
Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi canlyniadau terfynol ocsiwn sbectrwm mmWave, ar ôl cwblhau'r camau sy'n weddill.
Yr wythnos diwethaf, fe wnaethom gyhoeddi canlyniadau'r Prif gam, a oedd yn penderfynu faint o sbectrwm yr oedd pob un o'r tri chynigydd – EE, O2 a VodafoneThree – wedi'i ennill, a faint yr oeddent wedi ymrwymo i'w dalu.
Enillodd pob cwmni 800 MHz o sbectrwm yn y band 26 GHz ac 1 GHz o sbectrwm yn y band 40 GHz ac mae wedi talu £13m. Bydd y ffioedd hyn yn mynd i Drysorlys EM.
Yna symudodd yr ocsiwn ymlaen i'r cam Dyrannu, lle cafodd cwmnïau’r cyfle i gynnig am safleoedd amledd penodol, pe bai ganddynt ddewis.
Dim ond os yw dewisiadau dau neu fwy o gynigwyr yn gorgyffwrdd y mae’n rhaid i gynigwyr dalu am eu lleoliadau amledd terfynol. Nid oedd hyn yn wir yn yr ocsiwn hwn, felly ni thalodd unrhyw gynigwyr yn y cam Dyrannu.
Canlyniadau cam dyrannu
Yn dilyn cwblhau'r cam Dyrannu, rydym wedi rhoi trwyddedau i'r tri chynigydd ar gyfer yr amleddau canlynol ar draws y ddau fand:
- EE – 26.7-27.5 GHz a 41.5-42.5 GHz
- O2 – 25.1-25.9 GHz a 40.5-41.5 GHz
- VodafoneThree – 25.9-26.7 GHz a 42.5-43.5 GHz
Mae'r ocsiwn bellach wedi'i gwblhau, ac mae'r enillwyr yn rhydd i ddefnyddio'r sbectrwm yn unol ag amodau eu trwyddedau.