydd wedi'i gyflwyno gerbron Senedd y DU heddiw.
Ochr yn ochr â'n gwaith ni, mae Senedd y DU wedi rhoi’r Ddeddf Data (Defnydd a Mynediad) 2025 mewn grym, sy’n caniatáu i Lywodraeth y DU greu fframwaith newydd, os yw'n dewis gwneud hynny, i alluogi ymchwilwyr i gael gafael ar wybodaeth am faterion diogelwch ar-lein sy'n cael ei dal gan wasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio.
Opsiynau Polisi
Rydym yn amlinellu tri opsiwn polisi a modelau posibl ar gyfer hwyluso mwy o fynediad i ymchwilwyr, sy’n cynnwys:
- Egluro'r rheolau cyfreithiol presennol: Gallai awdurdodau perthnasol, ddarparu canllawiau ychwanegol ar yr hyn sydd eisoes yn cael ei ganiatáu'n gyfreithiol i ymchwilwyr gael gafael at faterion pwysig, fel rhoddion data a chrafu ar gyfer ymchwil.
- Creu dyletswyddau newydd, sy'n cael eu gorfodi gan reoleiddiwr ôl-stop: Gallai fod yn ofynnol i wasanaethau roi systemau a phrosesau ar waith i weithredu mynediad at ddata. Gallai hyn gynnwys dyletswyddau newydd ar wasanaethau a reoleiddir i greu gweithdrefnau safonol ar gyfer achredu ymchwilwyr a cheisiadau am ddata, gyda'r rheoleiddiwr ôl-stop yn gyfrifol am orfodi. Byddai’r gwasanaethau’n gyfrifol am ddarparu data’n uniongyrchol i ymchwilwyr neu am ddarparu’r rhyngwyneb y gallant ei ddefnyddio i gael mynediad ato a chynnig mecanweithiau apelio ac unioni. Gallai rheoleiddiwr ôl-stop orfodi'r dyletswyddau hyn - naill ai corff sy'n bodoli'n barod neu gorff newydd.
- Galluogi a rheoli mynediad drwy gyfryngwr annibynnol: Gellid rhoi pwerau cyfreithiol newydd i drydydd parti dibynadwy a fyddai'n hwyluso ac yn rheoli mynediad ymchwilwyr at ddata. Byddai'r cyfryngwr hwn - a allai unwaith eto fod yn gorff newydd neu’n gorff sy’n bodoli eisoes - yn achredu ymchwilwyr ac yn darparu mynediad diogel.
Mae ein hadroddiad yn disgrifio tri math o gyfryngwr y gellid eu hystyried - modelau cyfryngwr mynediad uniongyrchol, cyfryngwr hysbysiad i wasanaeth, a chyfryngwr ystorfa.
- Cyfryngwr mynediad uniongyrchol. Gallai ymchwilwyr ofyn am ddata, gyda chyfryngwr yn hwyluso mynediad diogel. Yn y model hwn, byddai gwasanaethau’n parhau i fod yn gyfrifol am letya a darparu data, tra byddai’r cyfryngwr yn cynnal y rhyngwyneb i’r ymchwilwyr ei ddefnyddio i ofyn am fynediad.
- Cyfryngwr hysbysiad i wasanaeth. Gallai ymchwilwyr wneud cais am achrediad a gofyn am fynediad at setiau data penodol drwy’r cyfryngwr. Gallai hyn gynnwys data na fyddai ar gael mewn modelau mynediad uniongyrchol. Byddai'r cyfryngwr yn adolygu ac yn gwrthod neu'n cymeradwyo mynediad. Yna, byddai'n rhaid i wasanaethau ddarparu mynediad at y data cymeradwy.
- Cyfryngwr ystorfa. Gallai'r cyfryngwr ei hun ddarparu mynediad uniongyrchol at ddata, drwy ddarparu rhyngwyneb ar gyfer mynediad at ddata a/neu letya’r data ei hun a chymryd cyfrifoldeb dros lywodraethu data. Gallai hyn hefyd gynnwys data na fyddai ar gael mewn modelau mynediad uniongyrchol.
Mae ein dadansoddiad wedi dangos nad oes un model yn debygol o ddiwallu’r holl ystod o anghenion ymchwilwyr. Dull hyblyg gyda sawl haen – yn cyfuno eglurder cyfreithiol, mesurau diogelu technegol, a goruchwyliaeth annibynnol - sy'n cynnig y cyfle gorau i alluogi mynediad cyfrifol, amserol a defnyddiol at wybodaeth.
Nid oes angen ystyried yr opsiynau polisi a'r modelau sydd ynddynt ar eu pen eu hunain, a gellid eu hystyried yn ategol. Efallai y bydd elfennau o’r modelau gwahanol, gyda mesurau galluogi, yn ffordd fwy effeithiol o hwyluso mynediad i ymchwilwyr, gan ddibynnu ar amcanion polisi.
Edrychwn ymlaen at ymgysylltu'n fanylach â Llywodraeth y DU ar y materion hyn wrth iddi ystyried dyluniad unrhyw fframwaith mynediad yn y dyfodol.
Darllen yr adroddiad
Mynediad ymchwilwyr at wybodaeth gan wasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio (pdf, 217 KB)
Galwad Gwreiddiol am Dystiolaeth (Ar gael yn Saesneg yn unig)
This is a call for evidence for the report that Ofcom must produce under the Act about researchers’ access to information from online services to study online safety matters.
The Act requires Ofcom to report on how and to what extent independent researchers access information about online safety matters from providers of regulated services. The report will also explore the current constraints on information sharing for research purposes and assess whether greater access might be achieved. This call for evidence is to give stakeholders an opportunity to provide information and evidence which Ofcom can take into consideration when producing the report.
We are seeking evidence and input on the following:
- how and to what extent independent researchers currently access information from providers of regulated services;
- the challenges that currently constrain information sharing for these purposes; and,
- how greater access to this information might be achieved.
We are also open to receiving evidence about how researchers have overcome information sharing constraints in areas other than online safety, where that might demonstrate what effective data governance or data-sharing mechanisms are available.
Taking into account responses to this call for evidence and other relevant input, we will then prepare our report, which will be submitted to Government within 18 months of the relevant sections of the Act coming into force and then laid before Parliament. We will also publish the report on Ofcom’s website.
Ymatebion
Cysylltwch
Online Safety Policy Delivery Team
Ofcom Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London
SE1 9HA