YouTube-on-TV-(Web)

Dylai fod modd dod o hyd i gynnwys gwasanaeth cyhoeddus ar YouTube

Cyhoeddwyd: 21 Gorffennaf 2025
  • Ofcom yn rhybuddio bod teledu gwasanaeth cyhoeddus traddodiadol mewn perygl
  • Argymhelliad i'w amlygu ar lwyfannau trydydd parti yn rhan o gynllun gweithredu chwe phwynt
  • Angen eglurder ar frys gan y Llywodraeth ynglŷn â sut bydd teledu'n cael ei ddosbarthu i gyrraedd cynulleidfaoedd yn y dyfodol
  • Er mwyn goroesi, rhaid i ddarlledwyr weithio mwy gyda'i gilydd, a gyda chwmnïau technoleg byd-eang

Rhaid cymryd camau brys i sicrhau ei bod yn hawdd dod o hyd i gynnwys cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus ar lwyfannau trydydd parti, o dan argymhellion newydd Ofcom i sicrhau goroesiad y system.

Mae gan gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus hanes hir a balch yn y DU. Mae'n darparu newyddion a rhaglenni gwreiddiol diduedd a dibynadwy sy'n adlewyrchu diwylliant Prydain ac yn dod â'r wlad at ei gilydd. [1] Ond mae'r system bellach o dan fygythiad difrifol, gyda’r dewis sydd ar gael i gynulleidfaoedd yn ehangach nag erioed o'r blaen, darlledwyr yn wynebu heriau ariannol sylfaenol, a newid strwythurol yn y farchnad hysbysebu. Yn yr amgylchedd hwn, mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn ei chael yn llawer anoddach ariannu'r gwaith o gynhyrchu a dosbarthu cynnwys o ansawdd uchel o'r DU i bob cynulleidfa.

Argymhellion ar gyfer camau gweithredu

Er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus a chefnogi eu darpariaeth yn y dyfodol, rydym heddiw wedi nodi cynllun gweithredu chwe phwynt. Byddai ein hargymhellion yn gofyn am ymdrech ar y cyd gan ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau rhannu fideos, y Llywodraeth ac Ofcom.

  1. Amlygrwydd cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus a pha mor hawdd yw dod o hyd iddynt ar lwyfannau trydydd parti

Gyda mwy o wylwyr yn symud i lwyfannau trydydd parti, mae angen i gwmnïau cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus weithio gyda'r llwyfannau hyn er mwyn i gynulleidfaoedd allu gweld a dod o hyd i gynnwys cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus.

Fel mater o flaenoriaeth, dylai darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus fynd ati ar frys i weithio gyda YouTube er mwyn sicrhau bod cynnwys cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn amlwg ac yn hawdd dod o hyd iddo ar y llwyfannau, a hynny ar delerau masnachol teg. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer newyddion a chynnwys i blant, a chredwn fod achos cryf i'r Llywodraeth ddeddfu er mwyn galluogi'r newid.

YouTube yw’r safle fideos mwyaf poblogaidd yn y byd; mae’n cael ei wylio gan 43% o blant 4-17 oed bob wythnos. Mae sgriniau teledu hefyd yn prysur ddod yn fwy poblogaidd ar gyfer gwylio cynnwys YouTube. [2]

  1. Cyllid sefydlog a digonol i gynnal amrywiaeth eang o gynnwys cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys newyddion a chynnwys i blant

Mae’r diwydiant yn argymell y bydd angen cyllid cyhoeddus ychwanegol i gefnogi genres penodol. Dyma fater i'r Llywodraeth ei ystyried. Rydym yn argymell bod blaenoriaeth yn cael ei rhoi i genres sy'n gymdeithasol werthfawr ond sy'n llai hyfyw yn fasnachol, fel newyddion, newyddion lleol a chynnwys i blant.

  1. Eglurder ar frys ynghylch sut bydd teledu'n cael ei ddosbarthu yn y dyfodol.

Yn ein hadolygiad o'r opsiynau ar gyfer dyfodol teledu daearol digidol (y rhwydwaith sy'n cefnogi Freeview), dywedom y byddai angen penderfyniad gan y Llywodraeth o fewn y ddwy flynedd nesaf ac rydym yn dal i gredu y byddai penderfyniad ddechrau 2026 yn caniatáu digon o amser. Gallai penderfyniad diweddarach danseilio'r buddsoddiad a'r arloesedd sydd eu hangen i roi dosbarthiad teledu cyffredinol ar sylfaen sy’n gynaliadwy ac yn gynhwysol i bob cynulleidfa. Mae darparu cynnwys dros fastiau daearol, yn ogystal â nifer o lwyfannau digidol, yn costio'n ddrud iawn. Mae angen gwneud penderfyniad cynnar i ganiatáu digon o amser ar gyfer y gwaith cynllunio, buddsoddi ac arloesi sydd ei angen i reoli newid cynhwysol.

  1. Rhaid i gwmnïau cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus feithrin partneriaethau strategol uchelgeisiol ar raddfa fawr

Mae graddfa'n hanfodol er mwyn i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus a darlledwyr domestig eraill gysylltu â chynulleidfaoedd ac chystadlu â’r llwyfannau ffrydio byd-eang y maent – mewn rhai achosion – yn dibynnu arnynt i gyrraedd gwylwyr.

Mae angen cynnal plwraliaeth a chystadleuaeth, ond rhaid i ddarlledwyr fod yn fwy uchelgeisiol wrth fynd ar drywydd partneriaethau strategol a thechnolegol.

  1. Rhaid i ddarlledwyr a llwyfannau ar-lein fuddsoddi mewn ymwybyddiaeth o'r cyfryngau

Mae sgiliau ymwybyddiaeth o'r cyfryngau yn hanfodol ar gyfer defnyddio, deall a llywio gwasanaethau digidol, ac ar gyfer ymgysylltu'n feirniadol â newyddion a chynnwys arall. Mae gan bawb ran i'w chwarae o ran ymwybyddiaeth o'r cyfryngau – gan gynnwys y Llywodraeth.

Mewn byd lle mae'n dod yn fwyfwy anodd gwahaniaethu rhwng ffaith a ffuglen neu sylwi ar arferion twyllodrus, rydym yn argymell yn gryf bod darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus – sydd mewn sefyllfa unigryw i gefnogi cynulleidfaoedd – yn buddsoddi yn y maes hwn.

Cyn bo hir, bydd Ofcom yn cyhoeddi 'datganiad o argymhellion' o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, sy'n nodi sut dylai gwasanaethau ar-lein – gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau rhannu fideos – alluogi ymwybyddiaeth o'r cyfryngau drwy ddyluniad.

  1. Proses reoleiddio symlach sy'n cael gwared ar gyfyngiadau diangen sydd wedi dyddio

Cafodd llawer o'r fframwaith deddfwriaethol a rheoleiddiol presennol ei ddylunio ar gyfer byd teledu llinol, traddodiadol.

Ochr yn ochr â'n gwaith o weithredu'r Ddeddf Cyfryngau, sy'n darparu cymorth hollbwysig i gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus, rydym yn lansio adolygiad sylfaenol o'n gwaith o reoleiddio teledu a radio a ddarlledir. Byddwn yn gofyn am fewnbwn gan randdeiliaid ynghylch y meysydd blaenoriaeth ar gyfer diwygio’r broses reoleiddio a chefnogi'r gwaith o ddarparu cynnwys cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn y dyfodol. Byddwn yn edrych ar ba ddiwygiadau pellach sydd eu hangen i sicrhau bod y gwaith rheoleiddio'n cefnogi pob cynulleidfa sy'n elwa ar gynnwys cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn y dyfodol, a sut gallwn ni sicrhau bod cynulleidfaoedd yn cael eu diogelu rhag niwed lle bynnag y bônt. Gall hyn gynnwys newid deddfwriaethol yn ogystal â newidiadau i'n gwaith rheoleiddio.

Y cam cyntaf fydd cais cynhwysfawr am dystiolaeth yn yr hydref. Rydym hefyd yn gweithio gyda'r Llywodraeth ar ei hadolygiad o Siarter y BBC a fydd yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o gefnogi dyfodol cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus.

Argyfwng darlledu

Mae cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn cefnogi sector cynhyrchu'r DU – arweinydd byd-eang sy'n cyfrannu'n ystyrlon at yr economi greadigol ac yn denu buddsoddiad sylweddol i'r DU.

Ond mae gwylwyr bellach yn treulio llai na hanner eu hamser gwylio yn y cartref yn gwylio sianeli teledu llinol traddodiadol, ac mae hyn yn gostwng. Y llynedd, roedd llai na hanner (48%) y bobl ifanc 16-24 oed yn gwylio teledu a ddarlledir mewn wythnos arferol, ac mae plant iau yn treulio llawer mwy o amser yn gwylio YouTube.

Ar ben hynny, nid yw chwaraewyr fideo ar-alw’r cwmnïau cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus ond yn cyfrif am 9% o'r holl wylio, sy'n sylweddol is na gwasanaethau ffrydio drwy danysgrifiad (15%) a llwyfannau rhannu fideos ar-lein (19%). Mae lefelau’r defnydd o newyddion ar-lein – lle gall camwybodaeth a thwyllwybodaeth ffynnu – yn dal i ymwthio ymhellach ar y blaen i newyddion teledu a ddarlledir. [3]

Dywedodd Cristina Nicolotti Skeers, Cyfarwyddwr Grŵp Darlledu a'r Cyfryngau, Ofcom: “Mae cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn rhan annatod o gymdeithas y DU. Mae'n sbarduno sgyrsiau, yn addysgu ac yn hysbysu, ac yn dod â ni at ein gilydd ar adegau o bwys cenedlaethol.

Ond mewn byd lle mae llwyfannau ffrydio byd-eang yn dominyddu, mae cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus mewn perygl o ddiflannu, ac mae amser yn brin i ymyrryd er mwyn eu diogelu.

Byddai ein cynllun chwe phwynt yn cynnwys cydweithrediad rhwng darlledwyr, llwyfannau ar-lein, y Llywodraeth ac Ofcom. Mae'n nodi llwybr clir a fyddai'n helpu i gynnal cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus ar gyfer y dyfodol.”


Nodiadau

  1. Y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus – y BBC, ITV, STV, Channel 4, Sianel 5 ac S4C – yw’r prif ddarparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus o hyd. Maent ar gael yn gyffredinol ac mae gofyn eu bod yn darparu newyddion dibynadwy, gan gynnwys newyddion lleol, ac amrywiaeth ddigyffelyb o raglenni o ansawdd uchel yn y DU sy'n diwallu anghenion a buddiannau cynulleidfaoedd y DU.
  2. Cyfryngau'r Genedl, Ofcom 2024. Mae tri deg pedwar y cant o’r amser a dreulir yn gwylio YouTube gartref bellach yn digwydd ar set deledu – i fyny o 29% yn 2022. Mae hyn yn cynyddu i 45% ymysg plant 4-15 oed – i fyny o 36% yn 2022.
  3. Cyfryngau'r Genedl, Ofcom 2024. Crynodeb o'r prif dueddiadau Canfyddiadau o adroddiad Cael Gafael ar Newyddion Ofcom 2025 a gyhoeddwyd heddiw.
Yn ôl i'r brig