
Heddiw mae Ofcom yn gwahodd gorsafoedd radio cymwys i ymgeisio am wobrau o’r Gronfa Radio Cymunedol 2025-26.
Mae’r Gronfa Radio Cymunedol yn rhaglen grant a sefydlwyd er mwyn cefnogi cynaladwyedd a thyfiant gorsafoedd radio cymunedol sydd wedi’u trwyddedu gan Ofcom. Mae’r gorsafoedd hyn yn ddi-elw ac yn anelu at wasanaethu cymunedau penodol gyda rhaglennu lleol a buddiannau cymdeithasol. Caiff ei ddyrannu gan yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a’i reoli gan Ofcom.
Y cyfanswm ar gael dros 2025-26 ydy £901.742, sy’n cynnwys £900,000 wedi ei ddyrannu gan DCMS a £1,742 mewn arian a ddychwelwyd.
O achos cynnydd sylweddol mewn cyllid, bydd Ofcom yn gweinyddu un rownd o gyllid, yn hytrach na’r ddau arferol. Mae hyn er mwyn rhoi mwy o amser i ymgeiswyr baratoi, er mwyn sicrhau effeithlonrwydd yn y broses.
Bydd grantiau ar gael i orsafoedd radio cymunedol trwyddedig Ofcom yn y DU, sy’n darlledu ar AM, FM neu trwy drwydded Rhaglen Sain Ddigidol Gymunedol ar radio digidol amlbleth yn unig.
Rydym yn annog pob ymgeisydd i ddarllen y nodiadau canllaw yn ofalus cyncyflwyno cais.
Bydd ceisiadau’n cau am 5pm ar Ddydd Sul 5 Hydref 2025. Rydym yn disgwyl y bydd y Panel Cronfa Radio Cymunedol yn cwrdd yn gynnar yn Ionawr 2026 er mwyn ystyried y ceisiadau a dderbynnir.