Mae'r dudalen hon yn nodi penderfyniadau, a chynigion ymgynghori pellach, i awdurdodi'r defnydd o fandiau sbectrwm a ddefnyddir gan Weithredwyr Rhwydwaith Symudol (MNOs) y DU ar gyfer gwasanaethau Uniongyrchol i Ddyfais lloeren (D2D).
Nod gwasanaethau D2D yw cynllunio i ddarparu cysylltedd lloeren i ffonau symudol marchnad dorfol mewn ardaloedd nad ydynt wedi'u cynnwys gan rwydweithiau symudol daearol. Mae ganddynt y potensial i gynyddu’r cwmpas daearyddol awyr agored a darparu gwasanaeth wrth gefn sylfaenol os bydd methiannau yn y rhwydweithiau daearol.
Gallai galluogi gwasanaethau D2D lloeren yn y DU wella cysylltedd i ddefnyddwyr a busnesau, yn enwedig mewn ardaloedd anghysbell, gwella gwytnwch a mynediad at wasanaethau brys; cefnogi buddsoddiad ac arloesi, gan y gall D2D ddatgloi defnyddiau newydd o ddyfeisiau IoT; ac agor cyfleoedd newydd i weithredwyr rhwydwaith symudol (MNO) ddefnyddio eu daliadau sbectrwm trwyddedig yn fwy dwys.
Ym mis Mawrth 2025, gwnaethom ymgynghori ar gynigion i gyflwyno fframwaith awdurdodi sbectrwm i alluogi gwasanaethau D2D mewn bandiau sbectrwm is na 3 GHz, sydd wedi'u trwyddedu i MNOs y DU ar hyn o bryd.
Ar ôl ceisio mewnbwn rhanddeiliaid ar ein cynigion, mae'r ddogfen hon yn nodi (i) y penderfyniadau yr ydym yn eu gwneud er mwyn gweithredu ein fframwaith; (ii) yr hysbysiad o’r Rheoliadau Arfaethedig, a (iii) ymgynghori pellach ar amodau technegol arfaethedig i amddiffyn radar Rheoli Traffig Awyr (ATC) rhag ymyrraeth bosibl gan wasanaethau D2D sy'n gweithredu yn y band 2.6 GHz, a'r amodau technegol ac annhechnegol y byddem yn eu cynnwys yn yr amrywiad i drwyddedau MNO.
Mae defnyddio offer radio yn y DU yn anghyfreithlon os nad yw wed’i drwyddedu neu wedi’i eithrio fel arall o'r angen i ddal trwydded o dan Ddeddf Telegraffiaeth Ddi-wifr 2006. Felly, mae Ofcom bellach yn cynnig gwneud deddfwriaeth ar ffurf offeryn statudol a fyddai'n awdurdodi’r defnydd o setiau llaw symudol a dyfeisiau eraill sydd wedi’i galluogi gan SIM wrth ddefnyddio gwasanaethau D2D. Mae'r offeryn statudol ar ffurf rheoliadau eithrio, sy'n awdurdodi defnydd o'r fath, o dan adran 8 o Ddeddf Telegraffiaeth Ddi-wifr 2003. Mae Ofcom yn croesawu sylwadau ar y cynnig hwn o ran y rheoliadau drafft.
Ymateb i'r ymgynghoriad hwn
Cyflwynwch ymatebion gan ffurflen ymateb erbyn 5pm ar 10 Hydref 2025.
Prif ddogfennau ar gyfer galluogi gwasanaethau lloeren uniongyrchol i ddyfais mewn bandiau sbectrwm symudol
Prif ddogfennau ar gyfer gwella cysylltedd symudol o'r awyr a'r gofod
Ymatebion
Gwybodaeth cyswllt
Tîm prosiect Uniongyrchol i Ddyfais
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA