Mapio Eich Ffôn Symudol
Mae gwiriwr symudol Ofcom yn dangos pa rwydwaith sy’n cynnig y signal 4G neu 5G gorau lle mae ei angen arnoch fwyaf. Ar ôl i chi roi eich cod post, byddwch yn cael dwy set o wybodaeth:
Mae rhagor o wybodaeth am ein methodoleg ar gael yn yr adran Cwestiynau Cyffredin.
Mae defnyddio'r gwiriwr hwn yn amodol ar delerau defnyddio Ofcom.
Eich signal symudol
Mae’r ffactorau canlynol yn gallu effeithio ar signal symudol lleol, felly efallai na fydd canlyniadau’r gwiriwr hwn bob amser yn adlewyrchu’r hyn rydych chi’n ei gael ar lawr gwlad.
Pŵer eich mast lleol, a pha mor agos ydych chi ato.
Mynyddoedd, adeiladau a choed rhyngoch chi a’r mast symudol.
Capasiti’r mast lleol a thagfeydd yn y rhwydwaith, yn enwedig ar adegau prysur.
Pa ddeunyddiau a gafodd eu defnyddio i wneud yr adeilad neu’r cerbyd rydych chi ynddo.
Tywydd gwael.
Ansawdd yr antena yn eich ffôn.
Pam nad ydy fy narparwr symudol yn ymddangos ar y rhestr?
Gwybodaeth gysylltiedig
Gwella eich darpariaeth dan do