Dull Ofcom o roi’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein ar waith

Cyhoeddwyd: 6 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd diwethaf: 30 Mehefin 2025

Yr wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau gweithredu diogelwch ar-lein

Rydym ni wedi cwblhau ein Codau cychwynnol ar Niwed Anghyfreithlon ac Amddiffyn Plant, ac wedi dechrau gorfodi’r conglfeini allweddol hyn o’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein. Rydym ni bellach wedi cyhoeddi cynigion ar gyfer cyfres o fesurau diogelwch ychwanegol i gryfhau’r Codau cychwynnol hyn.

Er mwyn cefnogi ein gwaith o roi'r rheolau newydd ar waith, rydym ni’n parhau i gasglu mewnbwn gan gymdeithas sifil a phartneriaid strategol, gan gynnwys asiantaethau gorfodi’r gyfraith, rheoleiddwyr eraill yn y DU a thramor, a chyrff arbenigol. Mae lleisiau a safbwyntiau defnyddwyr ar-lein yn hanfodol i'r hyn a wnawn, ac er mwyn helpu i siapio a llywio ein gwaith, byddwn ni’n parhau i wrando ac ymgysylltu â phlant, teuluoedd a'r rhai sydd â phrofiad uniongyrchol o niwed ar-lein.

Mae angen i wasanaethau weithredu i gydymffurfio â'u dyletswyddau

Rydym wedi cyhoeddi Codau Ymarfer a chanllawiau ar sut y gall cwmnïau cydymffurfio â'u dyletswyddau. Os ydych chi'n darparu gwasanaeth ar-lein, mae camau y mae'n rhaid i chi eu cymryd pan ddaw dyletswyddau i rym. Mae'r dudalen 'dyddiadau pwysig ar gyfer cydymffurfio â diogelwch ar-lein' yn esbonio'r cerrig milltir bwysig. 

Dros weddill y flwyddyn hon, mae ein cerrig milltir allweddol yn cynnwys:

  • Ffioedd y diwydiant. Ddydd Iau 26 Mehefin, fe wnaethom ni gyhoeddi ein datganiad ffioedd a chosbau Diogelwch Ar-lein.   
  • Adroddiad Mynediad Ymchwilwyr. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ni gyhoeddi adroddiad, sy’n ystyried sut y gall ymchwilwyr annibynnol gael gafael ar wybodaeth gan wasanaethau rheoledig ar-lein er mwyn cynnal ymchwil i faterion diogelwch ar-lein. Byddwn yn cyhoeddi’r adroddiad hwn ym mis Gorffennaf 2025, yn dilyn ein hymgynghoriad a gyhoeddwyd ddiwedd 2024. Bydd ein hadroddiad yn asesu statws presennol mynediad ymchwilwyr, materion sy'n cyfyngu ar fynediad, ac i ba raddau y gellir sicrhau mwy o fynediad i ymchwilwyr annibynnol sy'n astudio materion diogelwch ar-lein. 
  • Categoreiddio a dyletswyddau ychwanegol ar gyfer gwasanaethau wedi’u categoreiddio. Rydym ni wedi bod yn gweithio tuag at gyhoeddi’r gofrestr o wasanaethau wedi’u categoreiddio yn ystod haf 2025. Mae’r is-ddeddfwriaeth a osodir gan y Llywodraeth, sy’n pennu’r trothwyon a fydd yn pennu pa wasanaethau sy’n cael eu categoreiddio, yn destun her gyfreithiol ar hyn o bryd. Byddwn yn monitro hyn yn ofalus ac yn rhoi diweddariad pan fyddwn yn gwybod mwy am unrhyw effaith bosibl y gallai’r her hon ei chael ar ein gwaith. Byddwn hefyd yn cyhoeddi'r gofrestr cyn gynted â phosibl ar ôl hynny. Yn y cyfamser, byddwn yn cyhoeddi fersiwn derfynol ein canllawiau adrodd ar dryloywder ym mis Gorffennaf 2025, wedi i ni ymgynghori ar y canllawiau hyn yn ôl yn 2024. 
  • Bydd y Pwyllgor Cynghori ar Wybodaeth Ar-lein yn cyhoeddi ei adroddiad cyntaf erbyn mis Tachwedd 2026 fan bellaf. 
  • Canllawiau ar fywyd mwy diogel ar-lein i fenywod a merched. Ym mis Chwefror 2025, fe wnaethom gyhoeddi ein canllawiau drafft sy’n nodi naw maes lle dylai cwmnïau technoleg wneud mwy i wella diogelwch menywod a merched ar-lein drwy gymryd cyfrifoldeb, dylunio eu gwasanaethau i atal niwed, a chefnogi eu defnyddwyr. Cawsom dros 100 o ymatebion gan grwpiau cymdeithas sifil, academyddion, diwydiant ac arbenigwyr eraill. Rydym ni’n disgwyl cyhoeddi’r canllawiau terfynol erbyn diwedd 2025. Tua 18 mis ar ôl i ni gwblhau’r Canllawiau yn derfynol, byddwn yn cyhoeddi asesiad o sut mae darparwyr yn cadw menywod a merched yn ddiogel ar eu gwasanaethau. Yn ogystal â sbarduno newid drwy ein Canllawiau, byddwn hefyd yn parhau i ymgysylltu â darparwyr gwasanaethau i sicrhau eu bod yn cyflawni eu cyfrifoldebau cyfreithiol. Mae angen iddyn nhw ddiogelu defnyddwyr rhag niwed anghyfreithlon fel stelcio a chamddefnyddio delweddau personol, a diogelu plant rhag cynnwys camdriniol, cas a threisgar. Er mwyn llywio ein gwaith, rydym ni hefyd yn parhau i weithio gyda sefydliadau rheng flaen ac arbenigwyr eraill ym maes niwed ar sail rhywedd ar-lein.   
  • Lansio’r drefn uwch-gwynion, yn unol â’r Ddeddf a rheoliadau diweddar y Llywodraeth. Bydd hyn yn galluogi endidau cymwys i godi materion systemig i’n sylwi, sydd naill ai’n codi ar draws gwasanaethau neu, mewn amgylchiadau eithriadol, ar gyfer un gwasanaeth yn unigol. Rydym ni’n disgwyl ymgynghori ar ganllawiau drafft ar gyfer uwch-achwynwyr posibl ym mis Medi 2025, a chyhoeddi ein canllawiau terfynol ddechrau 2026
  • Hysbysiadau Technoleg. Rydym ni wedi ymgynghori ar gynigion polisi o ran safonau cywirdeb sylfaenol ar gyfer technolegau achrededig sy’n delio â chynnwys sy’n ymwneud â therfysgaeth a/neu gam-drin a chamfanteisio yn rhywiol ar blant. Rydym ni hefyd wedi ymgynghori ar ganllawiau drafft i ddarparwyr ar sut rydym ni’n bwriadu arfer ein swyddogaeth Hysbysiadau Technoleg. Rydym ni’n bwriadu cyflwyno cyngor terfynol ar safonau cywirdeb gofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol, a chyhoeddi canllawiau terfynol erbyn Gwanwyn 2026. Byddwn ni hefyd yn cyhoeddi ein hail adroddiad blynyddol ar arfer y swyddogaethau Hysbysiadau Technoleg erbyn mis Ionawr 2026. Ar ôl i’r Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi’r safonau cywirdeb sylfaenol, bydd Ofcom yn dechrau proses i achredu technolegau fel rhai sydd wedi’u bodloni. 
  • Adroddiadau statudol. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ni lunio nifer o adroddiadau gyda therfynau amser statudol:
    • Cyhoeddi ein hadroddiad ar Ddulliau Effeithiol Iawn i Sicrhau Oedran erbyn mis Gorffennaf 2026,
    • Cyhoeddi ein hadroddiad ar gynnwys sy’n niweidiol i blant erbyn mis Hydref 2026,
    • Cyhoeddi ein hadroddiad ar siopau apiau erbyn mis Ionawr 2027.

Darllen y diweddariad llawn

Yr wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau gweithredu diogelwch ar-lein 30 June 2025

Gweithredu’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein: diweddariad cynnydd

Dull Ofcom o roi’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein ar waith

Map gwreiddiol (2023)

Dull Ofcom o roi’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein ar waith

Diweddariad – beth sydd wedi newid ers cyhoeddi ein map (15 Mehefin 2023)

Gwnaethom gyhoeddi diweddariad  ar sut mae Ofcom yn paratoi i reoleiddio diogelwch ar-lein, gan gynnwys amserlenni disgwyliedig a'r hyn sydd wedi newid ers i ni gyhoeddi ein map.

Map gwreiddiol (6 Gorffennaf 2022)

Rate this page

Was this page helpful?
Yn ôl i'r brig