Gwneud cwyn a defnyddio cynlluniau Datrys Anghydfod (ADR)

Cyhoeddwyd: 1 Rhagfyr 2009
Diweddarwyd diwethaf: 16 Mehefin 2025

Mae'n rhaid i ddarparwyr cyfathrebu sy'n cynnig gwasanaethau i bobl, busnesau bach (hyd at 10 o weithwyr) a sefydliadau nid-er-elw (sydd â hyd at 10 unigolyn, heb gynnwys gwirfoddolwyr, yn gweithio iddynt) fod yn aelodau o gynllun Datrys Anghydfod Amgen (ADR).

Ar hyn o bryd mae Ofcom yn cymeradwyo dau gynllun ADR: Communication & Internet Services Adjudication Scheme (CISAS) a Communications Ombudsman. (Newidiodd Ombudsman Services ei enw i Communications Ombudsman ym mis Gorffennaf 2023. Os ydych eisoes wedi codi cwyn gyda Ombudsman Services, nid oes angen i chi ei chyflwyno eto.)

Mae cynlluniau ADR yn gyrff annibynnol sy'n cynnal asesiad diduedd ar gwynion rhwng cwsmer a darparwr, ac yn dod i benderfyniad yn seiliedig ar yr wybodaeth a gyflwynir gan y ddau barti. Mae cynlluniau ADR yn rhad ac am ddim i'w defnyddio.

Gallwch fynd â'ch cwyn i gynllun ADR os:

  • ydych eisoes wedi ei godi gyda'ch darparwr cyfathrebu ac mae'n dal heb ei ddatrys; ac
  • os yw o leiaf wyth wythnos wedi mynd heibio ers i chi gyflwyno'r gŵyn gychwynnol i'ch darparwr neu na fu modd i chi ddod i gytundeb â nhw a'ch bod wedi derbyn llythyr anghydfod llwyr.

I ba gynllun mae fy narparwr i'n perthyn?

Defnyddiwch ein teclyn gwirio ADR i weld pa ddarparwr sy'n perthyn i ba gynllun ADR. Os nad yw eich darparwr ar y rhestr hon, gallwch wirio gyda'r cynlluniau ADR i ddarganfod pa gynllun mae eich darparwr yn perthyn iddo: Ombwdsmon Cyfathrebu a CISAS:

Enw'r cwmni Cynllun ADR
BT Ombwdsmon Cyfathrebu
EE Ombwdsmon Cyfathrebu
GiffGaff Ombwdsmon Cyfathrebu
iD Mobile Ombwdsmon Cyfathrebu
Lebara Ombwdsmon Cyfathrebu
Lyca Mobile CISAS
NOW CISAS
O2 Ombwdsmon Cyfathrebu
Plusnet Ombwdsmon Cyfathrebu
Sky CISAS
SMARTY Ombwdsmon Cyfathrebu
TalkTalk CISAS
Tesco Mobile Ombwdsmon Cyfathrebu
Three Ombwdsmon Cyfathrebu
Utility Warehouse Ombwdsmon Cyfathrebu
Virgin Media Ombwdsmon Cyfathrebu
Vodafone CISAS
VOXI CISAS

Rate this page

Was this page helpful?
Yn ôl i'r brig