Mae’r astudiaeth Mesur Defnydd Goddefol Ar-lein Plant yn archwilio’r gwefannau a’r apiau yr ymwelodd plant 8-14 oed y DU â hwy a faint o amser a dreuliwyd ar y gwasanaethau yr ymwelwyd â nhw.
Ofcom yw'r rheoleiddiwr ar gyfer diogelwch ar-lein yn y DU. Ein rôl ni yw gwneud yn siŵr bod gwasanaethau ar-lein, fel gwefannau ac apiau, yn cyflawni eu dyletswyddau i amddiffyn eu defnyddwyr o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 (‘y Ddeddf’). I gefnogi'r dyletswyddau hyn, mae'n hanfodol bod gennym sail dystiolaeth gadarn ar yr hyn y mae pobl yn ei wneud ar-lein – y gwasanaethau maen nhw'n eu defnyddio a faint o amser maen nhw'n ei dreulio arnyn nhw. I gefnogi hyn y mae Ofcom wedi cynnal astudiaeth Mesur Defnydd Goddefol Ar-lein Plant.
Mae'r astudiaeth yn mesur sampl gynrychioliadol gadarn yn y DU o ddefnydd plant 8-14 oed ar-lein o wefannau ac apiau ar draws ffonau clyfar, tabledi a chyfrifiaduron. Er mwyn casglu'r data hwn roedd gan y plant a recriwtiwyd feddalwedd monitro goddefol wedi'i osod ar y dyfeisiau a ddefnyddiwyd ganddynt ac roedd y data'n cael ei adrodd yn ôl yn ddienw. Mesurwyd defnydd rhyngrwyd y plant dros gyfnod o 28 diwrnod yn olynol ar gyfer pob aelod o'r panel.
Mae mesur defnydd goddefol ar-lein plant yn arf newydd pwysig sy’n ategu ein rhaglen ehangach o ymchwil ac ymgysylltu â phlant. Mae gweld teithiau ar-lein go iawn blant yn dod â ni yn nes at ddeall yr heriau y maent yn eu hwynebu ar-lein a sut i wella eu bywydau ar-lein.
Lawrlwytho: Mesur Defnydd Goddefol Ar-lein Plant.
Adroddiad rhyngweithiol: