Mae'n ofynnol i'r sector Radio Cymunedol ddarparu buddion i'r gymuned y mae'n bwriadu ei gwasanaethu, ar yr awyr ac oddi ar yr awyr. Fodd bynnag, ar hyn o bryd nid oes dull safonol o fewn y sector i fesur y budd cymdeithasol y mae gorsafoedd yn ei ddarparu, sy'n golygu y gall fod yn heriol i'r gorsafoedd hyn ddangos y gwaith cadarnhaol maen nhw'n ei wneud.
Ar ôl gwrando ar yr heriau hyn, comisiynodd Ofcom ymchwil newydd a gynhaliwyd gan Wavehill i ddatblygu adroddiad y gall gorsafoedd Radio Cymunedol ei ddefnyddio i gefnogi mesur budd cymdeithasol. Ceisiodd yr ymchwil hwn ddeall yn well sut mae gorsafoedd yn mesur budd cymdeithasol ar hyn o bryd, nodi'r heriau y mae gorsafoedd yn eu hwynebu a darparu adnoddau ymarferol i orsafoedd eu defnyddio.