
Mae Ofcom wedi’i gwneud yn ofynnol i ddarparwyr nifer o wasanaethau ar-lein gyflwyno eu cofnod o asesiadau risg eu plant erbyn 7 Awst, neu wynebu camau gorfodi.
Mae asesiadau risg yn hollbwysig i gadw defnyddwyr yn fwy diogel ar-lein. Er mwyn rhoi mesurau diogelwch priodol ar waith i amddiffyn pobl, yn enwedig plant, rhaid i ddarparwyr ddeall yn gyntaf sut y gallai niwed ddigwydd ar eu llwyfannau, a beth allai gynyddu'r risgiau hynny o niwed.
Ar 24 Ebrill, cyhoeddodd Ofcom ei godau ymarfer a chanllawiau diogelwch plant o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein y DU. O’r pwynt hwnnw, roedd gan ddarparwyr dri mis i gynnal asesiad risg plant addas a digonol, yn unol â’n canllawiau.
Rhaid i ddarparwyr hefyd wneud a chadw cofnod ysgrifenedig o'u hasesiad risg, gan gynnwys manylion am sut y cafodd ei gynnal, ei ganfyddiadau a sut y caiff ei adolygu'n gyson.
Gorfodi'r Ddeddf
Er mwyn asesu a monitro cydymffurfiaeth y diwydiant â'r dyletswyddau asesu risg plant hyn o dan y Ddeddf, mae Ofcom wedi lansio rhaglen orfodi heddiw.
Rydym wedi cyhoeddi ceisiadau ffurfiol am wybodaeth i nifer o ddarparwyr wasanaethau heddiw, gan osod dyddiad cau o 7 Awst iddynt gyflwyno cofnodion o asesiadau risg eu plant i ni.
Yn ôl y gyfraith, mae’n ofynnol i ddarparwyr ymateb i unrhyw gais statudol am wybodaeth gan Ofcom mewn ffordd gywir, gyflawn ac amserol. Os na fydden n rhoi ymateb boddhaol, ni fyddwn yn oedi cyn agor ymchwiliadau.
Mae hyn yn dilyn rhaglen orfodi debyg a lansiwyd gennym ym mis Mawrth i gydymffurfiaeth darparwyr â dyletswyddau i gynnal a chofnodi asesiadau risg niwed anghyfreithlon, ac rydym eisoes wedi agor sawl ymchwiliad oddi tani.