
- Mae prif gyfnod cynnig ar gyfer ocsiwn sbectrwm wedi dod i ben
- Mae tri rhwydwaith symudol y DU wedi ymrwymo i dalu cyfanswm o £39m i sicrhau mwy o donnau awyr
- Bydd y rhain yn rhoi hwb i wasanaethau symudol mewn ardaloedd prysur fel stadiymau chwaraeon a gorsafoedd trên
Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi canlyniad cam cyntaf ei ocsiwn i ryddhau mwy o donnau awyr i wella 5G yn y mannau prysuraf.
Roedd cyfanswm o 5.4 GHz o sbectrwm ar gael - y mwyaf erioed i fod ar gael mewn ocsiwn Ofcom.
Mae'r sbectrwm hwn, a elwir yn 'mmWave' oherwydd ei donfeddi byr o tua 10 milimetr, wedi'i rannu ar draws dau fand: 26 GHz a 40 GHz.
Mae'n ddelfrydol ar gyfer gwella capasiti mewn mannau prysur le mae llawer o bobl eisiau defnyddio eu ffôn ar yr un pryd, fel mewn stadiymau pêl-droed, lleoliadau cyngherddau mawr a chanolfannau trafnidiaeth. Bydd gweithredwyr rhwydwaith symudol yn gallu ei ddefnyddio mewn 68 o drefi a dinasoedd ledled y DU.
Cymerodd tri chwmni – EE, O2 a VodafoneThree – ran ym mhrif gyfnod yr ocsiwn, a oedd yn cynnwys gwneud cais am donnau awyr mewn 'lotiau' i benderfynu faint o'r sbectrwm sydd ar gael a sicrhawyd gan bob un ohonynt. Mae cynigion bellach wedi dod i ben ac mae Ofcom wedi cyhoeddi'r canlyniadau.
Canlyniadau
Enillodd EE, O2 a VodafoneThree 800 MHz o sbectrwm yn y band 26 GHz ac 1 GHz o sbectrwm yn y band 40 GHz.
Maent wedi ymrwymo i dalu £13m yr un am y sbectrwm hwn.
Cyfanswm y refeniw a godwyd o'r prif gyfnod yw £39m, fydd yn mynd i Drysorlys EM.
Camau nesaf
Bydd yr ocsiwn nawr yn symud i'r cam Dosrannu. Gall y cwmnïau wneud cais am y safleoedd amledd sydd orau ganddynt ar gyfer y tonnau awyr y maent wedi'u sicrhau yn y prif gofnod.
Bydd canlyniadau terfynol yr ocsiwn, gan gynnwys cyfanswm y symiau a dalwyd a'r amleddau penodol a sicrhawyd ar gyfer pob cyfnod cynigydd, yn cael eu cyhoeddi unwaith y bydd pob cam wedi'i gwblhau.
Dywedodd David Willis, Cyfarwyddwr Grŵp Sbectrwm Ofcom: "Mae canlyniadau heddiw yn garreg filltir bwysig ar y llwybr i 5G gwell, cyflymach. Bydd y swm mawr o sbectrwm rydyn ni wedi'i ryddhau yn helpu i gefnogi arloesedd, agor drysau i gymwysiadau newydd a thwf, a gall ddod â gwelliannau amlwg i wasanaethau symudol mewn mannau prysurach ledled y DU."