Ymgynghoriad pellach ar niwed anghyfreithlon: Rheolaethau defnyddwyr

Cyhoeddwyd: 24 Ebrill 2025
Ymgynghori yn cau: 22 Gorffennaf 2025
Statws: Agor

Mae Ofcom yn ymgynghori ar ddiwygio ein Codau Ymarfer ar Gynnwys Anghyfreithlon o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein i ehangu’r defnydd o’r mesurau ar gyfer rhwystro a thewi cyfrifon defnyddwyr (ICU J1) ac analluogi sylwadau (ICU J2). Byddai’r cynigion yn dod â darparwyr rhai gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr llai, sy’n debygol o gael eu defnyddio gan blant, i mewn i gwmpas y mesurau hyn lle bo ganddynt risgiau a swyddogaethau perthnasol.

Yn ein Datganiad ar Niwed Anghyfreithlon a’n Codau Ymarfer ar Gynnwys Anghyfreithlon (Codau Cynnwys Anghyfreithlon) a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2024, fe wnaethom argymell mesurau rheoli defnyddwyr – yn benodol, rhwystro a thewi cyfrifon defnyddwyr ac analluogi sylwadau – ar gyfer darparwyr gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr mawr sydd â swyddogaethau perthnasol lle nodwyd y risg o niwed anghyfreithlon penodol.

Yn y datganiad, fe wnaethom gadarnhau ein bwriad i ailystyried yr achos dros ymestyn mesurau ICU J1 ac ICU J2 i ddarparwyr gwasanaethau llai, gan ein bod wedi cynnig bod mesurau tebyg yn berthnasol i ddarparwyr gwasanaethau llai yn y Codau Ymarfer ar Amddiffyn Plant.

Mae galluogi plant i rwystro neu dewi defnyddwyr eraill ac analluogi sylwadau yn gallu eu helpu i leihau’r risg y byddant yn dod ar draws cynnwys anghyfreithlon – gan gynnwys meithrin perthynas amhriodol; annog neu gynorthwyo hunanladdiad (neu ymgais i gyflawni hunanladdiad); casineb; aflonyddu, stelcian, bygythiadau a cham-drin. Rydym hefyd yn ystyried bod rhwystro a thewi cyfrifon defnyddwyr yn gallu lleihau cysylltiad ag ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn nodi sut aethom ati i ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael, gan gynnwys yr ymatebion i’n Hymgynghoriad ym mis Tachwedd 2023 ar Amddiffyn Pobl rhag Niwed Anghyfreithlon Ar-lein, a’n Hymgynghoriad ar Amddiffyn Plant rhag Niwed ym mis Mai 2024. Yng ngoleuni hyn – a’r penderfyniadau a gyhoeddwyd yn y Datganiad Amddiffyn Plant yng Nghyfrol 4, Adran 18 ar y mesurau cymorth i ddefnyddwyr ar gyfer plant – rydym yn cynnig bod y mesurau yn y Codau Cynnwys Anghyfreithlon hefyd yn berthnasol i ddarparwyr rhai gwasanaethau llai sy’n debygol o gael eu defnyddio gan blant.

Ymateb i'r ymgynghoriad hwn

Cyflwyno ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad erbyn 22 Gorffennaf 2025.

Sut i ymateb

Cyfeiriad

Illegal harms further consultation: User Controls
Ofcom Online Safety Team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA

Yn ôl i'r brig