
Cyhoeddwyd:
14 Gorffennaf 2025
Mae'r BBC wedi cyhoeddi ei hadolygiad o'r rhaglen Gaza: How to Survive a Warzone. Canfu'r adolygiad fod y rhaglen wedi torri un o Ganllawiau Golygyddol y BBC ar gywirdeb.
Ar ôl archwilio canfyddiadau'r BBC, rydym yn lansio ymchwiliad i ddarllediad y BBC o'r rhaglen o dan ein rheol yn y Cod Darlledu sy'n nodi na ddylai rhaglenni ffeithiol gamarwain y gynulleidfa'n sylweddol.