
Heddiw, mae Ofcom wedi dyfarnu trwyddedau amlblecs DAB ar raddfa fach ar gyfer pedair ardal arall ledled y DU.
Mae DAB ar raddfa fach yn dechnoleg arloesol sy'n darparu ffordd cost isel i wasanaethau cerddoriaeth masnachol, cymunedol ac arbenigol lleol fynd i'r tonnau awyr digidol.
Hyd yn hyn, mae 82 o amlblecsiau wedi lansio gwasanaethau darlledu i wrandawyr ym mhob un o'r pedair gwlad yn y DU. At ei gilydd, bydd y rhaglen DAB ar raddfa fach yn ei gwneud yn bosib i lansio dros 100 o amlblecsiau.
Yn dilyn proses gystadleuol, lle cafodd pob ymgeisydd ei farnu yn erbyn meini prawf penodol, dyfarnwyd trwyddedau amlblecs ar gyfer y meysydd canlynol:
- Ely a March: dyfarnwyd trwydded i Fen Radio Limited
- Market Harborough: trwydded wedi'i ddyfarnu i Creativity Media Services Limited
- Wakefield a Castleford: trwydded a ddyfarnwyd i Mid Yorkshire DAB Limited
- Wellingborough: dyfarnwyd trwydded i Steers Media Limited
Ymgynghori ar newid amledd canol Swydd Gaer
Ar wahân, mae Ofcom heddiw yn ymgynghori ar gais gan Niocast Digital Ltd i newid yr amledd y mae amlblecs radio ar raddfa fach Canol Swydd Gaer yn cael ei ddarlledu arno.
Rydym yn bwriadu cymeradwyo'r cais hwn, yn amodol ar ymatebion i'n hymgynghoriad, y mae'n rhaid eu cyflwyno erbyn dydd Mercher 14 Ionawr.