Ar agor
Primo Partnership (Primo Dialler)
14 Ebrill 2025
Ymchwiliad i weld a yw’r darparwr cyfathrebiadau, Primo Dialler, wedi peidio â chydymffurfio â rhwymedigaethau o dan Amod Cyffredinol B1 (sy’n ymwneud â defnyddio rhifau ffôn yn effeithiol ac yn effeithlon), a/neu a yw wedi camddefnyddio gwasanaethau neu rwydwaith cyfathrebiadau electronig (fel y’u diffinnir yn adran 128 o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003) yn gyson.
Amodau Cyffredinol (AC) B1.8, B1.9(b) a/neu B1.9(c) Adran 128 o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003
Heddiw, mae Ofcom wedi agor ymgynghoriad i weld a yw Primo Dialler (1) wedi peidio â chydymffurfio â’i rwymedigaethau o dan yr Amodau Hawliau Cyffredinol; a/neu (2) wedi camddefnyddio rhwydwaith cyfathrebiadau electronig neu wasanaethau cyfathrebiadau electronig (fel y’u diffinnir yn adran 128 o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (y Ddeddf)) yn gyson. Mae’r ymchwiliad yn ymwneud â phryderon bod rhifau sydd wedi’u hail-neilltuo i Primo Dialler yn/wedi cael eu camddefnyddio, gan gynnwys i hwyluso sgamiau.
Mae gennym bryderon ynghylch a yw Primo Dialler wedi peidio â chydymffurfio â’i rwymedigaethau o dan yr Amodau Cyffredinol (AC), yn benodol:
- AC B1.8 sy’n datgan y bydd “y Darparwr Cyfathrebiadau yn cymryd pob cam rhesymol ymarferol i sicrhau bod ei Gwsmeriaid, wrth ddefnyddio Rhifau Ffôn, yn cydymffurfio (lle bo hynny’n berthnasol) â darpariaethau [AC B1], darpariaethau’r Cynllun Rhifau Ffôn Cenedlaethol a’r Amod Rhifau ar gyfer y Rhai nad ydynt yn Ddarparwyr”; a
- AC B1.9(b) a (c) sy’n datgan “na fydd y Darparwr Cyfathrebiadau yn trosglwyddo’r defnydd o Rifau Ffôn o’r Cynllun Rhifau Ffôn Cenedlaethol oni bai... fod y Rhifau Ffôn yn cael eu defnyddio’n unol â’r Cynllun Rhifau Ffôn Cenedlaethol; a bod y Rhifau Ffôn yn cael eu Mabwysiadu neu’n cael eu defnyddio’n effeithiol ac yn effeithlon fel arall”.
Mae gennym bryderon hefyd ynglŷn ag a yw Primo Dialler yn camddefnyddio, neu wedi camddefnyddio, gwasanaethau neu rwydwaith cyfathrebiadau electronig yn gyson. O dan adran 128(5) – (7) o'r Ddeddf, mae person yn camddefnyddio rhwydwaith neu wasanaeth cyfathrebiadau electronig —
- os yw effaith neu effaith debygol ei ddefnydd o’r rhwydwaith neu’r gwasanaeth yn achosi i berson arall ddioddef niwsans, anhwylustod neu bryder yn ddiangen; neu
- os yw’n defnyddio’r rhwydwaith neu’r gwasanaeth i gymryd rhan mewn ymddygiad y mae ei effaith neu ei effaith debygol yn achosi i berson arall ddioddef niwsans, anhwylustod neu bryder yn ddiangen.
Gellir ystyried bod camddefnydd yn “gyson” lle mae’n cael ei ailadrodd ddigon i fod batrwm amlwg o ymddygiad neu ymarfer, neu ddihidrwydd ynghylch a yw eraill yn dioddef niwsans, anhwylustod neu bryder.
Bydd yr ymchwiliad hwn yn ceisio canfod y ffeithiau sy’n gysylltiedig â’r mater hwn ac yn archwilio a oes sail resymol dros gredu bod Primo Dialler wedi peidio â chydymffurfio â’r Amodau Cyffredinol uchod, ac a yw’n camddefnyddio, neu wedi camddefnyddio, rhwydwaith neu wasanaethau cyfathrebiadau electronig yn gyson.
Byddwn yn casglu rhagor o wybodaeth ac yn cyhoeddi diweddariad am ein hymchwiliad maes o law.
Tîm Gorfodi (enforcement@ofcom.org.uk)
CW/01292/04/25