Ymgynghoriad: Dynodi Gwasanaethau Dewis Radio – egwyddorion a dulliau ar gyfer argymhellion Ofcom

Cyhoeddwyd: 4 Chwefror 2025
Ymgynghori yn cau: 18 Mawrth 2025
Statws: Ar gau (yn aros datganiad)
Diweddarwyd diwethaf: 15 Mai 2025

Mae radio yn parhau i fod yn boblogaidd iawn yn y DU, gyda bron i 9 o bob 10 o bobl yn gwrando ar wasanaeth radio bob wythnos. Wrth i fwy o wrando digwydd dros y rhyngrwyd, er enghraifft trwy seinydd clyfar, mae'n bwysig y gall cynulleidfaoedd gael mynediad hawdd at radio'r DU ar-lein trwy wasanaethau sy'n cael eu hysgogi gan lais.

Mae Deddf y Cyfryngau yn cyflwyno set o reolau am y tro cyntaf sy'n anelu at ddiogelu argaeledd radio'r DU ar ddyfeisiau sain gysylltiedig. Mae'n rheoleiddio rhai gwasanaethau ar-lein sy'n cael eu hysgogi gan lais – gwasanaethau dewis radio, neu RSS – sydd wedi'u dynodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol ('DRSS'). Mae'n ei gwneud yn ofynnol i DRSS ddarparu ffrydiau ar-lein o wasanaeth radio darlledu yn y DU yn ddibynadwy mewn ymateb i orchymyn llais defnyddiwr, ymhlith gofynion eraill.

Mae gan Ofcom nifer o rolau mewn perthynas â'r fframwaith rheoleiddio newydd hwn ar gyfer ffrydiau radio ar-lein. Ein rôl gyntaf yw darparu adroddiad i'r Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud argymhellion ynghylch pa wasanaethau dewis radio y dylid eu dynodi. Ysgrifennydd Gwladol sydd i benderfynu pa rai o'r RSS sydd ar gael yn y DU sydd wedi'u dynodi. Cyn i ni ddarparu'r adroddiad hwnnw, rhaid i ni ddatblygu set o egwyddorion a dulliau y byddwn yn eu defnyddio i gyrraedd yr argymhellion yn yr adroddiad. Mae'r ymgynghoriad hwn yn nodi ein cynigion ar gyfer yr egwyddorion a'r dulliau hyn.

Gwybodaeth cyswllt

Cyfeiriad

Media Act – Part 6 team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA

Yn ôl i'r brig