Community-Radio-(web)

Helpu gorsafoedd radio cymunedol i fesur eu heffaith gymdeithasol

Cyhoeddwyd: 27 Mehefin 2025

Mae gorsafoedd radio cymunedol yn cefnogi cymunedau lleol ar hyd a lled y wlad, ond mae llawer yn ei chael hi’n anodd adrodd ar eu heffaith, yn ôl ymchwil newydd gan Ofcom a gyhoeddwyd heddiw.

Mae gorsafoedd radio cymunedol yn rhoi llais i gannoedd o gymunedau lleol ar hyd a lled y DU. A hwythau’n cael eu gyrru gan waith caled a brwdfrydedd gwirfoddolwyr, maent yn adlewyrchu cymysgedd amrywiol o ddiwylliannau a diddordebau drwy eu cynnwys a gynhyrchir yn lleol.

Mae ymchwil newydd gan Ofcom, a gynhaliwyd gan Wavehill ac a gyhoeddwyd heddiw, yn datgelu bod gorsafoedd radio cymunedol yn sicrhau manteision sylweddol i'w gwrandawyr a'u cymunedau lleol, ar yr awyr ac oddi ar yr awyr.

Roedd y manteision yn cynnwys darparu ffynonellau dibynadwy o newyddion lleol, yn enwedig mewn cyfnodau o argyfwng; cyrraedd cynulleidfaoedd sydd yn aml yn cael eu tanwasanaethu gan y cyfryngau prif ffrwd; darparu cwmni i wrandawyr hŷn a'r rhai sy'n wynebu allgáu; hyrwyddo celfyddydau a diwylliant lleol; a mynd i'r afael â materion cymdeithasol pwysig.

Ac mae gorsafoedd cymunedol yn effeithio ar eu hardaloedd oddi ar yr awyr hefyd - o greu cyfleoedd gwirfoddoli i drefnu digwyddiadau, sioeau teithiol a rhaglenni allgymorth.

Dywedodd Cristina Nicolotti Squires, Cyfarwyddwr Grŵp Darlledu a'r Cyfryngau Ofcom: Mae'r ymchwil bwysig hon yn dangos y gwerth sylweddol y mae'r gwasanaethau hyn yn ei roi i gynulleidfaoedd lleol ledled y wlad. Mae'r adroddiad hefyd yn darparu ystod o offer y gallant eu defnyddio i gyflawni eu huchelgeisiau am fudd cymdeithasol yn well yn y dyfodol. Edrychaf ymlaen at weld y sector yn parhau i ffynnu a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w cymunedau.

Rhwystrau a heriau

Mae’n hanfodol mesur ac adrodd ar effaith cyllid, gwirfoddoli a mentrau eraill yn llwyddiannus er mwyn creu gorsaf radio gynaliadwy. Gall arwain at fwy o gyfleoedd cyllido, llwyddiant wrth recriwtio gwirfoddolwyr, a chefnogaeth gymunedol gryfach.

Ond er bod yr ymchwil wedi canfod bod ychydig dros hanner (56%) y gorsafoedd radio cymunedol yn mesur y manteision cymdeithasol y maent yn eu darparu ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf yn dweud nad oes ganddynt yr amser, y cyllid na’r staff i flaenoriaethu hyn. Mae casglu adborth gan wrandawyr yn her allweddol, yn enwedig heb rolau na systemau penodol.

Yn gysylltiedig â hyn, dywedodd tua thraean (34%) o orsafoedd cymunedol nad oedd ganddyn nhw amcangyfrif o'u nifer o wrandawyr.

Canllawiau ymarferol ar gyfer mesur ac adrodd

Mewn ymateb i’r heriau hyn, mae Ofcom heddiw wedi cyhoeddi set o adnoddau y gall gorsafoedd radio cymunedol eu defnyddio i ddangos y manteision cymdeithasol y maent yn eu creu. Dylid defnyddio’r rhain fel canllawiau yn unig, er mwyn rhoi’r hyblygrwydd i orsafoedd radio benderfynu beth sy’n gweithio iddyn nhw.

Mae'r canllawiau'n cynnwys:

  • Arolwg gwrandawyr a ddefnyddir i asesu cyrhaeddiad cynulleidfaoedd, ymgysylltiad, a manteision canfyddedig.
  • Dulliau gwerthuso gwirfoddolwyr i fesur datblygiad sgiliau, hyder, a chanlyniadau cyflogadwyedd.
  • Templed astudiaeth achos safonol i ddogfennu ac arddangos enghreifftiau o enillion cymdeithasol.
  • Cyfrifiannell gwerth cymdeithasol i fesur manteision cymdeithasol mewn termau ariannol lle bo modd
  • Adolygiad o lenyddiaeth a damcaniaeth newid lefel uchel, i ddangos sut mae gweithgareddau'n arwain at ganlyniadau cymdeithasol ehangach.
Yn ôl i'r brig