
Mae Ofcom heddiw yn bwriadu cryfhau ei ganllawiau ar sut y dylai cwmnïau telathrebu amddiffyn pobl yn y DU rhag galwadau rhyngwladol sy'n dynwared rhifau symudol y DU.
Un ffordd y mae gangiau troseddol yn manteisio ar ddioddefwyr yw trwy efelychu - neu 'ffugio' - rhifau ffôn, a galwyr y gallai dioddefwyr posibl ymddiried ynddynt, fel rhifau ffôn symudol y DU, fel bod eu galwadau yn fwy tebygol o gael eu hateb. Mae twyllwyr sydd wedi'u lleoli dramor yn aml yn dynwared rhifau'r DU, gan wybod bod pobl yn fwy tebygol o godi'r galwadau hyn nag os yw rhif rhyngwladol anhysbys yn cael ei arddangos.
Mae ymchwil Ofcom yn datgelu, ym mis Chwefror 2025, bod dau o bob pump o ddefnyddwyr ffôn (42%) wedi dweud eu bod wedi derbyn galwad amheus yn ystod y tri mis diwethaf. Canfuom fod pobl yn ymddiried yn fwy o alwadau sy'n dod o rifau symudol y DU (+447) nag o alwadau o rifau rhyngwladol.
Roedd chwarter (26%) yn debygol neu'n debygol iawn o ateb galwad o rif ffôn symudol anhysbys yn y DU, o'i gymharu â dim ond un o bob deg (9%) a fyddai'n ateb galwad sy'n dangos rhif rhyngwladol gyda chod gwlad anhysbys.
Cryfhau amddiffyniadau
Llynedd, fe wnaethom gryfhau ein canllawiau diwydiant yn y maes hwn, gan ddweud wrth gwmnïau ffôn i adnabod a rhwystro galwadau o dramor sy'n arddangos rhif llinell dir y DU fel ID galwr, ac eithrio mewn nifer cyfyngedig o achosion defnydd cyfreithlon.
Ar hyn o bryd, mae eithriad rhag rhwystro galwadau o dramor sy'n arddangos ID galwr ffôn symudol y DU. Mae hyn er mwyn caniatáu i bobl sy'n crwydro dramor arddangos eu rhif i deulu a ffrindiau pan fyddant yn eu ffonio.
Heddiw, rydym yn cynnig y dylai cwmnïau telathrebu atal ID galwr galwadau sy'n ymddangos fel pe baent yn dod o ffôn symudol y DU sy’n crwydro dramor oni bai eu bod yn gallu gwirio ei ddilysrwydd. Mae hyn yn dilyn ymgysylltu â'r diwydiant ar sut y gallai darparwyr amddiffyn pobl rhag galwadau sy'n dynwarad rhifau symudol y DU heb rwystro cwsmeriaid sy'n galw adref o dramor.
Dywedodd Marina Gibbs, Cyfarwyddwr Polisi Rhwydweithiau a Chyfathrebu Ofcom: "Mae cwsmeriaid yn dioddef llu o alwadau sgam, a phan fydd pobl yn cael eu dal allan, gall y canlyniadau fod yn ddinistriol. Gall ddigwydd i unrhyw un, gyda gangiau troseddol mewn gwledydd eraill yn ceisio cam-fanteisio ar bobl pan fydd eu gwarchodaeth i lawr.
"Mae'r gwaith rydyn ni eisoes wedi'i wneud gyda'n gilydd wedi arwain at filiwn o alwadau'r dydd yn cael eu blocio, ond nid oes bwled arian, ac rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o atgyfnerthu ein hamddiffynfeydd yn y frwydr yn erbyn twyll. Byddai'r mesurau newydd hyn yn darparu amddiffyniad pellach i bobl yn y DU."
Mae Ofcom yn gwahodd ymatebion i'r ymgynghoriad heddiw erbyn 5pm 13 Hydref 2025. Rydym yn bwriadu cyhoeddi ein penderfyniad yn gynnar yn 2026.