Rhannu eich adborth
Rydym yn deall ei bod hi’n gallu bod yn rhwystredig pan nad yw lefel y ddarpariaeth symudol sy’n cael ei dangos ar ein gwiriwr yn cyfateb i’r profiad yn eich lleoliad.
Mae gennym ffurflen adborth sy’n eich galluogi i roi gwybod pan nad ydych yn cael lefel y ddarpariaeth y mae’r gwiriwr yn ei dangos, sy’n seiliedig ar ragfynegiadau gan y gweithredwyr symudol.
Er nad yw Ofcom yn gallu ymchwilio i gwynion unigol, mae darparu adborth yn werthfawr oherwydd gall helpu i olrhain lle mae angen gwella rhagfynegiadau.
Cwestiynau Cyffredin
Methu dod o hyd i’ch darparwr?