
Heddiw, mae Ofcom yn rhoi cosb ariannol o £375,000 i’r sianel grefyddol, The Word Network, am dorri ein rheolau darlledu ar nifer o achlysuron.
Ar ôl derbyn cwynion gan wylwyr – ac mewn un achos, yn dilyn gweithgarwch monitro arferol – gwnaethom lansio ymchwiliadau i'r rhaglenni canlynol:
- Stem Cell Activators, a ddarlledwyd ar 24 Gorffennaf 2023
- Penodau amrywiol o Peter Popoff Ministries, a ddarlledwyd ar 6 Rhagfyr 2023 (ailadroddwyd ar 8 Rhagfyr 2023); 7 Rhagfyr 2023; 11 Rhagfyr 2023; a 12 Rhagfyr 2023
- Peter Popoff Ministries, a ddarlledwyd ar 24 Mai 2024
Daeth ein hymchwiliadau i'r casgliad bod y rhaglen Stem Cell Activators yn gwneud honiadau di-sail y gellid trin cyflyrau meddygol difrifol trwy ddefnyddio cynhyrchion penodol heb drwydded, a hyrwyddwyd yn y rhaglen. Roedd rhaglenni Peter Popoff yn hyrwyddo ac yn gwneud honiadau di-sail bod defnyddio cynnyrch penodol neu gysylltu â gweinidogaeth grefyddol yn effeithiol wrth drin cyflyrau meddygol difrifol neu liniaru anawsterau ariannol. Wrth ddarlledu'r rhaglenni hyn, methodd y Word Network â diogelu gwylwyr rhag niwed yn ddigonol.
O ystyried natur ddifrifol ac, mewn rhai achosion, ailadroddus yr achosion diofal hyn o dorri’r rheolau, mae Ofcom wedi gosod cosbau ariannol o £50,000 ar The Word Network am ddarlledu Stem Cell Activators, a chosbau o £150,000 a £175,000 ar gyfer darlledu’r Peter Popoff Ministries ym mis Rhagfyr 2023 a Mai 2024, yn y drefn honno. Bydd taliadau’r cosbau hyn yn cael eu trosglwyddo i Drysorlys EF.