
Heddiw, mae Ofcom wedi agor ymchwiliad i gydymffurfiad y Post Brenhinol â’i rwymedigaethau rheoleiddio ar gyfer 2024/25, ar ôl i’r cwmni gyhoeddi canlyniadau ei berfformiad dosbarthu blynyddol y prynhawn yma.
Mesur perfformiad
O dan ein rheolau, mae’n rhaid i’r Post Brenhinol gyrraedd targedau perfformiad dosbarthu penodol dros y flwyddyn ariannol gyfan, ac eithrio cyfnod y Nadolig.[1] Ymysg targedau eraill, mae’n rhaid i’r Post Brenhinol gyflawni’r canlynol:
- dosbarthu 93% o bost Dosbarth Cyntaf o fewn un diwrnod gwaith ar ôl ei gasglu; a
- dosbarthu 98.5% o bost Ail Ddosbarth o fewn tri diwrnod gwaith ar ôl ei gasglu.
Mae’r Post Brenhinol wedi cydnabod heddiw nad oedd wedi cyrraedd y targedau perfformiad uchod yn 2024/25, gan ei fod wedi gwneud y canlynol:
- dosbarthu 76.5% o bost dosbarth cyntaf o fewn un diwrnod gwaith i'w gasglu; a
- dosbarthu 92.2% o bost ail ddosbarth o fewn tri diwrnod gwaith i'w gasglu
Yr hyn y byddwn yn ymchwilio iddo
Byddwn yn ymchwilio i weld a oes sail resymol dros gredu bod y Post Brenhinol wedi methu â chydymffurfio â’i rwymedigaethau yn 2024/25.
Os byddwn yn penderfynu bod y Post Brenhinol wedi methu â chydymffurfio â’i rwymedigaethau, byddwn yn ystyried a ddylid gosod cosb ariannol.
Ym mis Rhagfyr 2024, rhoddodd Ofcom ddirwy o £10.5m i’r cwmni am fethu â chyrraedd ei dargedau dosbarthu Dosbarth Cyntaf ac Ail Ddosbarth yn 2023/24; ac ym mis Tachwedd 2023, rhoddwyd ddirwy o £5.6m iddo am fethu â chyrraedd ei dargedau yn 2022/23.
Diwedd
Nodiadau i olygyddion:
1. Mae’r Post Brenhinol wedi’i eithrio rhag ei dargedau yn ystod ‘cyfnod y Nadolig’, sy’n cael ei ddiffinio fel y cyfnod sy’n dechrau ar y dydd Llun cyntaf ym mis Rhagfyr ac sy’n dod i ben ar wyliau cyhoeddus y Flwyddyn Newydd yn y mis Ionawr canlynol.