Mobile Phone (hero) (1)

Sut y bydd y Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn helpu i fynd i'r afael â throseddau cyllyll

Cyhoeddwyd: 20 Mai 2025

Mae troseddau cyllyll yn parhau i fod yn bryder difrifol yn y DU, gyda chanlyniadau dinistriol i ddioddefwyr, teuluoedd a chymunedau.

Yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2024, yng Nghymru a Lloegr, hawliodd trais yn ymwneud â defnyddio cyllell neu wrthrych miniog fywydau 57 o bobl ifanc, ac roedd 17 o'r rheini'n blant dan 16 oed.

Mae’n Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Cyllyll, ac fel rheoleiddiwr diogelwch ar-lein y DU, rydym yn cydnabod y cysylltiad rhwng diogelwch ar-lein a throseddau cyllyll.

Rydym yn pryderu ynghylch sut y gellir defnyddio cynnwys ar-lein i annog trais gan ddefnyddio arfau, gan gynnwys cyllyll. Ac rydym hefyd yn gwybod y gellir prynu cyllyll ac arfau eraill ar-lein. Mae'r ddau ffactor yn peri risg benodol i bobl ifanc, gan eu bod yn cyfrannu at normaleiddio a glamoreiddio cario – ac o bosibl defnyddio – cyllyll.

Mae amddiffyn plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth i Ofcom yn ein gwaith diogelwch ar-lein, ac mae'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn nodi'r cyfrifoldebau wrth amddiffyn plant a phobl ifanc rhag cynnwys anghyfreithlon a niweidiol.

Mae rheoleiddio gwasanaethau ar-lein yn gam hanfodol wrth atal cynnwys niweidiol rhag cyrraedd plant, lleihau'r risg o drais yn y byd go iawn, a chefnogi ymdrechion ehangach i fynd i'r afael â throseddau cyllyll ar draws cymdeithas.

Rydym yn cymryd camau i amddiffyn defnyddwyr y DU rhag gweld cynnwys niweidiol sy'n gysylltiedig â chyllyll ac arfau ymosodol eraill. O dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, rhaid i wasanaethau ar-lein bellach amddiffyn pobl yn y DU rhag cynnwys sy'n gysylltiedig â gwerthu cyllyll ac arfau anghyfreithlon, yn ogystal â chynnwys sy'n hyrwyddo trais. Rhaid i wefannau ac apiau hefyd gymryd camau i atal plant rhag dod ar draws cynnwys treisgar.

Ym mis Rhagfyr, cyhoeddwyd ein Datganiad Niwed Anghyfreithlon terfynol, gan amlinellu sut y mae'n rhaid i lwyfannau ar-lein fynd i'r afael â chynnwys anghyfreithlon a geir ar eu gwasanaethau, gan gynnwys deunydd sy'n gysylltiedig â gwerthu cyllyll anghyfreithlon ac arfau ymosodol. Rydym wedi darparu canllawiau manwl i helpu llwyfannau i nodi a rheoli'r cynnwys hwn.

Yn ogystal, cyhoeddwyd ein datganiad Diogelu Plant terfynol yn ddiweddar. Mae hyn yn cyflwyno'r Codau Diogelu Plant a'r Canllawiau ar gyfer gwasanaethau chwilio a gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr, wedi'u hadeiladu ar reolau presennol sy'n nodi dyletswyddau cyfreithiol clir ar gyfer gwasanaethau ar-lein sy'n debygol o gael eu defnyddio gan blant yn y DU. Rhaid i wasanaethau gymryd camau digonol i atal plant rhag gweld cynnwys sy'n hyrwyddo, yn gorliwio neu'n normaleiddio trais neu gario arfau ymosodol.

Camau nesaf

Os byddwn yn penderfynu bod darparwr gwasanaeth ar-lein yn methu â gweithredu mesurau diogelwch digonol a chadarn yn erbyn cynnwys treisgar niweidiol neu werthu arfau gan gynnwys cyllyll, byddwn yn cymryd mesurau gorfodi pendant cyflym. Gallai'r rhain gynnwys gofyn i lwyfannau wneud newidiadau penodol, cosbau ariannol, ac mewn amgylchiadau eithafol, yn enwedig pan fo defnyddwyr platfform yn blant yn bennaf, byddwn yn cymryd camau cyfreithiol i gyfyngu mynediad i'r llwyfannau hyn yn y DU.

Yn ôl i'r brig