A woman using a mobile phone in a cafe

Ofcom yn cymryd camau arloesol i roi terfyn ar droseddwyr yn camfanteisio ar rwydweithiau symudol

Cyhoeddwyd: 22 Ebrill 2025
  • Ofcom yn cau bwlch a allai beri risg i breifatrwydd a diogelwch defnyddwyr ffonau symudol
  • Bydd y rheolau newydd yn golygu bod y Deyrnas Unedig ar flaen y gad o ran atal camddefnydd gan dwyllwyr a grwpiau troseddol peryglus.

Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi rheolau newydd a fydd yn golygu bod y Deyrnas Unedig ar flaen y gad o ran diogelu pobl rhag y defnydd maleisus o rwydweithiau symudol.

Rydyn ni’n cau bwlch technegol a allai beri risg i breifatrwydd a diogelwch defnyddwyr ffonau symudol, drwy wahardd yr arfer o lesio mathau arbennig o rifau ffôn o’r enw ‘Teitlau Byd-eang’.

Mae troseddwyr yn gallu defnyddio Teitlau Byd-eang i ryng-gipio a dargyfeirio galwadau a negeseuon, a chael gafael ar wybodaeth sy’n cael ei dal gan rwydweithiau symudol. Fe allai hyn eu galluogi i ryng-gipio codau diogelwch sy’n cael eu hanfon gan fanciau at gwsmeriaid drwy neges SMS, er enghraifft. Mewn achosion eithriadol, mae modd i droseddwyr a phartïon niweidiol eraill gamfanteisio arnynt i dracio lleoliad go iawn unigolion ym mhedwar ban byd.

Mae rhwydweithiau symudol yn defnyddio Teitlau Byd-eang i anfon a derbyn negeseuon signalau, gan helpu i wneud yn siŵr bod galwad neu neges SMS yn cyrraedd y person cywir. Maen nhw’n cael eu defnyddio’n dawel bach yng nghefndir biliynau o alwadau a negeseuon testun ym mhob cwr o’r byd, ac nid yw’r bobl sy’n gwneud neu’n derbyn galwad neu neges byth yn eu gweld.[1]

Weithiau mae rhwydweithiau symudol yn lesio’r Teitlau Byd-eang hyn – yn bennaf i fusnesau cyfreithlon sy’n eu defnyddio i gynnig gwasanaethau symudol. Ond maen nhw’n gallu syrthio i’r dwylo anghywir.

Mae hyn yn gallu arwain at beryglu diogelwch a phreifatrwydd defnyddwyr ffonau symudol arferol, oherwydd fe allai troseddwyr gael gafael yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ar eu data personol. Oherwydd bod y rhai sy’n bwriadu achosi niwed yn lesio’r rhifau hyn, yn hytrach na bod yn berchen arnynt, maen nhw’n gallu cuddio pwy ydyn nhw a gweithio yng nghysgod rhwydweithiau cyfathrebiadau cyfreithlon.

Mynd i’r afael â seiber-droseddwyr cudd

Yn ogystal â’r sector telegyfathrebiadau, mae sefydliadau fel Canolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol y DU wedi cydnabod y risg sy’n gysylltiedig â lesio Teitlau Byd-eang. Ond nid yw ymdrechion dan arweiniad y diwydiant i fynd i’r afael â’r broblem wedi gweithio, felly heddiw rydyn ni’n cymryd y cam o wahardd yr arfer o lesio Teitlau Byd-eang ar unwaith.

Dywedodd Natalie Black, Cyfarwyddwr Grŵp Rhwydweithiau a Chyfathrebiadau Ofcom: “Rydyn ni’n cymryd camau arloesol i fynd i’r afael â’r bygythiad o droseddwyr yn cael eu bachau ar rwydweithiau symudol.

“Teitlau Byd-eang sy’n cael eu lesio yw un o’r ffynonellau mwyaf sylweddol a pharhaus o signalau maleisus. Bydd ein gwaharddiad yn eu hatal rhag syrthio i’r dwylo anghywir – gan ddiogelu defnyddwyr ffonau symudol a’n seilwaith telegyfathrebiadau hollbwysig yn y broses.”

Dywedodd Prif Swyddog Technegol NCSC, Ollie Whitehouse:

“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn gam pwysig i gefnogi ein cenhadaeth i wneud y DU y lle mwyaf diogel i fyw a gweithio ar-lein.

“Mae’r dechneg hon, sy’n cael ei defnyddio’n weithredol gan gwmnïau masnachol heb eu rheoleiddio, yn peri risgiau preifatrwydd a diogelwch i ddefnyddwyr cyffredin, ac rydym yn annog ein partneriaid rhyngwladol i ddilyn ein hesiampl wrth fynd i’r afael â hi.

“Fel Awdurdod Technegol Cenedlaethol y DU ar gyfer seiberddiogelwch, rydym hefyd yn llongyfarch Ofcom ar eu harweinyddiaeth fyd-eang barhaus yn y maes hollbwysig hwn.”

Y camau nesaf

Mae’r gwaharddiad ar gytuno ar drefniadau lesio newydd yn dod i rym ar unwaith. Ar gyfer trefniadau lesio sydd eisoes ar waith, daw’r gwaharddiad i rym ar 22 Ebrill 2026 [2]. Bydd hyn yn rhoi amser i fusnesau cyfreithlon sy’n lesio Teitlau Byd-eang gan rwydweithiau symudol wneud trefniadau eraill. 

Ynghyd â hyn, rydyn ni wedi cyhoeddi canllawiau newydd i weithredwyr symudol ar eu cyfrifoldebau er mwyn atal eu Teitlau Byd-eang rhag cael eu camddefnyddio.

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion

1. Dyma enghraifft wedi’i symleiddio o rôl Teitlau Byd-eang mewn signalau, er enghraifft i’w gwneud hi’n bosib anfon neges destun.

Global titles image CY

2. Yr eithriad yw trefniadau lesio Teitlau Byd-eang sydd eisoes ar waith ar gyfer dau ddefnydd penodol, a fydd yn gallu parhau tan 22 Hydref 2026. Y rheswm am hyn yw heriau penodol pontio i drefniadau eraill.

Yn ôl i'r brig