
Heddiw, mae Ofcom wedi rhoi diweddariad ar ein hymchwiliad i ddarparwr fforwm hunanladdiad ar-lein o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein y DU.
Ar 1 Gorffennaf 2025, gweithredodd y fforwm floc i gyfyngu defnyddwyr â chyfeiriadau IP y DU rhag cael mynediad i'r gwasanaeth. Mae Ofcom wedi bod yn monitro'r cyfyngiadau hyn yn weithredol i wirio eu bod yn cael eu cynnal yn gyson ac i wneud yn siŵr nad yw'r gwasanaeth yn hyrwyddo nac yn annog ffyrdd i ddefnyddwyr y DU eu hosgoi.
Erbyn hyn mae gennym reswm i gredu, o dystiolaeth a ddarparwyd i ni gan y Samaritans ar 4 Tachwedd 2025, bod y gwasanaeth ar gael i ddefnyddwyr y DU. Felly, rydym bellach yn bwrw ymlaen â'n hymchwiliad fel blaenoriaeth, ac rydym yn anelu at ddod i gasgliad cyn gynted â phosibl.
Byddwn yn rhoi diweddariadau pellach ar yr ymchwiliad hwn cyn gynted â phosibl.
Diweddariad – 7 Tachwedd 2025
Dangosodd y dystiolaeth a gyflwynwyd gan y Samaritans, ac a ddilyswyd gan Ofcom, fod y fforwm ar gael yn uniongyrchol i ddefnyddwyr â chyfeiriadau IP y DU trwy "safle drych" – felly’r un safle gydag enw parth gwahanol.
Roedd y wefan drych ar gael tan o leiaf 12:18pm ar 6 Tachwedd ac mae Ofcom bellach yn ymwybodol, o heddiw ymlaen, nad yw’n ar gael i ddefnyddwyr y DU.
Rydym yn pryderu, fodd bynnag, bod bloc y fforwm o ddefnyddwyr y DU yn aneffeithiol a/neu nad oedd yn cael ei gynnal yn gyson, ac y gallai materion tebyg godi yn y dyfodol.
Gan weithio’n agos gyda’n harbenigwyr technegol, gweithredodd ein tîm gorfodi ar unwaith ar ôl derbyn y wybodaeth hon. Rydym yn gweithio mor gyflym ag y gallwn i ddod â'n hymchwiliad i ben a byddwn yn rhoi diweddariadau pellach cyn gynted â phosibl.
Nid yw hyn yn newid ein dull o ymdrin â safleoedd sydd wedi cymryd camau i atal pobl yn y DU rhag cael mynediad iddynt, fel drwy 'geoblocio' mynediad o gyfeiriadau IP y DU.
Bydd Ofcom yn blaenoriaethu achosion lle gellir disgwyl i gamau gweithredu gynyddu amddiffyniadau diogelwch ar-lein i bobl yn y DU, yn enwedig plant, ac felly byddem yn debygol o wneud hynny yn erbyn gwasanaethau nad ydynt yn cynnal cyfyngiadau mynediad o'r fath yn gyson neu'n hyrwyddo neu annog ffyrdd y gall defnyddwyr yn y DU osgoi'r cyfyngiadau hynny.
Rhaid i wasanaethau sy'n dewis rhwystro mynediad yn y modd hwn gynnal y cyfyngiadau hyn a rhaid iddynt beidio ag annog neu hyrwyddo ffyrdd i'w hosgoi.