Gweler yr amseroedd newydd ar gyfer y cyflawniadau Diogelwch Ar-lein a amlinellir yma:Dull Ofcom o roi’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein ar waith
Mae'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn gwneud cwmnïau sy'n gweithredu ystod eang o wasanaethau ar-lein yn gyfreithiol gyfrifol am gadw pobl, yn enwedig plant, yn ddiogel ar-lein. Os ydych chi'n darparu gwasanaeth ar-lein, mae yna gamau y mae'n rhaid i chi eu cymryd pan ddaw dyletswyddau i rym. Mae'r dudalen hon yn egluro'r cerrig milltir bwysig.
Am ragor o wybodaeth, gallwch ddarllen ein;
- Canllaw cydymffurfio â'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein ar gyfer darparwyr gwasanaethau ar-lein lle gallwch ddod o hyd i sut i wirio a yw'r rheolau'n berthnasol i chi, y camau y mae'n rhaid i chi eu cymryd, dogfennau rheoleiddio a chanllawiau, a'n bwletin diwydiant chwarterol
- Dyletswyddau cynnwys anghyfreithlon o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein am wybodaeth am y dyletswyddau cynnwys anghyfreithlon
- Dyletswyddau diogelu plant o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein am wybodaeth am y dyletswyddau diogelwch plant
- map ffordd er mwyn gwybod am yr hyn sydd ar y gweill
Mae’r holl ddyddiadau’n adlewyrchu ein hamseroedd disgwyliedig cyfredol ac mae'r dudalen hon yn cynnwys y dyddiadau diweddaraf sydd ar gael. Gallai rhai dyddiadau newid wrth i ni barhau i fynd i'r afael â materion a godwyd gan randdeiliaid a bod y Llywodraeth yn rhoi'r is-ddeddfwriaeth angenrheidiol ar waith. I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddyddiadau ein map ffordd Diogelwch Ar-lein, tanysgrifiwch i'n briffio diogelwch ar-lein.
Gweler yr amseroedd newydd ar gyfer y cyflawniadau Diogelwch Ar-lein a amlinellir yma: Dull Ofcom o weithredu'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein.
Am beth ydych chi’n chwilio?
Mae’r tablau isod yn cynnwys cerrig milltir allweddol, mae rhai yn ddyletswyddau gorfodol ond does dim rhaid ymateb i ymgyngoriadau. Mae'r tabl 'I'w nodi' yn nodi cerrig milltir ychwanegol a allai fod o ddiddordeb i chi"
Dyletswyddau a chamau gweithredu
Mae’r tabl hwn yn nodi’r prif ddyletswyddau Diogelwch Ar-lein a beth mae hyn yn ei olygu’n ymarferol i chi fel gwasanaeth ar-lein. Os na fyddwch yn cydymffurfio erbyn y dyddiadau cau, bydd Ofcom yn gallu cymryd camau gorfodi yn erbyn eich gwasanaeth o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2003.
- Dyddiad Cychwyn: Dyddiad neu amserlen y garreg filltir hon.
- Carreg Filltir: Y prif gerrig milltir Diogelwch Ar-lein y bydd angen i chi weithredu arnynt.
- Disgrifiad/Cam Gweithredu: Y garreg filltir ac unrhyw gamau gweithredu mae’n rhaid i chi eu cymryd.
- Pwy ddylai weithredu? Mae hwn yn amlinellu i bwy mae’r garreg filltir yn berthnasol.
- Pob gwasanaeth OS: Bydd pob gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr a gwasanaeth chwilio yng nghwmpas y Ddeddf.
- Gwasanaethau VSP: Mae hyn yn cyfeirio at Llwyfannau Rhannu Fideos sydd wedi Hysbysu (pob VSP a sefydlwyd yn y DU sydd eisoes yn bodoli – llwyfannau sy’n diwallu’r cwmpas a'r meini prawf awdurdodaeth o dan Ran 4B o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003).
- Gwasanaethau OS wedi’u Categoreiddio: Bydd cyfran fach o wasanaethau’n cael eu categoreiddio a’u dynodi’n wasanaethau categori 1, 2A neu 2B os ydynt yn bodloni trothwyon penodol a nodir mewn is-ddeddfwriaeth gan y Llywodraeth. Er hwylustod, rydym yn cyfeirio at ‘wasanaethau wedi’u categoreiddio’ yn y tabl.
- Cyhoeddwyr cynnwys pornograffig: Mae hyn yn golygu gwasanaethau pornograffi yng nghwmpas y dyletswyddau yn Rhan 5 o’r Ddeddf.[link to adults only page]
- Gwasanaethau OS sy’n debygol o gael eu defnyddio gan blant: Pob gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr a gwasanaeth chwilio wedi’i reoleiddio sy’n debygol o gael ei ddefnyddio gan blant (ac yn gorfod cydymffurfio â’r dyletswyddau sy’n ymwneud ag amddiffyn plant) o fewn ystyr y Ddeddf.
- Dyddiad cwblhau: Dyddiad cau neu ddyddiad gorffen y garreg filltir.
Dyletswyddau a chamau gweithredu
Dyddiad Cychwyn
| Carreg Filltir | Disgrifiad/Cam Gweithredu | Pwy ddylai gweithredu? | Dyddiad cwblhau | Dolenni defnyddiol | |
|---|---|---|---|---|---|
| 16 Rhagfyr 2024 | Ofcom yn cyhoeddi canllawiau ar asesu risg cynnwys anghyfreithlon a fersiwn cyntaf o'r codau ymarfer niwed anghyfreithlon | Cynnal asesiad risg o gynnwys anghyfreithlon. | Pob gwasanaeth OS gan gynnwys VSPss |
16 Mawrth 2025 |
Datganiad: Diogelu pobl rhag niwed anghyfreithlon ar-lein
Mae'r amser wedi dod i gwmnïau technoleg weithredu: Rheoliad diogelwch ar-lein y DU yn dod i rym
Canllaw cyflym i asesiadau risg cynnwys anghyfreithlon - Ofcom |
| 16 Ionawr 2025 | Ofcom yn cyhoeddi canllawiau sicrhau oedran ac asesiadau mynediad plant effeithiol iawn. | Rhaid i bob gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr a chwilio cwblhau Asesiad Mynediad i Blant | Gwasanaethau Rhan 3 | 16 Ebrill 2025 |
Rhan 3 Canllawiau sicrhau oedran effeithiol iawn Canllawiau Asesiadau Mynediad Plant |
| 16 Ionawr 2025 | Ofcom yn cyhoeddi canllawiau terfynol ar sicrwydd oedran ar gyfer darparwyr pornograffi | Mae'n ofynnol i wasanaethau Rhan 5 gymryd camau i weithredu sicrwydd oedran hynod effeithiol ar unwaith | Cyhoeddwyr cynnwys pornograffig (gwasanaethau o fewn cwmpas dyletswyddau rhan 5). |
Daeth y dyletswyddau i rym ar 17 Ionawr 2025 |
Sicrhau oedran effeithiol iawn a dyletswyddau eraill Rhan 5 Canllaw cyflym i sicrwydd oedran effeithiol iawn |
| 17 Ionawr 2025 | Mae'r Llywodraeth yn cychwyn dyletswyddau diogelwch ar-lein o ran sicrwydd oedran ar gyfer cyhoeddwyr cynnwys pornograffig | Cydymffurfio â dyletswyddau sicrwydd oedran | Pob gwasanaeth OS (bydd dyletswyddau tryloywder ond yn berthnasol i wasanaethau wedi’u categoreiddio) | Amh |
Gweithredu’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein: Amddiffyn plant rhag pornograffi ar-lein - Ofcom |
| 17 Mawrth 2025 | Codau Ymarfer ar gynnwys anghyfreithlon yn dod i rym | Cydymffurfio â'r dyletswyddau diogelwch cynnwys anghyfreithlon | Pob gwasanaeth OS | Amh | Canllaw cyflym i godau ymarfer cynnwys anghyfreithlon - Ofcom |
| 24 Ebrill 2025 | Ofcom yn cyhoeddi canllawiau ar asesu risg plant a’r fersiwn cyntaf o godau ymarfer amddiffyn plant | Cynnal asesiad o fynediad plant | Gwasanaethau OS sy’n debygol o gael eu defnyddio gan blant, gan gynnwys VSPs |
24 Gorffennaf 2025. |
Canllaw cyflym i asesiadau risg plant: amddiffyn plant ar-lein - Ofcom |
| 25 Gorffennaf 2025 | Codau Ymarfer Amddiffyn Plant yn dod i rym | Cydymffurfio â’r dyletswyddau diogelwch plant | Gwasanaethau OS sy’n debygol o gael eu defnyddio gan blant | Amh | Canllaw cyflym i Godau Diogelwch Plant |
| 21 Gorffennaf 2025 | Ofcom yn cyhoeddi canllawiau terfynol ar adrodd tryloywder ar gyfer gwasanaethau wedi'u categoreiddio | Gwasanaethau i nodi'r canllawiau sydd ar gael gyda'r bwriad o baratoi ar gyfer gofynion adrodd. Dim ond gwasanaethau wedi'u categoreiddio y bydd y gofynion yn berthnasol | Pob gwasanaeth OS (dim ond i wasanaethau wedi'u categoreiddio y bydd dyletswyddau tryloywder yn berthnasol) | Amh |
Ymgynghoriad: Canllawiau drafft ar adrodd tryloywder – Ofcom Atodiad A: Canllawiau drafft ar dryloywder |
| Rhagfyr – Ebrill 2026 | Daw'r drefn ffioedd i rym a bydd y ffenestr hysbysu ar gyfer y flwyddyn codi tâl gychwynnol 2026/7 yn agor | Dylai darparwyr hysbysu Ofcom am eu rhwymedigaeth i dalu ffioedd | Pob darparwr sy'n bodloni'r trothwy Refeniw Byd-eang Cymwys, ac nad ydynt wedi'u heithrio fel arall | Bydd y ffenestr hysbysu ar gyfer y flwyddyn codi tâl gychwynnol 2026/7 yn cau ym mis Ebrill 2026. | |
| Chwefror 2026 | Ofcom yn cyhoeddi canllawiau terfynol ar uwch-gŵynion | Bydd sefydliadau cymwys yn gallu codi ‘uwch-gŵyn’ gydag Ofcom | Sefydliadau sy'n gymwys i gyflwyno uwch-gŵynion | Chwefror 2026 | Datganiad a Chanllawiau: Uwch-gŵynion o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 |
| 7 Ebrill | Dyletswydd i adrodd ar gynnwys cam-drin plant yn rhywiol (CSEA) i'r Asiantaeth Troseddu Genedlaethol (NCA) | Mae'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn ei gwneud yn ofynnol i bob darparwr gwasanaeth rheoleiddiedig adrodd am yr holl gynnwys CSEA a ganfuwyd a heb ei adrodd sy'n bresennol ar eu gwasanaethau i'r NCA. Os yw gwasanaeth wedi'i leoli y tu allan i'r DU, y gofyniad yw rhoi gwybod am gynnwys CSEA sy'n gysylltiedig â'r DU | Mae'r ddyletswydd yn berthnasol i bob gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr a chwilio rheoleiddiedig; fodd bynnag, nid yw hyn yn cael ei ddechrau ar gyfer gwasanaethau chwilio tan yn ddiweddarach | Dyletswydd barhaus | Mae'r dudalen we hon yn manylu ar y ddyletswydd i adrodd ar gynnwys cam-fanteisio a cham-drin plant yn rhywiol (CSEA): gwybod y rheolau a sut i gydymffurfio |
| Ebrill 2026 | Cyfundrefn ffioedd (QWR) | Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflenni Refeniw Byd-eang Cymwys (QWR) gan ddarparwyr sy'n atebol am ffioedd mewn perthynas â blwyddyn codi tâl 2026/27 | Darparwyr sy’n atebol am ffioedd | 11 Ebrill | Ffioedd diogelwch ar-lein: beth yw'r dyletswyddau a sut i gydymffurfio â nhw |
| Ebrill 2026 | Hysbysu rhai gwasanaethau yn ffurfiol (RFI) gan Ofcom am eu cynnwys anghyfreithlon a chofnodion asesu risg plant | Gwasanaethau perthnasol yn cyflwyno eu cofnodion asesu risg i Ofcom | Gwasanaethau wedi’u hysbysu’n ffurfiol gan RFI | Mai i Orffennaf | Amherthnasol |
| Mai 2026 | Ofcom yn cwblhau mesurau diogelwch ychwanegol ar baru hash canfyddiadol ar gyfer cam-drin delweddau personol | Gweithredu technoleg ragweithiol i atal delweddau personol anghyfreithlon rhag cyrraedd defnyddwyr yn unol â'n datganiad terfynol. | Pob gwasanaeth Diogelwch Ar-lein | Haf 2026 yn amodol ar broses seneddol. | Ofcom yn cyflymu penderfyniad ar fesurau i rwystro delweddau personol anghyfreithlon |
| Mehefin 2026 | Ofcom yn cyhoeddi datganiad terfynol ar droseddau blaenoriaeth newydd (hunan-niweidio difrifol a seiberfflachio) | Sicrhau bod diweddariadau perthnasol yn cael eu gwneud yn unol â newidiadau i ddogfennau rheoleiddiol gan gynnwys diweddaru asesiadau risg ar gyfer niwed anghyfreithlon blaenoriaeth newydd. | Pob gwasanaeth Diogelwch Ar-lein | I'w gadarnhau | Ymgynghoriad: Troseddau blaenoriaeth newydd - hunan-niweidio difrifol a seiberfflachio. |
| Mehefin 2026 | Ofcom yn cwblhau mesurau diogelwch ychwanegol ar ymateb i argyfwng | Cydymffurfio ag unrhyw fesurau newydd o'r Cod Niwed Anghyfreithlon a mesurau Diogelu Plant. | Pob gwasanaeth Diogelwch Ar-lein | Haf 2026 (Yn amodol ar broses seneddol, byddem yn disgwyl i unrhyw fesurau newydd y Cod Niwed Anghyfreithlon a mesurau Diogelu Plant ddod i rym cyn gynted â'r haf hwn. | I'w gadarnhau |
| Mehefin i Fedi 2026 | Cyfundrefn ffioedd blwyddyn codi tâl 2027/28 | Bydd cyfnod hysbysu ar gyfer blwyddyn codi tâl 2027/28 yn agor ar gyfer darparwyr newydd sy’n atebol am ffioedd | Pob darparwr newydd sy’n atebol am ffioedd | I'w gadarnhau | Ffioedd diogelwch ar-lein: beth yw'r dyletswyddau a sut i gydymffurfio â nhw |
| Gorffennaf 2026 | Ofcom yn cyhoeddi cofrestr o wasanaethau wedi'u categoreiddio | Bydd y gofrestr yn pennu pa wasanaethau sy'n cael eu categoreiddio. Bydd cyfle i wasanaethau ymateb i ymgynghoriadau ynghylch y dyletswyddau ychwanegol ar gyfer gwasanaethau wedi'u categoreiddio, a bydd angen iddynt baratoi i gydymffurfio â'r dyletswyddau hynny wrth iddynt ddod i rym. Ar ôl cyhoeddi'r gofrestr o wasanaethau wedi'u categoreiddio, byddwn hefyd yn darparu diweddariad ar amserlenni ar gyfer y gyfundrefn dryloywder | Gwasanaethau wedi'u categoreiddio gan Ddiogelwch Ar-lein | I'w gadarnhau: Dull Ofcom o weithredu'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn cynnwys y diweddaraf ar amserlenni ar gyfer categoreiddio gwasanaethau | Cofrestru ar-lein: hysbysiadau gwybodaeth |
| Hydref 2026 | Ofcom yn cyhoeddi'r datganiad Mesurau Diogelwch Ychwanegol | Cydymffurfio â'r dyletswyddau cynnwys anghyfreithlon a diogelwch plant | Pob gwasanaeth Diogelwch Ar-lein | Amherthnasol | I'w gadarnhau |
| Medi 2026 | Mae Ofcom yn disgwyl cyhoeddi tariff 2026/27 a chyhoeddi anfonebau ar gyfer blwyddyn codi tâl 2026/27. | Mae darparwyr yn talu anfonebau ar gyfer blwyddyn codi tâl 2026/27 (gyda’r posibilrwydd o daliadau mewn rhandaliadau i'r rhai sy'n atebol i dalu mwy na £75,000) | Darparwyr sy'n atebol i ffioedd | Mawrth 2027 | Ffioedd diogelwch ar-lein: beth yw'r dyletswyddau a sut i gydymffurfio â nhw |
| Hydref 2026 | Yn amodol ar gyhoeddi'r gofrestr o wasanaethau wedi'u categoreiddio tua mis Gorffennaf 2026. | Mae angen i ddarparwyr gwasanaethau perthnasol ddarparu cofnodion asesu risg cyfredol i Ofcom. | Gwasanaethau Categori 1 a 2a. | Hydref 2026 | I'w gadarnhau |
| Tachwedd 2026 | Yn amodol ar gyhoeddi'r gofrestr o wasanaethau wedi'u categoreiddio tua Gorffennaf 2026. | Mae angen i ddarparwyr gwasanaethau perthnasol gyhoeddi crynodebau o asesiadau risg. | Gwasanaethau Categori 1 a 2a. | Tachwedd 2026 | I'w gadarnhau |
Ymgyngoriadau
Mae’r tabl hwn yn nodi’r dyddiadau sy’n berthnasol i ymgyngoriadau. Bydd y tabl yn eich arwain ar ba bryd mae’r rhain, a’r dyddiad cau i gyflwyno ymateb i’r ymgynghoriad. Sylwch, mae’r dyddiadau i gyd yn adlewyrchu ein hamserlenni ar hyn o bryd ac mae’n bosibl iddyn nhw newid.
- Dyddiad Cychwyn: Dyddiad neu amserlen y garreg filltir hon.
- Carreg Filltir: Y prif Ymgynghoriad Diogelwch Ar-lein yr hoffech ei ddarllen ac ymateb iddo.
- Disgrifiad/Cam Gweithredu: Rhagor o fanylion a chamau gweithredu a awgrymir ar gyfer yr ymgynghoriad hwn.
- I bwy mae hwn yn fwyaf perthnasol? Er bod ein hymgyngoriadau’n gyhoeddus a’n bod yn derbyn ymatebion gan unrhyw un, rydym wedi egluro’r mathau o wasanaethau y mae cynigion yr ymgynghoriad yn arbennig o berthnasol iddynt, er mwyn helpu gwasanaethau i ddeall pryd maent fwyaf tebygol o fod eisiau darllen yr ymgynghoriad ac ymateb.
- Pob gwasanaeth OS: Bydd pob gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr a gwasanaeth chwilio yng nghwmpas y Ddeddf.
- Gwasanaethau VSP: Mae hyn yn cyfeirio at Llwyfannau Rhannu Fideos sydd wedi Hysbysu (pob VSP a sefydlwyd yn y DU sydd eisoes yn bodoli – llwyfannau sy’n diwallu’r cwmpas a'r meini prawf awdurdodaeth o dan Ran 4B o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003).
- Gwasanaethau OS wedi’u Categoreiddio: Bydd cyfran fach o wasanaethau’n cael eu categoreiddio a’u dynodi’n wasanaethau categori 1, 2A neu 2B os ydynt yn bodloni trothwyon penodol a nodir mewn is-ddeddfwriaeth gan y Llywodraeth. Er hwylustod, rydym yn cyfeirio at ‘wasanaethau wedi’u categoreiddio’ yn y tabl.
Cyhoeddwyr cynnwys pornograffig: Mae hyn yn golygu gwasanaethau pornograffi yng nghwmpas y dyletswyddau yn Rhan 5 o’r Ddeddf.- Gwasanaethau OS sy’n debygol o gael eu defnyddio gan blant: Pob gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr a gwasanaeth chwilio wedi’i reoleiddio sy’n debygol o gael ei ddefnyddio gan blant (ac yn gorfod cydymffurfio â’r dyletswyddau sy’n ymwneud ag amddiffyn plant) o fewn ystyr y Ddeddf.
- Dyddiad cwblhau: Dyddiad cau neu ddyddiad gorffen ymateb i’r ymgynghoriad.
Gallwch chwilio am gynnwys sy’n berthnasol i chi, drwy chwilio am allweddeiriau fel y math o wasanaeth ydych chi neu bwnc ymgynghoriad.
Ymgyngoriadau
| Dyddiad Cychwyn | Carreg Filltir | Disgrifiad/Cam Gweithredu | I bwy y bydd hyn o’r diddordeb mwyaf? | Dyddiad cwblhau | Dolenni defnyddiol |
|---|---|---|---|---|---|
| 24 Hydref 2024 | Ymgynghori ar fesurau ychwanegol ar gyfer Codau Ymarfer (niwed anghyfreithlon ac amddiffyn plant) | Rhoi adborth ar yr ymgynghoriad mesurau ychwanegol (dewisol) | Pob gwasanaeth OS | 9 Ionawr 2025 | Diogelwch Ar-lein - ffioedd a chosbau |
| 16 Rhagfyr 2024 | Ymgynghori ar y pŵer ar gyfer hysbysiadau CSEA/Technoleg terfysgaeth | Rhoi adborth ar yr ymgynghoriad CSEA/terfysgaeth (dewisol) | Pob gwasanaeth OS | 10 Mawrth 2025 | Ymgynghoriad: Hysbysiadau Technoleg |
| 25 Chwefror 2025 | Ymgynghori ar ganllawiau amddiffyn menywod a merched | Rhoi adborth ar ymgynghoriad amddiffyn menywod a merched (dewisol) | Pob gwasanaeth OS | 23 Mai 2025 | Ymgynghoriad ar ganllawiau ar amddiffyn menywod a merched |
| Mehefin 2025 | Ymgynghori ar fesurau ychwanegol ar gyfer Codau Ymarfer (niwed anghyfreithlon ac amddiffyn plant) | Rhoi adborth ar yr ymgynghoriad mesurau ychwanegol (dewisol) | Pob gwasanaeth OS | 20 Hydref 2025 | Ymgynghoriad: Diogelwch Ar-lein - Mesurau Diogelwch Ychwanegol |
| 18 Gorffennaf 2025 | Ymgynghoriad ar Ganllawiau drafft: Refeniw Byd-eang Cymwys (ffioedd a chosbau diogelwch ar-lein) | Rhoi adborth ar yr ymgynghoriad (dewisol) | Pob gwasanaeth Diogelwch Ar-lein gan gynnwys VSPs gyda refeniw byd-eang cymwys disgwyliedig uwchlaw £250m | 10 Medi 2025 (5pm) | Ymgynghoriad ar Ganllawiau drafft: Refeniw Byd-eang Cymwys |
| 1 Medi 2025 | Ymgynghoriad ar y Canllawiau Hysbysu drafft (ffioedd diogelwch ar-lein) | Adborth ar yr ymgynghoriad (dewisol) | Bob gwasanaeth OS gan gynnwys platfformau rhannu fideo (VSPs) y disgwylir i’w refeniw byd eang cymwys fod dros £250m | 1 Hydref 2025 (5pm) |
Ymgynghoriad: Ffioedd Diogelwch Ar-lein – Canllawiau Hysbysu - Ofcom |
| 8 Medi 2025 | Ymgynghoriad: Canllawiau draft ar gyfer uwchgŵynion o dan Ddeddf Diogwelch Ar-lein 2023 | Adborth ar yr ymgynghoriad (dewisol) | Bob gwasanaeth OS | 3 Tachwedd 2025 |
Ymgynghoriad ar ganllawiau drafft ar gyfer uwch-gŵynion o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 |
| 15 Medi | Ymgynghoriad ar argymhellion ar gyfer sut i hyrwyddo Llythrennedd yn y Cyfryngau | Rhannu adborth ar yr ymgynghoriad (dewisol) | Platfformau ar-lein, darlledwyr a gwasanaethau ffrydio | 8 Rhagfyr | |
| Hydref 2025 - Mawrth 2026 | Galwad am dystiolaeth ar ddyletswyddau ychwanegol ar gyfer gwasanaethau wedi'u categoreiddio | Gwasanaethau perthnasol i ddarparu tystiolaeth i lywio ymgynghoriad dyletswyddau ychwanegol (dewisol) | Gwasanaethau perthnasol | I’w gadarnhau | |
| 24 Mawrth 2026 | Ymgynghoriad ar droseddau blaenoriaeth newydd – hunan-niweidio difrifol a seiber-fflachio | Rhoi adborth ar ymgynghoriad troseddau blaenoriaeth newydd (dewisol) | Pob gwasanaeth Diogelwch Ar-lein | Dydd Gwener 24 Ebrill (5pm) |
Ymgynghoriad: Diweddariadau ar Niwed Anghyfreithlon, troseddau blaenoriaeth newydd |
| Gorffennaf 2026 | Ymgynghoriad ar ddyletswyddau ychwanegol ar gyfer gwasanaethau wedi'u categoreiddio | Rhoi adborth ar ymgynghori (dewisol) | Gwasanaethau perthnasol gan gynnwys gwasanaethau wedi'u categoreiddio. | I'w gadarnhau |
I'w gadarnhau |
I’w Nodi
Mae’r tabl hwn yn rhoi dyddiadau cerrig milltir Diogelwch Ar-lein eraill y gallech fod eisiau eu nodi. Sylwch, mae’r dyddiadau i gyd yn adlewyrchu ein hamserlenni ar hyn o bryd ac mae’n bosibl iddyn nhw newid.
- Dyddiad Cychwyn: Dyddiad neu amserlen y garreg filltir hon.
- Carreg Filltir: Y prif gerrig milltir Diogelwch Ar-lein y gallech chi fod eisiau eu nodi.
- Disgrifiad/Cam Gweithredu: Rhagor o fanylion a chamau gweithredu a awgrymir ar gyfer y garreg filltir hon.
- Pwy ddylai dalu sylw? Rydym wedi egluro’r mathau o wasanaethau mae’r cerrig milltir neu’r cynigion yn arbennig o berthnasol iddynt.
- Pob gwasanaeth OS: Bydd pob gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr a gwasanaeth chwilio yng nghwmpas y Ddeddf.
- Gwasanaethau VSP: Mae hyn yn cyfeirio at Llwyfannau Rhannu Fideos sydd wedi Hysbysu (pob VSP a sefydlwyd yn y DU sydd eisoes yn bodoli – llwyfannau sy’n diwallu’r cwmpas a'r meini prawf awdurdodaeth o dan Ran 4B o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003).
- Gwasanaethau OS wedi’u Categoreiddio: Bydd cyfran fach o wasanaethau’n cael eu categoreiddio a’u dynodi’n wasanaethau categori 1, 2A neu 2B os ydynt yn bodloni trothwyon penodol a nodir mewn is-ddeddfwriaeth gan y Llywodraeth. Er hwylustod, rydym yn cyfeirio at ‘wasanaethau wedi’u categoreiddio’ yn y tabl.
Cyhoeddwyr cynnwys pornograffig: Mae hyn yn golygu gwasanaethau pornograffi yng nghwmpas y dyletswyddau yn Rhan 5 o’r Ddeddf.- Gwasanaethau OS sy’n debygol o gael eu defnyddio gan blant: Pob gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr a gwasanaeth chwilio wedi’i reoleiddio sy’n debygol o gael ei ddefnyddio gan blant (ac yn gorfod cydymffurfio â’r dyletswyddau sy’n ymwneud ag amddiffyn plant) o fewn ystyr y Ddeddf.
- Dyddiad cwblhau: Dyddiad cau neu ddyddiad gorffen y garreg filltir.
Gallwch chwilio am gynnwys sy’n berthnasol i chi, drwy chwilio am allweddeiriau fel y math o wasanaeth ydych chi, math o gyhoeddiad neu bwnc.
I’w Nodi
| Dyddiad Cychwyn | Carreg Filltir | Disgrifiad/Cam Gweithredu | Pwy ddylai dalu sylw? | Dyddiad cwblhau | Dolenni defnyddiol |
|---|---|---|---|---|---|
| Gorffennaf 2025 | Ofcom yn cyhoeddi adroddiad Mynediad i Ymchwilwyr | Gwasanaethau i nodi adroddiad Mynediad Ymchwilydd (dewisol) | Pob gwasanaeth OS | Amherthnasol | Mynediad ymchwilwyr at wybodaeth o wasanaethau ar-lein rheoleiddiedig |
| 25 Gorffennaf 2025 | Diddymu’r drefn VSPs | Bydd VSPs yn dod yn gwbl ddarostyngedig i'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein | VSPs | Amherthnasol | Diddymu'r gyfundrefn VSP: yr hyn sydd angen i chi ei wybod - Ofcom |
| Rhagfyr 2025 | Ofcom yn diweddaru Canllawiau Pwerau Gwybodaeth Diogelwch Ar-lein ynghylch Hysbysiadau Cadw Data a Hysbysiadau Gwybodaeth Crwner | Adolygu'r canllawiau a deall sut i gydymffurfio â Hysbysiadau Cadw Data a Hysbysiadau Gwybodaeth Crwner | Pob gwasanaeth Diogelwch Ar-lein | Amherthnasol | Datganiad: Hysbysiadau Cadw Data |
| Chwefror 2026 | Ofcom yn cyhoeddi canllawiau terfynol ar uwch-gŵynion | Bydd sefydliadau cymwys yn gorfod codi uwch-gŵynion gydag Ofcom | Sefydliadau cymwys | Chwefror 2026 | I'w gadarnhau |
| Mai l 2026 | Ofcom yn cyhoeddi canllawiau terfynol ar gyfer Hysbysiadau Technoleg | Bydd canllawiau Hysbysiad Technoleg Diogelwch Ar-lein Ofcom yn nodi sut rydym yn bwriadu arfer ein swyddogaeth hysbysu technoleg | Pob gwasanaeth Diogelwch Ar-lein | Mai 2026 | Statement: Technology Notices |
| Mehefin 2026 | Ofcom yn cyhoeddi Datganiad Llythrennedd yn y Cyfryngau | Gwasanaethau i nodi Datganiad Llythrennedd yn y Cyfryngau (dewisol) | Pob gwasanaeth Diogelwch gan gynnwys VSPs | Amherthnasol | Darllen mwy am ein gwaith llythrennedd yn y cyfryngau yma Llythrennedd yn y cyfryngau - Ofcom |
| Gorffennaf 2026 | Ofcom yn cyhoeddi adroddiad statudol sicrwydd oedran | Bydd yr adroddiad hwn yn asesu sut mae gwasanaethau wedi defnyddio sicrwydd oedran a pha mor effeithiol y mae wedi bod at ddiben cydymffurfio â'u dyletswyddau o dan y Ddeddf | Pob gwasanaeth Diogelwch Ar-lein | Gorffennaf 2026 | I'w gadarnhau |
| Hydref 2026 | Ofcom yn cyhoeddi adroddiad statudol ar gynnwys sy'n niweidiol i blant | Bydd yr adroddiad hwn yn crynhoi ein canfyddiadau ar nifer yr achosion a difrifoldeb cynnwys sy'n niweidiol i blant | Pob gwasanaeth Diogelwch Ar-lein | Hydref 2026 | I'w gadarnhau |
| Tachwedd 2026 | Ofcom yn cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Cynghori ar Wybodaeth Ar-lein | Bydd Pwyllgor Cynghori ar Wybodaeth Ar-lein Ofcom yn cyhoeddi ei adroddiad statudol cyntaf | Pob gwasanaeth Diogelwch Ar-lein | 1 Tachwedd 2026 | I'w gadarnhau |
| Ionawr 2027 | Ofcom yn cyhoeddi adroddiad statudol ar siopau apiau | Bydd yr adroddiad hwn yn asesu rôl siopau apiau mewn achosion lle mae plant yn dod ar draws cynnwys niweidiol ac yn gwerthuso defnydd ac effeithiolrwydd sicrwydd oedran gan ddarparwyr siopau apiau | Pob gwasanaeth Diogelwch Ar-lein | Ionawr 2027 | I'w gadarnhau |
Adnoddau
- Dulliau Ofcom ar gyfer gweithredu’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein
- Rheolau newydd i wasanaethau ar-lein: yr hyn mae angen i chi ei wybod - Ofcom
- Gwiriwr Rheoleiddio Ofcom (salesforce-sites.com)
- Diddymu’r drefn VSP: yr hyn y mae angen i chi ei wybod.
- Oedolion yn unig – beth i’w wneud os yw eich gwasanaeth ar-lein yn caniatáu pornograffi
- Gweithredu’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein: Dyletswyddau ychwanegol ar gyfer gwasanaethau ar-lein wedi’u ‘categoreiddio’ - Ofcom