UK-web NC

Prydeinwyr yn defnyddio data mwy o ddata nag erioed wrth i rwydweithiau symudol rasio i wella 5G

Cyhoeddwyd: 19 Tachwedd 2025
  • Defnydd o ddata symudol y DU yn cynyddu i dros 1.2 biliwn gigabit bob mis
  • Rhwydweithiau symudol yn cyflwyno '5G llawn' i 83% o'r DU er mwyn ateb y galw cynyddol
  • Mae cyflwyno ffibr llawn yn parhau, tra bod Starlink yn cynyddu cwsmeriaid o fwy na chwarter

Mae'r galw am ddata yn y DU yn cynyddu’n barhaus, gyda rhwydweithiau symudol yn rhuthro i      gyflwyno '5G llawn' i gadw i fyny, yn ôl adroddiad blynyddol diweddaraf Ofcom ar seilwaith symudol a band eang.

Mae adroddiad blynyddol Cysylltedd y Cenhedloedd Ofcom yn canfod bod Prydeinwyr wedi defnyddio 18% yn fwy o ddata symudol yn 2025 na'r flwyddyn flaenorol, sef cyfanswm o dros 1.2 biliwn GB bob mis. 

Mae hynny'n cyfateb i ffrydio 400 miliwn o gemau pêl-droed mewn HD, gwylio 315 biliwn o TikToks, neu anfon 1.3 cwadriliwn o negeseuon testun ar WhatsApp [1].

Er bod 4G yn dal i gyfrif am y rhan fwyaf o draffig data symudol, tyfodd y defnydd o ddata 5G fwy na hanner (53%) eleni [2]. 

Er mwyn cadw i fyny, mae rhwydweithiau symudol yn defnyddio '5G llawn', a elwir hefyd yn '5G  annibynnol', gan roi profiad cyflymach, gwell a mwy pwerus i ddefnyddwyr. Yn wahanol i 5G cyffredin, sy'n dal i ddibynnu ar rannau o'r rhwydwaith 4G, mae '5G llawn' yn rhedeg ar rwydwaith pwrpasol ar wahân, gan ddarparu 5G o'r dechrau i'r diwedd.[3]

Mae adroddiad Ofcom - sy'n cynnwys data newydd ac unigryw ar wasanaethau 5G llawn am y tro cyntaf - yn datgelu bod gan 83% o'r DU fynediad at5G llawn ar o leiaf un rhwydwaith symudol. [4]

Dywedodd Natalie Black, Cyfarwyddwr Grŵp Ofcom ar gyfer Seilwaith a Chysyllteddedd: “Mae galw’r DU am ddata yn parhau i gynyddu wrth i ni fyw bywydau sy’n gynyddol gysylltiedig.

“Ers blynyddoedd, mae gweithredwyr wedi bod yn darparu gwasanaethau 5G wrth ddefnyddio hen rwydweithiau 4G i wneud y rhan fwyaf o'r gwaith caled. Ond nawr, mae'r ras i gyflawni  5G llawn wedi dechrau. "

Mae'r adroddiad, sy'n cwmpasu ystod o rhwydweithiau cyfathrebu'r DU, hefyd yn cynnwys canfyddiadau allweddol eraill, gan gynnwys:

Amser i fapio'ch ffôn symudol

Mae darpariaeth 5G awyr agored ar gael gan o leiaf un gweithredwr yn 97% o'r DU - i fyny o 95% y llynedd. Mae'n amrywio o 64% i 89% rhwng y rhwydweithiau symudol yn genedlaethol.

Ond yr hyn sydd bwysicaf yw'r gwasanaeth a gewch  lle rydych chi'n byw ac yn gweithio. Dyna pam y gwnaethom  lansio offeryn Mapio eich Ffôn Symudol eleni– gwiriwr cod post newydd sydd ar gael ar wefan Ofcom, Mapio Eich Ffôn Symudol

Dyma'r offeryn cymharu symudol mwyaf cynhwysfawr ar gyfer cymharu darpariaeth a pherfformiad symudol  yn y DU, ac mae'n hynod o ddefnyddiol cyn ddechrau neu adnewyddu cytundeb, neu wrth symud tŷ.

Dros filiwn o gartrefi yn terfynu eu defnydd o linellau tir

Mae mwy na miliwn o gartrefi wedi tynnu'r plwg ar eu llinell dir dros y flwyddyn ddiwethaf, mewn tuedd a allai un diwrnod weld y ffôn cartref traddodiadol yn dod i ben. Er bod dros 17 miliwn o linellau tir dal mewn defnydd, efallai y bydd pobl yn defnyddio gwasanaethau fel WhatsApp, neu eu rhwydwaith symudol, i wneud galwadau.

Defnydd o fand eang lloeren yn ffrwydro

Mae 2025 wedi gweld cynnydd sydyn mewn band eang lloeren, gyda Starlink yn cynyddu nifer eu cwsmeriaid yn y DU i dros 100,00 am y tro cyntaf.

Cynyddodd cysylltiadau Starlink dros chwarter, o tua 87,000 i dros 110,000. Roedd y mwyafrif o'r rhain mewn ardaloedd gwledig a mwy na 12,000 mewn mannau lle na allant gael  band eang llinell sefydlog neu  di-wifr da [5].

Mae ffibr yn ffynnu – ond nid yw llawer yn manteisio arno Mae'r broses o gyflwyno band eang ffibr llawn yn y DU yn parhau, gyda 78% o gartrefi (23.7 miliwn) bellach yn cael mynediad iddo, i fyny o 20.7 miliwn (69%) y llynedd.

Ond er bod defnyddio ceblau ffibr optig yr holl ffordd i'r cartref yn hytrach na llinellau copr yn golygu band eang llawer cyflymach a fwy dibynadwy, mae llai na hanner y rhai sydd â mynediad yn cofrestru.

Er bod  y defnydd o ffibr wedi cynyddu o 35% i 42% eleni, mae miliynau yn dal i golli allan ar uwchraddiad band eang a allai olygu ffrydio di-byffer, chwarae gemau di-dor, a ffarwelio â rhewi lletchwith yn ystod galwadau fideo.

Gan gymryd rhwydweithiau ffibr llawn a chebl gyda'i gilydd, mae gan 26.4 miliwn o gartrefi (87%) bellach fynediad at gysylltiad band eang sy'n gallu defnyddio gigabit, ac mae dros hanner (56%) ohonynt mewn gwirionedd yn ei ddefnyddio.


Nodiadau i olygyddion:

  • 1,257 petabyte (PB) sy'n cyfateb i dros 1.23 biliwn GB. Mae enghreifftiau o ddefnydd cyfatebol yn ddarluniadol ac yn cael eu darparu i roi ymdeimlad o raddfa. Mae defnydd data gwirioneddol yn amrywio yn dibynnu ar ffactorau fel datrysiad fideo, gosodiadau dyfeisiau a chynnwys negeseuon. Gemau pêl-droed: mae’r amcangyfrifon yn seiliedig ar 560 miliwn awr o deledu diffiniad uchel (gan dybio bod angen cyfradd 5Mbps yn ôl amcangyfrifon y BBC), neu bron i 400 miliwn o ffrydiau o gêm bêl-droed 90 munud. Negeseuon testun WhatsApp yn unig: Dros 1 cwadriliwn o negeseuon WhatsApp (1,260,000,000,000,000,000, gan dybio 1KB fesul neges WhatsApp yn unol  ag amcangyfrifon Orange) Tiktok: 315 biliwn o fideos TikTok (gan dybio 4MB fesul TikTok yn unol  ag amcangyfrifon Firsty).
  • Mae'r cynnydd mewn tanysgrifwyr i wasanaethau Mynediad Di-wifr Sefydlog (lle mae band eang yn cael ei ddarparu dros rwydweithiau symudol) yn parhau i gyfrannu'n sylweddol at dwf cyffredinol traffig data ar rwydweithiau symudol.
  • ‘Mae 5G llawn 'yn gyfystyr â 5G annibynnol. Efallai y bydd llawer o'r safleoedd hyn yn dal i rannu sbectrwm gyda gwasanaethau 4G.
  • Mae adroddiadau gan y gweithredwyr rhwydwaith symudol yn dangos bod gan O2 sylw 5G llawn mewn bron i ddwy ran o dair o'r wlad, ac mae Vodafone ac EE tua 50%.
  • Diffinnir band eang da fel cyflymder lawrlwytho o leiaf 10 Mbit yr eiliad o dan y Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol .
  • Mae'r holl ffigurau darpariaeth symudol a ddyfynnir yn seiliedig ar lefelau hyder uchel, sy'n gysylltiedig â thua 80% o debygolrwydd o argaeledd sylw 5G ar gyfer ardaloedd y tu allan i'r eiddo.