
Heddiw, mae ymchwiliad gan Ofcom wedi canfod bod rhaglen ddogfen y BBC ‘Gaza: How to Survive a Warzone’ wedi torri rheolau darlledu sy'n nodi na ddylai rhaglenni ffeithiol gamarwain y gynulleidfa yn sylweddol.
Derbyniodd Ofcom 20 o gŵynion, a oedd wedi bod drwy’r broses "BBC yn Gyntaf". Ystyriodd ein hymchwiliad hefyd ganfyddiadau adolygiad mewnol y BBC ei hun, a ddaeth i'r casgliad bod y rhaglen wedi torri ei Ganllawiau Golygyddol ar gywirdeb.
Ein canfyddiadau
Canfu ein hymchwiliad fod methiant y rhaglen i ddatgelu bod tad yr adroddwr yn gweithio i weinyddiaeth Hamas yn faterol gamarweiniol. Roedd yn golygu nad oedd gan y gynulleidfa wybodaeth hanfodol a allai fod bod yn berthnasol iawn i'w hasesiad o'r adroddwr a'r wybodaeth a ddarparwyd ganddo.
Mae ymddiriedaeth wrth wraidd y berthynas rhwng darlledwr a'i gynulleidfa, yn enwedig yn achos darlledwr gwasanaeth cyhoeddus fel y BBC. Roedd potensial i’r methiant hwn erydu'r lefelau uchel iawn o ymddiriedaeth y byddai cynulleidfaoedd wedi'u rhoi mewn rhaglen ffeithiol y BBC am y rhyfel rhwng Israel a Gaza.
Gan fod hwn yn achos difrifol o dorri’r rheolau, rydym yn cyfarwyddo’r BBC i ddarlledu datganiad o'n canfyddiadau yn ei erbyn ar BBC2 am 21:00, gyda dyddiad i'w gadarnhau.
Mae rhagor o wybodaeth am ein penderfyniad ar gael.