Ar Orffennaf 25, 2025, diddymwyd cyfundrefn Llwyfannau Rhannu Fideo (VSP) y DU, ac mae pob gwasanaeth a hysbysir bellach yn cael ei reoleiddio o dan y gyfundrefn Diogelwch Ar-lein.
Roedd y gyfundrefn VSP yn rhedeg yn y DU am bedair blynedd ac roedd yn rhan flaengar o rheioleiddio diogelwch ar-lein y DU. Yn dilyn ei diddymu, fe wnaethom edrych yn ôl ar ei thaith i amlygu'r hyn a gyflawnwyd, yn ogystal â 5 peth y gall y diwydiant eu dysgu o reoleiddio diogelwch ar-lein yn ymarfero.
Mae ein dull o weithredu'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yndisgrifio’r rheolau y mae'n rhaid i wasanaethau gydymffurfio â nhw nawr, gan gynnwys y dyletswyddau niwed anghyfreithlon a dyletswyddau amddiffyn plant. Bydd dyletswyddau pellach yn dilyn wrth i'r gyfundrefn Diogelwch Ar-lein barhau i gael ei gweithredu.