Padlocked-Laptop-Web

Gwiriadau oedran ar-lein nawr mewn grym

Cyhoeddwyd: 24 Gorffennaf 2025
  • Rhaid i gwmnïau technoleg gyflwyno gwiriadau oedran i atal plant rhag cael gafael ar gynnwys pornograffig, hunan-niweidio, hunanladdiad ac anhwylderau bwyta
  • Bluesky, Discord, Grindr, Reddit a X ymysg y cwmnïau diweddaraf i ymrwymo i ddefnyddio systemau giât oedran tra bo Ofcom yn gosod targedau ar gyfer gorfodi
  • Rhaid i safleoedd ac apiau lle mae plant yn treulio'r rhan fwyaf o amser wneud eu ffrydiau'n fwy diogel

Mae’n rhaid i wefannau ac apiau sy’n caniatáu cynnwys niweidiol bellach amddiffyn plant rhag cael mynediad ato, mae Ofcom wedi rhybuddio, gan fod y dyddiad cau wedi mynd heibio i gwmnïau technoleg gydymffurfio â rheolau newydd.

Mae'r newidiadau'n golygu bod yn rhaid i wefannau ac apiau a allai beri risg – rhai mawr a bach – ddefnyddio systemau 'giât oedran' effeithiol iawn i nodi pa ddefnyddwyr sy'n blant, ac yna eu hatal rhag cael mynediad at bornograffi, yn ogystal â chynnwys hunan-niweidio, hunanladdiad ac anhwylderau bwyta.

Gwasanaethau sy'n caniatáu pornograffi

Cyn y dyddiad cau ar 25 Gorffennaf, mae newid eisoes yn digwydd. Dros y mis diwethaf, mae darparwyr gwasanaethau oedolion mwyaf a mwyaf poblogaidd y DU – gan gynnwys Porn Hub – a miloedd o safleoedd llai wedi ymrwymo i ddefnyddio gwiriadau oedran ar draws eu gwasanaethau. Mae hyn yn golygu y bydd yn anoddach i blant yn y DU gael gafael ar bornograffi ar-lein nag mewn unrhyw wlad OECD arall.

Mae llwyfannau ar-lein eraill bellach wedi cyhoeddi y byddant yn defnyddio sicrwydd oedran - gan gynnwys Bluesky, Discord, Grindr, Reddit a X.[1] 

Mae Ofcom yn barod i gymryd camau gorfodi yn erbyn unrhyw gwmni sy'n caniatáu cynnwys pornograffig ac nad yw'n cydymffurfio â gofynion gwirio oedran erbyn y dyddiad cau. Heddiw, rydym yn ymestyn ein rhaglen gorfodi sicrwydd oedran bresennol – a oedd yn arfer canolbwyntio ar wasanaethau stiwdios pornograffi – i gynnwys pob llwyfan sy'n caniatáu i ddefnyddwyr rannu deunydd pornograffig, boed yn wefannau penodol i oedolion neu'n wasanaethau eraill sy'n cynnwys pornograffi.

Byddwn yn mynd ati i wirio bod llwyfannau’n cydymffurfio o 25 Gorffennaf ymlaen ac, os bydd angen, rydym yn disgwyl lansio unrhyw ymchwiliadau i wasanaethau unigol ddydd Iau yr wythnos nesaf (31 Gorffennaf). Byddai’r rhain yn ychwanegu at yr 11 ymchwiliad sydd gan Ofcom eisoes ar waith.

Gwiriadau oedran i warchod plant rhag niwed arall

O dan ein rheolau, rhaid i wefannau sy'n caniatáu mathau eraill o gynnwys niweidiol hefyd gael gwiriadau oedran effeithiol iawn o 25 Gorffennaf ymlaen.

Rydym yn lansio rhaglen orfodi sicrhau oedran newydd, gan adeiladu ar y gwaith a wnaed gan ein 'tasglu llwyfannau bach ond peryglus', i fonitro ymateb y diwydiant. Bydd hyn yn targedu’n benodol safleoedd sy’n lledaenu cynnwys niweidiol, yn cynnwys hunan-niweidio a hunanladdiad, anhwylder bwyta neu drais eithafol. 

Amddiffyn plant ar y gwefannau a'r apiau mwyaf poblogaidd

Yn ogystal ag atal plant rhag dod ar draws y cynnwys mwyaf niweidiol sy'n ymwneud â hunanladdiad, hunan-niweidio, anhwylderau bwyta a phornograffi, mae Codau Ofcom hefyd yn mynnu bod gwasanaethau ar-lein yn gweithredu i amddiffyn plant rhag styntiau neu heriau peryglus, deunydd treisgar, cas, camdriniol neu sy’n dangos trais at fenywod, a bwlio ar-lein.

Hyd yn oed pan nad yw safleoedd ac apiau yn caniatáu'r mathau hyn o ddeunydd niweidiol o dan eu telerau gwasanaeth, mae ymchwil Ofcom yn dangos bod cynnwys o'r fath yn gallu bod yn rhy gyffredin o lawer. Yn benodol, rydym yn gwybod mae’r prif ffordd mae plant yn dod ar draws y niwed hwn yw’r cynnwys sy'n cael ei argymell mewn ffrydiau personol ‘for you’. Mae ein Codau'n glir, ymysg pethau eraill, bod angen ffurfweddu algorithmau fel bod y deunydd mwyaf niweidiol yn cael ei rwystro mewn ffrydiau plant.

Er mwyn dal safleoedd ac apiau i gyfrif, rydym heddiw yn lansio rhaglen fonitro ac effaith helaeth, sy'n canolbwyntio'n bennaf ar y llwyfannau mwyaf lle mae plant yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser - gan gynnwys Facebook, Instagram, Roblox, Snap, TikTok a You Tube.  Bydd hyn yn cynnwys: 

  • adolygiad cynhwysfawr o ymdrechion y llwyfannau hyn i asesu risgiau i blant, y mae'n rhaid ei gyflwyno i Ofcom erbyn 7 Awst fan bellaf. Byddwn yn adrodd ar ein dadansoddiad o'r asesiadau hyn yn ddiweddarach eleni;
  • craffu ar gamau gweithredu ymarferol llwyfannau i gadw plant yn ddiogel - rhaid datgelu manylion y rhain i Ofcom erbyn 30 Medi. Byddwn yn cwestiynu, yn benodol: a oes ganddynt ffyrdd effeithiol o wybod pwy yw eu defnyddwyr sy'n blant; sut mae eu hoffer cymedroli cynnwys yn nodi mathau o gynnwys sy'n niweidiol i blant; pa mor effeithiol maent wedi ffurfweddu eu halgorithmau fel bod y deunydd mwyaf niweidiol yn cael ei rwystro mewn ffrydiau plant; a sut maent wedi atal dieithriaid sy'n oedolion rhag cysylltu â phlant; 

  • olrhain profiadau plant ar-lein i asesu a yw diogelwch yn gwella yn ymarferol, trwy ein rhaglen barhaus o ymchwil ym maes plant ac ymgynghori â phlant trwy waith newydd gyda Chomisiynydd Plant Lloegr[2] a
  • chymryd chamau gorfodi cyflym os yw tystiolaeth yn awgrymu nad yw llwyfannau'n cydymffurfio â'u dyletswyddau diogelwch plant.

Mae'r gweithgarwch hwn yn ychwanegol at ein camau gweithredu parhaus i orfodi ein Codau niwed anghyfreithlon, gan gynnwys mesurau i amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin yn rhywiol a chamfanteisio’n rhywiol arnynt ar-lein. 

Mae'r rhan fwyaf o rieni yn y DU yn cefnogi mesurau diogelwch plant

Mae ymchwil newydd[3] yn awgrymu bod y rhan fwyaf o rieni'n credu y bydd y mesurau sydd wedi'u nodi yng Nghodau Amddiffyn Plant Ofcom yn gwella diogelwch plant yn y DU. 

Mae dros saith o bob 10 (71%) yn teimlo y bydd y mesurau'n gyffredinol yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ddiogelwch plant ar-lein, ac mae dros dri chwarter (77%) yn optimistaidd y bydd gwiriadau oedran yn benodol yn cadw plant yn fwy diogel.

Mae naw rhiant o bob 10 (90%) yn cytuno ei bod yn bwysig i gwmnïau technoleg ddilyn rheolau Ofcom, ond mae lleiafrif sylweddol (41%) yn amheus a fydd cwmnïau technoleg yn cydymffurfio'n ymarferol.

Dywedodd y Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom: “Ni fydd blaenoriaethu cliciau ac ymgysylltiad yn hytrach na diogelwch plant ar-lein yn cael ei oddef mwyach yn y DU. Mae ein neges i gwmnïau technoleg yn glir - cydymffurfio â gwiriadau oedran a mesurau diogelu eraill a nodir yn ein Codau, neu wynebu canlyniadau camau gorfodi gan Ofcom.” 


Nodiadau i olygyddion

  1. Mae'r gwasanaethau hyn ymysg y rhai a ddiffinnir fel gwasanaethau 'cymysg', nad ydynt yn gwahardd mathau o gynnwys sy'n niweidiol i blant dan oed o dan eu telerau gwasanaeth.
  2. Byddwn hefyd yn parhau i ymgysylltu â'r Comisiynwyr Plant yn y gwledydd eraill i sicrhau bod lleisiau a phrofiadau plant ledled y DU yn cael eu clywed.
  3. Arolwg ar-lein o 1,400 o rieni o gefndiroedd amrywiol ledled y DU sydd â phlant dan 18 oed. Cynhaliwyd y gwaith maes gan YouGov rhwng 3 a 9 Gorffennaf. Mae data a gyhoeddwyd o'r ymchwil hwn ar gael yma. Mae hyn yn adeiladu ar ymchwil cynharach a oedd yn cynnwys ymgynghori â phlant ledled y DU ar ein mesurau diogelwch.